Gwaith Samuel Roberts | Page 5

Samuel Roberts
a hwythau,
A'm dwyfron yn llawen, a'm can yn
soniarus;
Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus.
Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,
O gyrraedd marwoldeb,
i dawel fro gwynfyd;
A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.

Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,
A'r heinyf wyr cryfion
yn awr yn cydgrymu;
Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig,

Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,
A llydain byrth mwyniant
gan henaint a gauwyd;
Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,
A
baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,
A phopeth, wrth araf
ymlwybro, a ofn;
Mae chwant wedi pallu, 'does dim rydd
ddiddanwch,
Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddrod.
Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir,
Y llinyn ariannaidd a'r olwyn
a dorrir;
Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon;
Dadfeilio mae'r
babell, llewygu mae'r galon.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys
yn fuan i'r beddnod.
Hosanna!--'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,
Mae'n addfed o'r
diwedd i fyned i'w feddrod;
Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn
dawel,
Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel.
Ac yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol,
I ddedwydd deyrnasu
mewn i'enctid tragwyddol.
Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,
Caf esgyn i dawel

ororau gogoniant,
I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron,
A
chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd
Sy'n bythol goroni
dedwyddwch y nefoedd.
"MAE NHAD WRTH Y LLYW."
Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
'Roedd cwch bach yn
hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r
gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.
Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
A dd'wedai dan wenu, heb
ddychryn i'w fron,--
"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
Pa
raid ini ofni?--Mae Nhad wrth y Llyw."
O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron
Mor ofnus wrth weled
gwyllt ymchwydd y donn?
Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;

Ond diogel yw'th fywyd--Mae'th Dad wrth y Llyw.
Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;
Draw'n disgwyl mae'th
geraint oddeutu y lan:
Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;
Mae
Canan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.
Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,
'Rwyt bron mynd i
fynwes dy fwyn Brynwr cu;
Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn
fyw,
Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.
Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.
[Pont Llanbrynmair: sr25.jpg]
Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
Unwaith wrth westy bychan,
Pan oedd gwen oleu'r heulwen glaer
Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o'm cylch a'u bryd
Ar dawel gydnoswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
I ddistaw ddwys fyfyrio.
Dan briddell las, y tlawd yn llon
Ro'i hun i'w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
A guddient lwch pendefig.
Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn hunc.
Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.
"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"
Atebai'r bach, mewn gwylaidd don,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,--
"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.
"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
'Rwy'n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw'n wir,

A dir, hi bia'r bara."
"Nis bwytaf mwy," atebai hi,
"Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
Ond echdoe cadd ef fymryn."
Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
I geisio'u hymgeleddu.
Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
Oedd fel y clai gan oerder;
A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
I adrodd eu cyfyngder.
"Ein ty oedd wrth y dderwen draw,
Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
Yn hyfryd a chariadlon.
"Un tro, pan oeddym oll yn llon,
Daeth dynion creulon heibio,
I fynd a'n tad i'r mor i ffwrdd;
Ni chawn mwy gwrdd mohono.
"Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,
Ond wylo'n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei
gwedd,
Yr a'r i'r bedd yn fuan.

"Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
A'i hegwan lais crynedig
Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
A d'wedodd yn garedig,--
"'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
Gwnewch dyner garu'ch gilydd:
Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 38
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.