Yr Hwiangerddi | Page 9

Owen M. Edwards
oed a bawd fy nhroed,
A thipyn hyn na
nannedd.
CCXIX. Y BYSEDD.
Fini, fini, Fawd,
Brawd y Fini Fawd,
Wil Bibi,
Sion Bobwr,

Bys bach, druan gwr,
Dal 'i ben o dan y dwr.
CCXX. SI BEI.
Cysga bei, babi,
Yng nghol dadi;
Neu daw'r baglog mawr
I dy
mo'yn di'n awr.
CCXXI. GA I FENTHYG CI?
Welwch chwi fi, a welwch chwi fi?
Welwch chwi'n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i'r Llan;
Mae ci modryb Elin

Wedi mynd i'r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae
ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn

methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan
hefo'n ci ni;
A chi modryb Ann Ty'n y Coed
Wedi llosgi 'i droed
Mewn padell fawr o bwdin.
CCXXII. CHWALU.
Chwllio'r ty a chwalu'r to,
A thynnu efo thennyn,
O forfa Caer i furiau Cent,
Nadolig sy yn dilyn;
A dal y lladron cas a hy,
Fu'n torri ym Mhlas y Celyn.
CCXXIII. PONT LLANGOLLEN.
Mi weles ddwy lygoden,
Yn cario pont Llangollen;
Yn ol a blaen o
gylch y ddol,
Ac yn eu hol drachefen.
CCXXIV. ROBIN GOCH RHIWABON.
Robin goch o blwy Rhiwabon,
Lyncodd bar o fachau crochon;
Bu'n
edifar ganddo ganwaith,
Eisieu llyncu llai ar unwaith.
CCXXV. MEDR ELIS.
Tri pheth a fedr Elis,--
Rhwymo'r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a'i
roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.
CCXXVI. BWCH Y WYDDFA.
'Roedd bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A'r llall yn Ynys Enlli,

Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy'r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.
CCXXVII. CEFFYL JOHN BACH.
Hei gel, i'r dre; hei gel, adre,--
Ceffyl John bach mor gynted a
nhwnte.
CCXXVIII. DADL DAU.
Sion a Gwen sarrug,
Ryw nos wrth y tan,
Wrth son am eu cyfoeth,
I ymremian yr aen;
Sion fynnai ebol
I bori ar y bryn,
A Sian fynnai hwyaid
I nofio ar y llyn.
CCXXIX. YR HAFOD LOM.
Mi af oddiyma i'r Hafod Lom,
Er ei bod hi'n drom o siwrne,
Mi gaf yno ganu cainc
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac, ond odid; dyna'r fan
Y bydda i tan y bore.
CCXXX. COED Y PLWY.
Helyg a bedw, gwern a derw,
Cyll, a mall, a bocs, ac yw;
A choed shirins {88a} a gwsberins {88b},

A chelynen werddlas wiw.
CCXXXI. HEN WRAIG SIARADUS.
Hen wraig o ymyl Rhuthyn,
Aeth i'r afon i olchi pwdin;
Tra bu'n
siarad a'i chymdogion,
Aeth y pwdin efo'r afon,
Ar ol y cwd.
CCXXXII. MOCHYN BACH.
Jim Cro crystyn,
Wan, tw, and ffor;
Mochyn bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.
CCXXXIII. RHYFEDD IAWN.
Aeth hen wraig i'r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi'n ol 'roedd y
plant wedi marw;
Aeth i'r llofft i ganu'r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.
CCXXXIV. Y STORI.
Hen wraig bach yn y gornel,
A phib yn ei phen;
Yn smocio llaeth enwyn,--
Dyna'r stori ar ben.
CCXXXV. CARLAM.
Calap ar galap, a'r asyn ar drot,
A finne'n clunhercan yn ddigon o
sport.
CCXXXVI. CALENNIG.

Calennig i mi, calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;

Calennig i'm tad am glytio'm sgidiau,
Calennig i'm mam am drwsio'm
sanau.
CCXXXVII. CARTREF.
Dacw nhad yn naddu,
A mam a nain yn nyddu,
Y naill a'r droell
fawr, a'r llall a'r droell fach,
A nhaid yn y gornel yn canu.
CCXXXVIII. DAFAD.
Dafad ddu {91}
Finddu, fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a
chudyn a chynffon ddu.
CCXXXIX. ADERYN Y BWN.
Aderyn y bwn a bama,
A aeth i rodio'r gwylia,
Ac wrth ddod adra
ar hyd y nos,
Fe syrthiodd i ffos y Wyddfa.
CCXL. TAITH.
Mali bach a finna,
Yn mynd i ffair y Bala;
Dod yn ol ar gefn y fran,
A phwys o wlan am ddima.
CCXLI. CYFOETH SHONI.
Shoni o Ben y Clogwyn
Yn berchen buwch a llo,
A gafar bach a mochyn,
A cheiliog,--go-go-go!
CCXLII. A DDOI DI?

A ddoi di, Mari anwyl,
I'r eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A'm calon ydwyt ti.
CCXLIII. GWLAN CWM DYLI.
Faint ydyw gwIan y defaid breision,
Hob y deri dando,
Sydd yn pori yn sir Gaernarfon?
Dyna ganu eto.
"Ni gawn goron gron eleni,"--
Tewch, taid, tewch,--
"Am oreu gwlan yn holl Eryri."
Hei ho! Hali ho!
Gwlan Cwm Dyli, dyma fo.
CCXLIV., CCXLV. BUM YN BYW.
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Bum
yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn
byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil.
CCXLVI. PEN Y MYNYDD DU.
Ple mae mam-gu?
"Ar ben y Mynydd Du."
Pwy sydd gyda hi?

"Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw
i lawr dros yr Heol Fawr."
CCXLVII. GWAITH TRI.
'Roedd Sion, a Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela'r cadno,

A Sian i hela'r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw'r ty.
CCXLVIII. LADIS.
Ladis bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.