torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.
CXXI. PRUN?
Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,--
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,--
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."
CXXII. DAMWAIN.
Shigwti wen Shon-Gati,
Mae crys y gwr heb olchi,
Fe aeth yr
olchbren gyda'r nanf,
A'r wraig a'r plant yn gwaeddi.
CXXIII. COED TAN.
Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y fran
O hynny
ymlaen.
CXXIV. FFAIR PWLLHELI.
Aeth fy Ngwen i ffair Pwllheli,
Eisio padell bridd oedd arni;
Rhodd
am dani saith o sylltau,
Cawswn i hi am dair a dimau.
CXXV. BORE GOLCHI.
Aeth fy Ngwen ryw fore i olchi,
Eisio dillad glan oedd arni;
Tra bu
Gwen yn 'mofyn sebon,
Aeth y dillad hefo'r afon.
CXXVI. BORE CORDDI.
Aeth fy Ngwen ryw fore i gorddi,
Eisio menyn ffres oedd arni;
Tra
bo Gwen yn 'mofyn halen,
Aeth y ci a'r menyn allan.
CXXVII. SEREN DDU.
Seren ddu a mwnci,
Sion y gof yn dyrnu,
Modryb Ann yn pigo pys,
A minnau'n chwys dyferu.
CXXVIII. BENTHYG LLI.
Si so gorniog,
Grot a pheder ceiniog,
Un i mi, ac un i chwi,
Ac un i'r dyn,
Am fenthyg y lli gorniog.
CXXIX. LLAWER O HONYNT.
Ceiliog bach y Wyddfa
Yn canu ar y bryn,
Hwyaid Aber Glaslyn
Yn nofio ar y llyn;
Gwyddau Hafod G'regog
Yn gwaeddi "wich di wach,"
A milgwn Jones Ynysfor
Ar ol y llwynog bach.
CXXX. LLE MAE PETHAU.
Mae yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae'n Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Bran
Mae ffynnon lan i ymolchi.
CXXXI. HEN LANC.
Briodi di?
Na wnaf byth!
Wyt ti'n siwr?
Ydw'n siwr.
Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond poenau lond fy nyth.
CXXXII. CARU FFYDDLON.
Mae nhw'n dwedyd ac yn son
Mod i'n caru yn sir Fon;
Minne sydd
yn caru'n ffyddlon
Dros y dwr yn sir Gaernarfon.
CXXXIII. CARU YMHELL.
Caru yng Nghaer, a charu yng Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd a
Derwen;
Caru 'mhellach dros y mynydd,
Cael yng Nghynwyd
gariad newydd.
CXXXIV. ELISABETH.
Elisabeth bach, a briodwch chwi fi?
Dyma'r amser gore i chwi;
Tra
bo'r drym yn mynd trwy'r dre,
Tra bo'ch calon bach yn ei lle.
CXXXV. SHONTYN.
Shontyn, Shontyn, y gwr tynn;
Clywed y cwbl, a dweyd dim.
CXXXVI. GLAW.
Mae'n bwrw glaw allan,
Mae'n hindda'n y ty,
A merched Tregaron
Yn chwalu'r gwlan du.
CXXXVII. Y CARWR TRIST.
Bachgen bach o Ddowles,
Yn gweithio'n ngwaith y tan,
Bron a thorri 'i galon
Ar ol y ferch fach lan;
Ei goesau fel y pibau,
A'i freichiau fel y brwyn,
Ei ben e fel pytaten,
A hanner llath o drwyn.
CXXXVIII. JOHN.
Ar y ffordd wrth fynd i Lerpwl,
Gwelais Iohn ar ben y cwpwr;
Gofynnnis iddo beth oedd o'n wneyd;
"Bwyta siwgwr, paid a deyd."
CXXXIX. BREUDDWYD.
Gwelais neithiwr, drwy fy hun,
Lanciau Llangwm bod yg un;
Rhai
mewn uwd, a rhai mewn llymru,
A rhai mewn buddai, wedi boddi.
CXL. PEDOLI, PEDINC.
Pedoli, pedoli, pe-dinc,
Mae'n rhaid i ni bedoli
Tae e'n costio i ni bunt;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,--
Bi-dinc, bi-dinc, bi-dinc.
CXLI. PEDOLI, PEDROT.
Pedoli, pedoli, pedoli, pe-drot,
Mae'n rhaid i ni bedoli
Tae e'n costio i ni rot;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,--
Bi-drot, bi-drot, bi-drot.
CXLII. PEDOLI'R CEFFYL GWYN.
Pedoli, pedoli, pe-din,
Pedoli'r ceffyl gwyn;
Pedoli, pedoli, pe-doc,
Pedoli'r ebol broc.
CXLIII. ROBIN DIR-RIP.
Robin dir-rip,
A'i geffyl a'i chwip;
A'i gap yn ei law,
Yn rhedeg
trwy'r baw.
CXLIV. GWCW!
"Gw-Cw!" medd y gog,
Ar y gangen gonglog;
"Gw-cw!" medd y
llall,
Ar y gangen arall.
CXLV. GARDYSON.
Shoni moni, coesau meinion,
Cwtws y gath yu lle gardyson.
CXLVI. ESGIDIAU.
Lle mae 'i sgidie?
Pwy sgidie?
Sgidie John.
Pwy John?
John diti.
Pwy diti?
Diti 'i fam.
Pwy fam?
I fam e'.
Pwy e'?
E' 'i hunan.
CXLVII. ROBIN GOCH.
Robin goch ar ben y rhiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
Ac yn
dwedyd yn ysmala,--
"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."
CXLVIII. CHWARE.
Canwch y gloch!
(Tynnu yn un o'r cudynau gwallt)
Curwch y drws!
(Taro'r talcen a'r bys)
Codwch y glicied!
(Gwasgu blaen y trwyn i fyny)
Dowch i mewn, dowch i mewn,
dowch i mewn!
(Rhoi'r bys ar y wefus).
CXLIX. CARIAD.
Mae gen i gariad glan, glan,
Gwrid coch a dannedd man;
Ei dwy ael
fel ede sidan,
Gwallt ei phen fel gwiail arian.
CL. DEWIS OFER.
Mynd i'r ardd i dorri pwysi,
Gwrthod lafant, gwrthod lili;
Pasio'r
pinc a'r rhosod cochion,
Dewis pwysi o ddanadl poethion.
CLI. LADI FACH BENFELEN.
Ladi bach benfelen,
Yn byw ar ben y graig,
Mi bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig;
Mi startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion bwyd,
Fe wnaiff i'r haul dywynnu
Ar ben y Garreg Lwyd.
CLII. CYDYMDEIMLAD.
Trueni mawr oedd gweled
Y merlyn bach diniwed,
Ac arno fe y
chwys yn drwyth,
Wrth lusgo llwyth o ddefed.
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.