yn codi 'i goesau,
A dweyd fod dwr yn oer.
LXXXV. TRI.
Tri graienyn, tri maen melin,
Tair llong ar for, tri mor, tri mynydd;
A'r tri aderyn a'r traed arian,
Yn tiwnio ymysg y twyni man.
LXXXVI. WEDI DIGIO.
Mae fy nghariad wedi digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;
Pan ddaw'r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.
LXXXVII. CARN FADRYN.
Mi af oddiyma i ben Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys
Nefyn;
O ddeutu hon mae'r plant yn chware,
Lle dymunwn fy mod
inne.
LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.
Siglo'r cryd a'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd a'm troed wrth olchi;
Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy raid i famaeth.
LXXXIX. Y LLEUAD.
Mae nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei
bwytho.
LXL. COES UN DDEL. {39}
Coes un ddel, ac hosan ddu,
Fel a'r fel, fel a'r fu;
Fel a'r fu, fel a'r fel,
Ac hosan ddu coes un ddel.
LXLI. Y BRYN A'R AFON.
Y Bryn,--"Igam Ogam, ble'r ei di?"
Yr Afon,--"Moel dy ben, nis
gwaeth i ti."
Y Bryn,--"Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni'th arrau ceimion di."
LXLII. DECHREU CANU.
Pan es i gynta i garu,
O gwmpas tri o'r gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle'r oedd yr hogen goch.
LXLIII. SIGLO.
Tri pheth sy'n hawdd eu siglo,--
Llong ar for pan fydd hi'n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd helyg,
A march dan gyfrwy merch
fonheddig.
LXLIV. ARFER PENLLYN.
Dyma arfer pobl Penllyn,--
Canu a dawnsic hefo'r delyn,
Dod yn ol
wrth oleu'r lleuad,
Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.
LXLV. DILLAD NEWYDD.
Caf finnau ddillad newydd
O hyn i tua'r Pasg,
Mi daflaf rhain i'r potiwr,
Fydd hynny fawr o dasg;
Caf wedyn fynd i'r pentre,
Fel sowldiwr bach yn smart,
A phrynnaf wn a chledde,
I ladd 'rhen Fonipart.
LXLVI. LLE RHYFEDD.
Eglwys fach Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;
A chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.
LXLVII. SEL WIL Y PANT.
Pan oedd y ci ryw noson,
Yn ceisio crafu'r crochon,
'Roedd Wil o'r
Pant, nai Beti Sian,
Yn cynnal bla'n 'i gynffon.
LXLVIII. CARIO CEILIOG.
Twm yr ieir aeth lawr i'r dre,
A giar a cheiliog gydag e;
Canodd y
ceiliog,--"Go-go-go";
Gwaeddodd Twm,--"Halo! Halo!"
LXLIX. FE DDAW.
Fe ddaw Gwyl Fair, fe ddaw Gwyl Ddewi,
Fe ddaw'r hwyaden fach i
ddodwy.
C. CEL BACH, CEL MAWR.
Hei, gel bach, tua Chaerdydd,
'Mofyn pwn o lestri pridd;
Hei, gel
mawr, i Aberhonddu,
Dwmbwr dambar, llestri'n torri.
CI. I'R DRE.
Gyrru, gyrru, drot i'r dre,
'Mofyn bara cann a the.
CII. I FFAIR HENFEDDAU.
Gyrru, gyrru, i ffair Henfeddau,
'Mofyn pinnau, 'mofyn 'falau.
CIII. I FFAIR Y RHOS.
Gyrru, gyrru, i ffair y Rhos;
Mynd cyn dydd a dod cyn nos.
CIV. I FFAIR Y FENNI.
Gyrru, gyrru, i ffair y Fenni;
'Mofyn cledd i ladd y bwci.
CV. CEL BACH DEWR.
Welwch chwi cel bach
Yn ein cario ni'n dau?
Mynd i ochor draw'r afon
Gael eirin a chnau.
CVI. CEFFYL JOHN JONES.
Mam gu, mam gu, dewch maes o'r ty,
Gael gweld John Jones ar gefn
y ci.
CVII. MARI.
Mari lan, a Mari lon,
A Mari dirion doriad,
Mari ydyw'r fwyna'n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari'n lan,
Ni wiw i Sian
mo'r siarad.
CVIII. TROT, TROT.
Trot, trot, tua'r dre,
'Mofyn pwn o lestri te;
Trot, trot, tua'r dre,
I
mofyn set o lestri te;
Galop, galop, tua chartre,
Torri'r pwn a'r
llestri'n gate.
CIX. FFIDIL A FFON.
Mari John, ffidil a ffon,
Cyllell a bilwg i chware ding dong.
CX. ENNILL.
Sion a Siani Siencyn,
Sy'n byw yn sir y Fflint;
Sian yn ennill chweugain,
A Sion yn ennill punt.
CXI. DYNA'R FFORDD.
Dafi Siencyn Morgan,
Yn codi'r don ei hunan;
A'i isaf en e nesa i
fiwn,
A dyna'r ffordd i ddechre tiwn.
CXII. ROBIN A'R DRYVV.
Robin goch a'r Dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Mi godais
innau i fyny'n gawr,
Mi drewais Robin goch i lawr.
CXIII. Y JI BINC.
Ji binc, ji binc, ar ben y banc,
Yn pwyso hanner cant o blant.
CXIV. Y FRAN.
Shinc a Ponc a finne
Yn mynd i ffair y pinne;
Dod yn ol ar gefn y
fran,
A phwys o wlan am ddime.
CXV. ROBIN GOCH.
Robin goch ar ben y rhiniog,
Yn gofyn tamaid heb un geiniog;
Ac
yn dwedyd yn ysmala,--
"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."
CXVI. JAC Y DO.
Si so, Jac y Do,
Dal y deryn dan y to,
Gwerthu'r fuwch a lladd y llo,
A mynd i Lunden i roi fro;
Dene diwedd Jac y Do.
CXVII. DAWNS.
Y dyrnwr yn dyrnu,
Y ffidil yn canu;
A Robin goch bach
Yn
dawnsio'n y beudy.
CXVIII. MYND I GARU.
Rhowch imi fenthyg ceffyl,
I fyned dros y lan,
I garu'r ferch fach ifanc
Sy'n byw 'da 'i thad a'i mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A'i gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith bachgen pert wyf fi.
CXIX. FY EIDDO.
Mae gennyf dy cysurus,
A melin newydd dwt,
A chwpwrdd yn y gornel,
A mochyn yn y cwt.
CXX. SEN I'R GWAS.
Y llepyn llo a'r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r goer;
Pe
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.