Yr Hwiangerddi | Page 7

Owen M. Edwards

CLIII. APEL.
Glaw bach, cerr ffordd draw,
A gad i'r haul ddod yma.
CLIV. SAETHU LLONGAU.
Welsoch chwi wynt, welsoch chwi law?
Welsoch chwi dderyn bach
ffordd draw?
Welsoch chwi ddyn a photasen ledr,
Yn saethu
llongau brenin Lloegr?
CLV. CEINIOG I MI.
Si so, si so,
Deryn bach ar ben y to;
Ceiniog i ti,
Ceiniog i mi,
A cheiniog i'r iar am ddodwy,
A
cheiniog i'r ceiliog am ganu.
CLVI. Y TYWYDD.
Bys i fyny, teg yfory;
Bys i lawr, glaw mawr.
CLVII., CLVIII. CALANMAI.
Daw Clame, daw Clame,
Daw dail ar bob twyn,--
Daw meistr a meistres
I edrych yn fwyn.
A minne, 'rwy'n coelio,
Yn hela i'm co,
I'r gunog laeth enwyn
Fod ganwaith dan glo.
CLIX. CATH DDU.

Amen, person pren,
Cath ddu a chynffon wen.
CLX. MYND A DOD.
Hei ding, diri diri dywn,
Gyrru'r gwyddau bach i'r cawn;
Dwad 'nol
yn hwyr brynhawn,
A'u crombilau bach yn llawn.
CLXI. GYRU GWYDDAU.
Hen wraig bach yn gyrru gwyddau,
Ar hyd y nos;
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos;
Ac yn dwedyd wrth y llanciau,
"Gyrrwch chwi, mi
ddaliaf finnau,"
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.
CLXII. BWRW EIRA.
Hen wraig yn pluo gwyddau,
Daw yn fuan ddyddiau'r gwyliau.
CLXIII. BETH SYDD GENNYF.
Mae gen i iar, mae gen i geiliog,
Mae gen i gywen felen gopog;

Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,
Mae gen i gyrnen fawr o wenith.
CLXIV. TAIR GWYDD.
Gwydd o flaen gwydd,
Gwydd ar ol gwydd,
A rhwng pob dwy
wydd, gwydd;
Sawl gwydd oedd yno?
CLXV., CLXVI. CARIAD Y MELINYDD.
Mi af i'r eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed y
merched wrth eu gilydd,--
"Dacw gariad Wil Felinydd."
Os Wil
Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith gwyn i

yrru'r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.
CLXVII. CARIAD ARALL.
Mae'n dda gen i fuwch,
Mae'n dda gen i oen,
Mae'n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;
Mae'n dda gen i 'r adar
Sy'n canu yn y llwyn.
Mae'n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn
gwisgo het befer ar ochor ei ben.
CLXVIII. GWRAIG.
Mi fynnai wraig, mi wranta,
Caiff godi'r bore'n nghynta;
Troed yn
ol a throed ymlaen,
A throed i gicio'r pentan.
CLXIX., CLXX. PRY BACH. {63}
Pry bach yn mynd i'r coed,
Dan droi 'i ferrau, dan droi 'i droed;

Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o'i sgidie.
Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,

Pry bach yn edrych am dwll,
A DYMA dwll, dwll, dwll, dwll,
dwll.
CLXXI. Y BYSEDD.
Bowden,
Gwas y Fowden,
Libar labar,
Gwas y stabal,
Bys bach,
druan gwr,
Dorrodd 'i ben wrth gario dwr
I mam i dylino.
CLXXII. CHWARE'R BYSEDD.

"I'r coed," medde Modryb y Mawd,
"I be?" medde Bys yr Uwd;
"I
ladrata," medde Hirfys;
"Beth os dalian ni?" medde'r Canol-fys;

"Dengwn, dengwn, rhag iddo'n dal ni,"
Medde'r Bys Bach.
CLXXIII. BWGAN.
Bwgan bo lol, a thwll yn 'i fol,
Digon o le i geffyl a throl.
CLXXIV. YR ENETH BENFELEN.
Mae geneth deg ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi'n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
CLXXV. Y WYLAN.
Y wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg,
ar aden wen,
O'r mor i ben ymynydd.
CLXXVI. FY NGHARIAD.
Dacw 'nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A
dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi'n siarad.
CLXXVII. DAU DDEWR.
Dau lanc ifanc yn mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;

Swn cacynen yn y rhedyn
A'u trodd nhw adre'n fawr eu dychryn.
CLXXVIII. LLANC.

Mi briodaf heddyw yn ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na
mam.
CLXXIX. YMFFROST.
Chwarelwr {67} oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw'r baban
Sy'n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o'n beth rhyfedd
Ein bod ni'n chwarelwyr i gyd?
CLXXX. Y RHYBELWR BACH. {68}
Rhybelwr bychan ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o'r wlad;
'Rwy'n medru naddu Princes,
Y Squares, a'r Counties bach,
Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.
CLXXXI. LLIFIO.
Llifio, llifio, llifio'n dynn,
Grot y dydd y flwyddyn hyn;
Os na
lifiwn ni yn glau,
'Nillwn ni ddim grot yn dau.
CLXXXII. GOLCHI LLESTRI.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dwr ar y tan i olchi'r llestri.
CLXXXIII. CAP.

Morus y gwynt,
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy nghap
I ganol y baw.
CLXXXIV. CLOCS.
Mae gen i bar o glocs,
A rheini'n bar go dda,
Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;
A saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.
CLXXXV. GLAW.
Glaw, glaw, cerdda draw;
Haul, haul, tywynna.
CLXXXVI. MERCHED DOL 'R ONNEN.
Mae'n bwrw glaw allan,
Mae'n deg yn y ty,
A merched Dol 'r Onnen
Yn cribo'r gwlan du.
CLXXXVII. LLIW'R GASEG.
Caseg winnau, coesau gwynion,
Groenwen denau, garnau duon;

Garnau duon, groenwen denau,
Coesau gwynion, caseg winnau.
CLXXXVIII. BERWI POTEN.
Hei, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.