Gwaith Samuel Roberts | Page 7

Samuel Roberts
dwyn fy nghroes mewn galar,
Heb ddim ond gofid ar bob cam,
Gwna fi yn amyneddgar.
Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
Yn nechreu haf fy mywyd;
Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,
I deyrnas bythol wynfyd.
Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,
Nes mynd i'r bedd i orffwys;
Ac yna seiniaf gyda'th blant
Dy foliant ym mharadwys.
CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.
Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
'Rwy'n cofio hoff
gartref fy mam a fy nhad,
Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddol;

Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.
Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
Heb ofid, nac angen, yn
llawen fy hynt;
A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
Heb

neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.
Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
A'r lleill wrth fy ymyl yn
cysgi yn llon;
Disgwyliwn fy mhriod, gan sio'n ddi-fraw,
Heb
feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.
Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
Ar unwaith ymdoddai fy
nghalon fel cwyr,--
Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r mor,

Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.
Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,
I achub y
gweiniaid crynedig rhag brad,
Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered
ein cri,
I ddu-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.
Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir,
A threiglo'n ddiorffwys fy
mhen gan ei gur,
Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
Yn oer ac
yn farw--o'i boenau yn rhydd.
Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd,
Er gwaetha'r gormeswr,
diangaist mewn hedd:
Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy,

Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy,
Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
Ond eto mae'th gu-fam
anwylaf yn gaeth;
Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
A'i
sio i orffwys yn mynwes y donn?
Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,
A'n didol, a'n gwerthu i fynd i
bob man;
Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,
Er mynych
lesmeirio wrth lefain yn daer.
Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gwr,
A'i llygaid toddedig yn boddi
mewn dwr:
A'r lesg fam a wasgai ei dwyfron--o chwant
Cael
myned i orwedd i'r un bedd a'i phlant.
Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd
Am weithio, dioddef, a
marw ynghyd;
Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,
A rhwygwyd

llinynau y galon ei hun.
I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,
I gael fy fflangellu o'm
dwyfron i'm traed;
Mae'm llafur yn galed, a minnau yn wan,
Heb
ddefnyn o gysur i'w gael o un man.
Mae'r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,
Mae'r haul yn fy llosgi,
mae popeth mewn gwg:
Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len;

O'r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.
Mewn ing rhaid im' farw, nis gallaf fyw'n hwy,
Mae'r holl gorff yn
glwyfus, a'r galon yn ddwy;
O na chawswn drengu yn mynwes fy
ngwlad,
Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.
Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,
I'r caeth o'i gadwynau gael
myned yn rhydd:
Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,
All
gofio du lafur ei frodyr sy'n gaeth?
O Brydain brydweddol! "Arglwyddes y donn,"
Na ad i un gaeth-long
ymrwygo drwy hon;
Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd

I'r olaf gael dianc o'i gadwyn yn rhydd.
Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.
A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid
dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a
gwragedd.
Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,
Fe wridai dy wyneb, fe
waedai dy galon,
Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,

Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a
dryllia'i chadwynau.
Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,
Ond dyfnach y

clwyfir ei gwylder benywaidd;
Heblaw ei harcholli o'r ddaear i'r
ddwyfron,
Mae'r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a
dryllia'i chadwynau.
Pan oeddit yn faban hi'th wasgai i'w mynwes,
A breichiau o'th
amgylch, hi'th gadwai yn gynnes;
Rho'i gusan, dan wenu, i'th gadw'n
ddiddanus,
Ac ar ei bron dyner hi'th siai i orffwys:
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a
dryllia'i chadwynau.
Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,
A gwewyr dirboenus,
cyn dyfod yn famaeth:
A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng
amgylchiad,
Sy'n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a
dryllia'i chadwynau.
Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,
A chrefydd, o hirbell, saif
draw dan och'neidio,--
Gweld gwaedlyd archollion y fflangell
gylymog
Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a
diyllia'i chadwynau.
Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,
Mae'n clywed ei
chwynion, mae'n cyfrif ei dagrau,
Mae'n codi i ddial--clyw'r daran yn
rhuo--
Mae'n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,
Tafl ymaith y fflangell,
a dryllia y gadwyn.
Y FENYW WENIEITHUS.

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni'r hwyr,
Pan guddid gwen yr haul dan
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 38
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.