bennau'r gwyddau;
Ieir y
mynydd yn bluf gwynion;
Ceiliog twrci fydd y person.
LIII. SION A SIAN.
Sion a Sian yn mynd i'r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.
LIV. Y CROCHAN.
Rhowch y crochan ar y tan,
A phen y fran i ferwi;
A dau lygad y gath goed,
A phedwar troed y wenci.
LV. UST.
Ust, O taw! Ust, O taw,
Aeth dy fam i Loeger draw;
Hi ddaw adre
yn y man,
A llond y cwd o fara cann.
LVI. CYSGU.
Bachgen bach ydi'r bachgen gore,
Gore, gore;
Cysgu'r nos, a chodi'n fore,
Fore, fore.
LVII. FFAFRAETH.
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du;
Yn rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.
LVIII. MERCH EI MAM.
Morfudd fach, ferch ei mham,
Gaiff y gwin a'r bara cann;
Hi gaiff
'falau per o'r berllan,
Ac yfed gwin o'r llester arian.
LIX. MERCH EI THAD.
Morfudd fach, merch ei thad,
Gaiff y wialen fedw'u rhad;
Caiff ei
rhwymo wrth bost y gwely
Caiff ei chwipio bore yfory.
LX. COLLED.
Whic a whiw!
Aeth y barcud a'r ciw;
Os na feindwch chwi ato,
Fe
aiff ag un eto.
LXI. ANODD COELIO.
Mae gen i hen iar dwrci,
A mil o gywion dani;
Pob un o rheiny yn
gymaint ag ych,--
Ond celwydd gwych yw hynny?
LXII. DODWY DA.
Mae gen i iar a cheiliog
A brynnais i ar ddydd Iau;
Mae'r iar yn
dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.
LXIII. BYW DETHEU.
Mae gen i iar a cheiliog,
A hwch a mochyn tew;
Rhwng y wraig a finne,
'R ym ni'n eig wneyd hi'n lew.
LXIV. DA.
Mae gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron;
Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.
LXV. Go-Go-Go!
Shoni Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;
A gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!
LXVI. CYNFFON.
Mi welais nyth pioden,
Fry, fry, ar ben y goeden,--
A'i chynffon hi mas.
LXVII. TAITH DAU.
Dafi bach a minne,
Yn mynd i Aberdar,
Dafi'n mofyn ceiliog,
A minne'n 'mofyn giar.
LXVIII. YSGWRS.
"Wel," meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.
LXIX. HOFF BETHAU.
Mae'n dda gan hen wr uwd a lla'th
Mae'n dda gan gath lygoden;
Mae'n dda gan 'radwr flaen ar swch,
Mae'n dda gan hwch y fesen.
LXX. CLOC.
Mae gen i, ac mae gen lawer,
Gloc ar y mur i gadw amser;
Mae gan
Moses, Pant y Meusydd,
Gloc ar y mur i gadw'r tywydd.
LXXI. DWY FRESYCHEN.
Mi welais ddwy gabetsen,
Yn uwch na chlochdy Llunden;
A
deunaw gwr yn hollti 'rhain,
A phedair cainc ar hugain.
LXXII. TOI A GWAU.
Mi welais i beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded;
Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r malwod yn gwau melfed.
LXXIII. MALWOD A MILGWN.
Mi welais innau falwen goch,
A dwy gloch wrth ei chlustiau;
A dau faen melin ar ei chefn,
Yn curo'r milgwn gorau.
LXXIV. GWENNOL FEDRUS.
Do, mi welais innau wennol,
Ar y traeth yn gosod pedol;
Ac yn
curo hoel mewn diwrnod,--
Dyna un o'r saith rhyfeddod.
LXXV. LLYNCU DEWR.
Mi weles beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded,
Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r gwr mor hy a hedeg;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn Ilyncu tri dyniawed.
LXXVI., LXXVII. Y DDAFAD YN Y BALA.
'Roedd gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig man;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;
Ni welais i byth mo'm dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?
Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dan;
A'i phibell a'i thybaco,
Yn smocio'n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,--
Gwd morning, Jon, how di!
LXXVIII. IAR Y PENMAEN MAWR.
'Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,--
Good morning, John! How di?
LXXIX. I BLE?
Troi a throsi, troi i ble?
I Abergele i yfed te.
LXXX. MORIO.
Fuost ti erioed yn morio?
"Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd y
gwynt fi i Eil o Man,
A dyna lle bum i'n crio."
LXXXI. LLONG FY NGHARIAD.
Dacw long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy
nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.
LXXXII. CWCH BACH.
Cwch bach ar y mor,
A phedwar dyn yn rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi,--"Dyn a'n helpo."
LXXXIII. GLAN Y MOR.
Mae gen i dy bach del,
O dy bach del, O dy bach del,
A'r gwynt i'r drws bob amser;
Agorwch dipyn o gil y ddor,
O gil y
ddor, o gil y ddor,
Cewch weld y mor a'r llongau.
LXXXIV. DWR Y MOR.
Ioan bach a finnau
Yn mynd i ddwr y mor;
Ioan
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.