nefoedd yn dan.
Ond sydyn!--pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,
A'r udgyrn yn seinio
fel ar uchel wyl,--
Wrth daro'r nod uchaf cydsyniai'r dorf hardd
Ei
weled E'n chwysu mewn ing yn yr ardd.
Pan welwyd E'n gwaedu dan hoelion ar bren,
Pan wanwyd Ei fynwes,
pan glwyfwyd Ei ben,
Pan yfodd E'r cwpan, pan gollodd fwynhad
Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;
Pan gododd Cyfiawnder i'w erbyn Ei gledd,
Pan welwyd E'n gorwedd
yng ngharchar y bedd,
Dyrysodd telynau cantorion y nef,
Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.
Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen
Dros harddwych drigfauau
dedwyddawl y nen;
Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,
Llesgaodd pob seraff--pob angel--pob sant.
Ond bore'r adgodiad, ar doriad y dydd,
Pan neidiodd y Cadarn o'i
gadwyn yn rhydd,
Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,
Mewn
harddwisg borfforaidd, a'i gleddyf yn llym;
Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,
Ac yn Ei law waedlyd
agoriad y bedd,
Gan floeddio'n fuddugol, "Enillais y dydd--
"Gorchfygais bob gelyn--daw'r caethion yn rhydd,"--
Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,
Ail-seinient yr Anthem,
hwyl lawen trwy'r nef;
Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor ber,
Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.
Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys
I dywys eu Brenin i
orsedd Ei lys;
Ar balmant o berlau olwynai i'r nen,
A'r seirian byrth
oesawl ddyrchafent eu pen.
'Nol disgyn o'i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,
Ei euraidd deyrnwialen
estynnai mewn hedd,
Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,
Ac
anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.
Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gan,
Rhag boddi ar unwaith
mewn syndod yn lan;
Nid da cynnyg nofio--'rwyt eto'n rhy wan--
Mewn mor o ryfeddod, heb waelod na glan.
I erfyn maddeuant, plyg 'nawr wrth Ei draed,
Ymorffwys am fywyd
ar rinwedd Ei waed;
Cei ddianc ar fyrder o'th garchar o gnawd,
I
orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.
Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;
Ac yna, dan ganu, coroni
Ei ben;
Pan welir y ddaear yn wenfflam o dan,
Mawr fydd dy
orfoledd, a melus dy gan.
AR FARWOLAETH MABAN.
Daeth yma i'r byd i weld ein gwae,
Lle mae gorthrymder garw;
Ond trodd ei egwein lygaid draw,
Gan godi 'i law a marw.
Er dod am dro i'n daear ni
I brofi'r cwpan chwerw;
Ni fynnai aros is y nen,
Trodd draw ei ben i farw.
Dros ennyd ferr fe rodd ei glust
I wrando'n trist riddfannau;
Ond buan, buan, blino wnaeth,
A hedodd ymaith adre'.
Ni chawn ei weled yma mwy
Dan unrhyw glwy'n galaru;
Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
A'i dannau'n dynn yn canu,
Ni welir deigryn ar ei rudd,
Na'i wedd yn brudd wylofus;
Ni chlywir mwy o'i enau ef
Un egwan lef gwynfannus.
Ni chaiff y fam byth, mae'n ddilys,
Waith sychu 'i chwys a'i ddagrau,
Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
I gwynfan yn ei breichiau.
Ni rydd un gelyn iddo glwy,
Nis gellir mwy ei faglu;
Ni welir ef yn dewis rhan
Gyda'r annuwiol deulu.
Ni chaiff y tad na'r fam byth mwy
Boen trwy ei weld yn pechu:
Nid ofnant iddo yn ei oes
Ddwyn croes ar achos Iesu.
Fe darddodd ffynnon ar y bryn
I'w gannu'n wyn, a chymhwys
I lanw lle yn mhlith y llu
Sy'n canu ym mharadwys.
Diangodd draw i wlad yr hedd
O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,
Ac uno wnaeth a'r nefol lu
I ganu fry mewn gwynfyd.
Mewn teulu duwiol yn y byd,
Tra hyfryd y gyfeillach;
Ond fry ymhlith y nefol hil
Y bydd yn fil melusach.
Heb unrhyw boen o dan y fron,
Mae 'nawr yn llon a dedwydd:
A'r pur orfoledd yno sy
A bery yn dragywydd.
Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
I orwedd a malurio,
Daw bore hyfryd yn y man
Y cwyd i'r lan oddiyno.
Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
Tudraw i'r bedd yn dawel;
Ac uno i ganu yn ddilyth,
Heb achos byth ymadael.
Y CRISTION YN HWYLIO I FOR GWYNFYD.
Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
Yn troi yn dra
medrus ei lyw a'i ddeheulaw,
Gan ganu wrth ledu ei hwyliau
claerwynion
I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,--
Mae'r Cristion
yn gadael anialdir marwoldeb,
Gan hwylio yn dawel i for bythol
burdeb.
Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,
Heb ofni'r
Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
Gan wenu heb ddychryn, wrth
gychwyn, mae'n canu,--
"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn
diflannu,
Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
Tawelu mae'r
gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,
Mae'r heulwen yn gwenu, a'r
wybren yn siriol,
Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."
CWYN A CHYSUR HENAINT.
Ymgiliodd y gaeaf, mae'r gwanwyn yn gwenu,
Mae'r oenig yn neidio,
a'r durtur yn canu;
Mae'r coedydd, a'r dolydd, a'r gerddi'n blodeuo;
A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion,
Yn wridog eu
gruddiau, yn llawen eu calon,
Yn siriol gydrodio'n finteioedd
diddanus,
A minnau fy hunan yn llesg a methiannus.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Bu amser, 'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau
Mor heinyf, a
bywiog, a gwridog
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.