arlwyadau;
Ond mae rhinweddol win a llaeth
Yr iechydwriaeth ganddynt;
A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
A thirion Geidwad iddynt.
Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw,
Ac yn Ei law fe'u harwain,
Nes dwyn pob un i ben ei daith
Trwy hirfaith dir wylofain;
Pob un a gyrraedd yn ei dro
Hyfrydawl fro paradwys;
Ac yno'n dawel berffaith rydd
Y cant dragwyddol orffwys.
MARWOLAETH Y CRISTION.
Gristion hawddgar! Daeth yr adeg
It' ehedeg at dy Dad;
Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn,
Cyfod, cychwyn tua'th wlad;
Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
Darfu'th bechu, darfu'th boen;
Ti gei bellach dawel orffwys
Ym mharadwys gyda'r Oen.
Er fod afon angau'n donnog,
A llen niwlog dros y glyn,
Gwel dy Briod cu yn dyfod
I'th gyfarfod y pryd hyn;
Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn,
Heb ei golyn, dan ei glwy';
Dacw uffern wedi 'i maeddu:-
Gristion! pam yr ofni mwy?
Yn y dyffryn, er mor dywyll,
Gwelaf ganwyll ddisglaer draw,
Wedi 'i chynneu i'th oleuo,
Rhag it' lithro ar un law;
Mae dy Iesu wedi blaenu,
Wedi torri grym y donn;
Pam yr ofni groesi'r dyffryn?
Pam mae dychryn dan dy fron?
Eilia'th gan, mae'r nos yn cilio,
Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn:
Edrych trwy y niwlen deneu,
Gwel drigfannau Seion fryn:
Gwel, mae hyfryd wen dragwyddol,
Heulwen nefol ar y wlad;
Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol
Yw brenhinol lys dy Dad.
Gwel y dirif seirian berlau
Wisgant furiau'r nefol gaer;
Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,
A'i llydain deg heolydd aur;
Gwel yr afon bur redegog,
Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;
Gwel y llwybrau a'r trigfannau
Sydd i'r seintiau uwch y nen.
Gwel y dedwydd brynedigion
Yn eu gynau gwynion draw,
Wedi gwisgo eu coronau,
A'u telynau yn eu llaw;
Yuo'n gorffwys, gyda'u gilydd,
Mewn llawenydd pur dilyth,
Heb na loes, na chroes, na phechod,
Mwyach i'w cyfarfod byth.
Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn
I'th ymofyn idd eu mysg;
Gwel dy Brynwr, mewn gwen siriol,
Yn ei hardd gyfryngol wisg;
Clyw, mae'r clychau oll yn canu,
I'th groesawu tua thref;
Clyw bereiddlawn seingar donau
Aur delynau cor y nef.
Gwel dy gerbyd wrth yr afon,
Gwel dy goron,--gad dy gledd;
Cymer bellach dawel feddiant
O ogoniant gwlad yr hedd,
Ffarwel iti, collaf bellach
Dy gyfeillach a dy wedd,
Hyd nes cawn gyfarfod eto
Yn y fro tu draw i'r bedd.
Y LILI GWYWEDIG.
Galar-gan Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.
Caed Lili teg, mewn hyfryd fan,
Ar gorsen wan yn tyfu;
Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun,
Wnai i bob un ei garu;
Ei berchen o anwyldeb ai,
A siriol syllai arno,
Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir
Am dymor hir heb wywo.
Ond ar ddiwrnod tywyll du,
Y gobaith cu ddiflannodd;
Daeth awel oer 'nol heulwen haf,
A'r Lili braf a wywodd;
Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,
Heb degwch yn wywedig;
A'i berchen deimla dan ei bron
Ei chalon yn glwyfedig.
Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,
Ac egwan lef sy'n codi,--
"A raid im' golli'r olwg ar
Fy hawddgar wiwber Lili?
Flodeuyn hardd! dy golli raid,
Er dibaid dywallt dagrau;
Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych
Dy unwaith harddwych liwiau.
"Dy addurnedig wisgoedd braf,
Eu gweled ni chaf mwyach;
Wrth syllu ar dy le, nid wyf
Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."
Ar hyn, pan ydoedd natur wan
O dan y groes yn suddo,
I arllwys balm i'r galon brudd
Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.
Yn dirion (nid i beri braw)
Ei ddeheu-law estynnai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn,
Ac mewn iaith fwyn dywedai,
"Na wyla mwy,--dy Lili hardd
Sy'n awr yng ngardd paradwys,
Mewn tawel gynnes nefol fro
Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.
"Ei nodd, ei ddail, ei arogl per,
Ei liwiau ter a hawddgar,
Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
Nag oeddynt ar y ddaear.
Ei weled gei ar fyr o dro
Yn gwisgo harddwch nefol:
I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
Lle t'wyna haf tragwyddol."
CAN Y NEFOEDD.
Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr,
Ehed trwy'r wybrennau uwch
gofid y llawr,
I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen
Fawl ganiad
i'r Iesu, dy Briod a'th Ben.
Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
Mor ddisglaer Ei goron,
mor siriol Ei wedd;
Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron
Fu gynt
yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon.
Angylaidd gantorion gydunant mewn can
A seintiau fil miloedd, a'u
gwisgoedd yn lan;
A broydd a bryniau tragwyddol y nef
Trwy'r
dedwydd ororau adseiniant eu llef.
Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,
Gan barchus gydblygu o
amgylch Ei fainc:
Y saint a'u coronau wnant balmant i'w draed,
Gan
felus gydganu am rinwedd ei waed.
Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,
Gan adael Ei orsedd,
a'i goron, a'i lys,
A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,
Ar edyn
trugaredd, at ddyn yn Ei waed;
Pan welwyd E'n Faban mewn gwael egwan gnawd,
Etifedd y nefoedd
o'i wirfodd yn dlawd,
Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,
"Gogoniant trwy'r nefoedd, Tangnefedd trwy'r byd."
Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad
I gloffion, a deillion, a
chleifion yn rhad,
Gan alw'r blinderog, yn serchog a llon,
I orffwys
yn dawel eu pwys ar Ei fron,--
Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd,
Gan siglo sylfeini hen
garchar y bedd,--
Dyrchafu yn hyfryd ber-seiniawl wnai'r gan,
A
bywiol orfoledd wnai'r
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.