orchudd llwyr,
Yn nrws ei thy, yn denawl wenu'n llon,
Mewn
esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,
Y fenyw deg wenieithus welaf
draw,
Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,
Nes canfod llanc
mwyn hardd-deg, ond heb bwyll
Na deall da i ochel hudawl dwyll.
Gan ddal ei law, hi a'i cusanodd ef,
Ac mewn iaith ystwyth, gyda
dengar lef,
Dywedai'n hyf,--"Roedd im' aberthau hedd,
Ond
cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:
Yr hen adduned ddwys,
cywirais hi,
A brysiais heno'n llon i'th gyfarch di:
Fy ngwely
drwsiais a cherfiadau gwych,
Ac a sidanaidd lenni teg eu drych;
Mwg-derthais ef ag enaint peraidd iawn,
O aloes, myrr, a sinamon,
mae'n llawn.
Tyrd gyda mi,--ni chawn byth gyfle gwell
I garu'n
gu,--mae'r gwr yn awr ymhell:
O arian cymerth godaid yn ei law,
Ac ar y dydd amodol adref daw.
Mae dyfroedd cel fel gwin i'r galon
brudd,
Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd."
A'i geiriau teg, ei droi a'i ddenu wnaeth,
Nes cael i'w rhwyd ei galon
ffol yn gaeth;
Fel ych yn fud i'r lladdfa aeth yn glau,
Neu fel yr
ynfyd cyn i'r cyffion gau:
Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,
Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddor.
Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,
Lle rhodiai gynt heb ofid dan
ei fron,
Nac yn ei dy, ni welwyd mono mwy;
Ei geraint oll, mewn
galar gwelid hwy.
Ei dad, mewn dagrau, ro'i ei ben dan gudd,
A'i
fam, wrth riddfan, rwygai 'i mynwes brudd.
Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,
Cynhyrfir Ior y nef i
wisgo gwg;
Porth uffern yw ei haddurnedig dy,
A'i ffordd i gell oer
angau'n arwain sy;
Gweu maglau mae i ddal eneidiau'n gaeth
Yn
nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;
Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffol
Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.
Y TWYLLWR HUDAWL.
Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,
Y trigai'n llon forwynig deg ei
phryd;
Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad,
Heb dan ei bron na
briw na thwyll na brad.
Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith
Pei-lysiau'r maes a dagrau'r
bore wlith,
Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych,
I fritho'n hardd ei
swp o flodau gwych,
A phan adseiniai lais yr eos fwyn,
Gan heinif
ddawnsio'r gan o dwyn i dwyn,--
O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd
ar g'oedd,
Pa un ai dynes ai angyles oedd.
Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,
A buan ffodd y gan o'i
mynwes brudd.
Un hwyr, gan wisgo gwen, rhyw dwyllwr ddaeth
I
geisio 'i dal mewn hudawl serch yn gaeth.
Wrth weld ei wen, ei
chalon dyner wan,
Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:
A'r
gelyn cas, 'nol ei handwyo hi,
Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.
Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,
A'i galon falch fel darn
o garreg aeth;
Dan erchyll reg--gan droi ei wyneb draw--
Ei gwthio
wnaeth o'i dy i'r gwynt a'r gwlaw;
A chloi ei ddrws, gan greulawn
dyngu'n ffol,
Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol.
Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,
Ei baban gaed yn farw ac yn
oer;
A'i ddagrau'n ia tryloew ar ei rudd,
A'i ddwylaw bychain
rewent wrth y pridd.
Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan,
A grwydrai'r dydd yn
brudd o fan i fan;
A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn
Dan
gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:
Ing ar ol ing drywanai 'i mynwes
brudd,
Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.
Yn glaf neu iach, ai allan ar bob hin,
Ac yn ei llaw y cariai gorsen
grin,
Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,--
"Fy chwaer
yw hon, a daw i wylio'm bedd."
Ni soniai byth am gar, na mam, na
thad,
Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad;
Ymddiddan wnai, bob
dydd, a'r gorsen grin,
Heb deimlo dwys effeithiau 'i chystudd blin.
Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,
Heb frawd na chwaer i gynnal
pwys ei phen.
O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,
Gan Ysbryd
Duw, drwy rin y dwyfol waed;
A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn
rhydd,
Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.
Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd,
Ei thad, dan guro'i fron,
felldig ai'r dydd
Y gwelodd hi o'i dy yn gorfod ffoi,
Mewn cyflwr
gwan, heb wybod p'le i droi:
A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,
Ddialydd llym a'i gleddyf yn ei law;
A'i Farnwr dig ar ddisglaer
orsedd lan,
A'i wae'n seliedig mewn llyth'renau tan.
DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.
I Gu Geidwad gwael bechadur,
Gyda gwylder, seiniwn gan;
Ac enynner yn ein mynwes
Fywiol fflam o nefol dan:
Canwn am Ei ddarostyngiad,
Am Ei gur a'i gariad Ef,
Gan adseinio tonau mwynion
Telynorion llys y nef.
Wrth weld adyn diymgeledd,
Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,
Dan ei faich, yn archolledig
O'i ben ysig hyd Ei draed;
Heb un cyfaill i dosturio,
Heb un balm i'w galon friw,
Codai Iesu lef drugarog
Am i'r euog gwael gael byw.
Gadael uchel sedd gogoniant,
Gadael moliant dirif lu,
Gadael hardd frenhinol goron
Wnaeth ein tirion Iesu cu;
Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
Achub oedd Ei fwriad E',
Daeth o'i fodd i gystudd chweiw,
Daeth i farw yn ein lle.
Yn y preseb, pan yn faban,
Llesg
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.