Yr Hwiangerddi | Page 8

Owen M. Edwards
berwi,
Shini a Shani yn

gweithio tan dani;
Shani'n ei phuro a phupur a fflwr,
Ychydig o
laeth, a llawer o ddwr.
CLXXXIX. WRTH Y TAN.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dwr ar y tan i olchi'r llestri;

Crafwch y crochan gael creifion i'r ci,
A hefyd gwnewch gofio
Rhoi llaeth i'r gath ddu.
CXC. PAWB WRTHI.
Y ci mawr yn pobi,
Y ci bach yn corddi,
A'r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lan;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio'r bara'n crasu,

A'r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tan.
CXCI., CXCII. TE A SIWGR GWYN.
Hen ferched bach y pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,
A chadw dim i'r llancie.
Bara a llaeth i'r llancie,
Ceirch i'r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i'r genod.
CXCIII. SI SO.
Si so, jac y do,
Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu'r to,
Yn gwerthu'r
mawn a phrynnu'r glo,
Yn lladd y fuwch a blino'r llo,
Yn cuddio'r
arian yn y gro,
A mynd i'r Werddon i roi tro,
Si so, jac y do.
CXCIV. I'R SIOP.
Mae gen i ebol melyn

Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I'r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.
CXCV. CADW CATH DDU.
Mae gen i gath ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a barf,

A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn lluoedd o'r ardd;
Daw eilwaith i'r ty,
Hi
gurith y ci,--
Mi rown i chwi gyngor
I gadw cath ddu.
CXCVI. NEWID BYD.
Ar ol bod yn ferch ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,
A'm gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;
A'm sgidiau wedi eu polsio,
A'r rheiny'n cau yn glos,--
Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.
CXCVII. SIOM.
'Rown i'n meddwl, ond priodi,
Na chawn i ddim ond dawnsio a chanu;

Ond y peth a ges i wedi priodi,
Oedd siglo'r cryd a suo'r babi.
CXCVIII. RHY WYNION.

Mae mam ynghyfraith, hwnt i'r afon,
Yn gweld fy nillad yn rhy
wynion;
Mae hi'n meddwl yn ei chalon
Mai 'mab hi sy'n prynnu'r
sebon.
CXCIX. DIM GWAITH.
Ysgafn boced, dillad llwyd,
Mawr drugaredd yw cael bwyd;
Mynd
o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;
Ymofyn gwaith, dim gwaith,
Trwm yw'r tro.
CC. PWY FU FARW?
Pwy fu farw?
"Sion Ben Tarw."
Pwy geiff y gwpan?
"Sion Ben
Tympan."
Pwy geiff y llwy?
"Pobol y plwy."
CCI. P'LE MAE DY FAM?
Titw bytaten, i ble'r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;

Gwraig y ty nesaf a'i triniodd hi'n frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng
nghaead y stwnt.
CCII. DAU ROBIN.
Crio, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;
Canu, canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.
CCIII., CCIV. SION.
Sion i fyny, Sion i wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion a wyr
yn well na'r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.

Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac os
bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.
CCV. ABER GWESYN.
Abergwesyn, cocyn coch,
Mae cloch yn Abertawe;
Mae eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament yn Llunden.
CCVI. CORWEN.
Neidiodd llyffant ar ei naid
O Lansantffraid i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;
Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond ynghanol caerau Corwen.
CCVII. DYFED.
Dincyll, doncell, yn y Bridell;
Tair cloch arian yng Nghilgeran;
Uch
ac och yn Llandudoch;
Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;
Llaeth a
chwrw yn Eglwys Wrw;
Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.
CCVIII. RHUDDLAN.
Y cobler coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y cwd aeth hefo'r afon,
Y gath a ddaeth i'r lan,
Ow'r cobler coch o Ruddlan,
On'd oedd o'n foddwr gwan?

CCIX., CCX. AMEN.
"John, John, gymri di jin?"
"Cymra, cymra, os ca i o am ddim;"

"Amen," meddai'r ffon,
"Dwgyd triswllt o siop John."
Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,
Lladron yn dwad dan weu
hosanau,
Taflu y 'sanau dros ben y cloddiau;
"Amen," meddai'r ffon,
"Dwgyd sofren o siop John."
CCXI. JINI.
Welsoch chwi Jini mewn difri?
Yn tydi hi'n grand aneiri?
Heten
grand, a bwcwl a band,
Yn tydi hi'n grand, mewn difri?
CCXII. DAFYDD.
Bachgen da 'di Dafydd,
Gwisgo'i sgidie newydd;
Cadw'r hen rai tan
yr ha,
Bachgen da 'di Dafydd.
CCXIII. MAM YN DOD.
Dacw mam yn dwad
Wrth y garreg wen,
Menyn yn 'i ffedog,
A blawd ar 'i phen;
Mae'r fuwch yn y beudy
Yn brefu am y llo,
A'r llo yr ochr arall
Yn chware banjo.
CCXIV. ROBIN YN DOD.
Cliriwch y stryd, a sefwch yn rhenc;
Mae Robin, ding denc, yn dwad.

CCXV. BACHGEN BACH OD.
Bachgen bach o Felin y Wig,
Welodd o 'rioed damaid o gig;

Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.
CCXVI. CAM A FI.
Di-ling, di-ling, pwdin yn brin;
Meistr yn cael tamed, finne'n cael
dim.
CCXVII. NED DDRWG.
Nedi ddrwg, o dwll y mwg,
Gwerthu 'i fam am ddime ddrwg.
CCXVIII. OED Y BACHGEN.
"Be 'di dy oed di?"
Yr un
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.