ac egwan gwelwyd Ef:
Isel annedd, gwael ymgeledd,
Gadd Etifedd mawr y nef:
Eto seren gain y dwyrain,
Wenai ar ei lety gwael;
Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
Wrth Ei draed ro'i'r doethion hael.
Dirif luaws ser y bore,
Drwy'r wybrennau seinient gan,
Gan fwyn ateb cyngan nefol
Y waredol dyrfa lan:
Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
A thrugaredd yn gytun,
Wrth yr orsedd yn hoff wenu
Am gael modd i godi dyn.
Cilio wnaeth y tew gysgodau,
Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;
Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
Thuser aur, nac allor bridd:
Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
Daeth yr addawedig Had,
Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
Sain y durtur sydd trwy'r wlad
Mwy ni cheisir urddau Aaron,
Olew per, na brasder wyn;
Gwisgo'r Urim ar ei ddwyfron
Yn y nef mae'r Iesu mwyn;
Wrth yr allor aur mae'n gweini,
Clywir adsain clychau hedd;
Yn Ei law mae'r aur deyrnwialen,
Wrth Ei glun mae'r dwyfol gledd.
Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
Oedd i'n herbyn, wrth Ei groes,
Gan yspeilio'r awdurdodau
Pan yn dioddef angau loes;
Cododd faner wen trugaredd,
Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
Seiniodd jubil lawn i'r caethion,
Ac arlwy odd radlawn wledd.
Agoriadau y llywodraeth
Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,
Rhoddwyd iddo bob awdurdod
Ar y ddaer ac yn y nef;
Marchog mae yng ngherbyd cariad,
Troi o'i gylch mae engyl nef;
Sigla cedyrn byrth y fagddu
Hyd eu sail wrth rym ei lef.
Croesaw iddo wisgo'r goron,
Aed Ei enw dros y byd;
Plyged pawb i'w fwyn awdurdod
Am Ei gymod Ef inewn pryd;
Boed i'r euog tlawd ymguddio
Dan Ei dawel gysgod Ef,
Boed i'r gwannaf ffyddiog bwyso
Ar Ei fraich alluog gref.
Mewn gogoniant dirfawr eto,
Heb y groes a'r goron ddrain,
Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
Llawen floedd, ac uchel sain;
Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
Sigla seiliau dyfna'r bedd,
Lleda'r wyntyll, hwylia'r clorian,
Ysgwyd fry Ei farnol gledd.
Pan y ffy y nefoedd heibio,
Pan y byddo'r ddaer yn dan,
A'r holl anwir fyd mewn cyffro,
A llu'r saint yn seinio can;
Pan y todda'r euog ymaith
Dan lewygon bythol fraw,
Boed i ni gael tawel orffwys
Ar ei dirion ddeheu law.
BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL
BLYNYDDOEDD.
[Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair): sr41.jpg]
Efengyl oludog! Angyles trugaredd,
Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
Ym mantell dy harddwch, ar
gerbyd dy haeledd,
Dos rhagot nes llenwi y byd a dy hedd;
Mae gennyt ti'n barod wledd
lawn i'r newynog,
A chymod i'r euog, a hardd-wisg i'r noeth,
A thrysor i'w rannu rhwng
tlodion anghenog,
Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.
Mae'r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
Gan dditif dylwythau cei roesaw i'w mysg,
A gwastad balmantwyd
ffyrdd rhyddion i'th gerbyd
Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:
Peiriannau tan cariad i
droi dy olwynion
Yw'r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;
A chwareu diwy'r nef
mae holl dannau gorfoledd,
Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.
Cyhoeddwyd o'r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,--
Llwyr ofer i'r bobloedd i'th
erbyn derfysgu,
I lengoedd y fagddu amlygu eu cas:
I'th ddilyn wrth d'alwad cwyd
torf o genhadon
A'u calon yn fflamio dan fedydd o dan;
Ymdaenu trwy wersyll y
gelyn mae'r cyffro,
Mae'r delwau'n malurio yn fawrion a man.
Mae'th weision yn barod i gludo'th drysorau
Trwy'r 'stormydd, tros donnau trochionogy y mor;
Wynebant yn llon
ar dros fil o ynysoedd,
I dd'weyd am oludoedd trugaredd yr Ior;
Dilynant afonydd, ant trwy
anial-diroedd,
A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia,
I ddangos i adyn ar suddo
mewn adfyd
Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.
Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli,
Llawenydd a chan sy'n coroni eu pen;
Mae gwresog ber anadl eu
cariad a'u gweddi
Yn chwalu'r cymylau fu rhyngddynt a'r nen;
A gwelir ysprydoedd y
perffaith gyfiawnion,
Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef,
Yn plygu i wrando'u plethedig
ganiadau,
Gan hwylio'u telynau i ateb eu llef.
Daeth Iesu o Bosra a'i ddillad yn gochion,
Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym;
Enillodd holl yspail y
tywysogaethau,
Gall ddial, neu faddeu,--ei gledd sydd yn llym;
O'i orsedd llefara
mewn iawnder a chariad,
Mae'n gwisgo agoriad awdurdod a bri;
Gan hynny ni lwydda dy elyn
na'i luoedd,
Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.
Wrth wrando dy gais dros y Gwr a groeshoeliwyd,
Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn,
A denwyd trueiniaid i
droi eu hwynebau
O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn;
Dadblygaist dy faner ar
brif-ddinas Rhufain,
Ce'st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed;
A golchaist yn Nghorinth
dorf fawr o'r rhai duaf,
Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.
Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil,
Dy wen doddodd galon y Greenlander draw,
A dofwyd cynddaredd y
Bushman trwy'th eiriau,
Nes gollwng ei saethau gwenwynigo'i law;
Dy felus beroriaeth trwy
helaeth goedwigoedd
America fras, ac Ynysoedd y De,
A ddenodd farbariaid o'u dawns yn
y llwyni,
I wrando a chanu am gariad y Ne'.
Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania
I ollwng wyth gan-mil o'i chaethion yn rhydd;
A gyrraist gyflawnder
o ber-falm Calfaria
I wella archollion y galon
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.