eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;?Ei eglwys fo'ch cartref, Ei air fyddo'ch rheol.?A rhodded Ei Ysbryd diddanol i'ch tywys?Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys.
DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.
[Cyf. o "The Destruction of Sennacherib" Byron].
O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,?Ymdorrai i'r gorlan er difa y praidd;?A'i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,?Wrth hulio glyn Salem, a'i lliwient yn glaer.
Eu harfau o hirbell a welid o'r bron?Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn;?A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,?Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw.
Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,?A welid fel coedwig dan flodau a dail;?Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,?Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.
Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,?Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,?Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,?Mor oer ac mor farw a delw o bridd.
Y ffrom farch ddymchwelwyd.--Yn llydan ei ffroen,?Mae'n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,?A'i ffun oer o'i amgylch fel tywyrch o waed:?Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.
Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,?A'r llaid ar ei harddwisg, a'r rhwd ar ei arf:?Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,?Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.?Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thal,?Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:?Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,?Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i'r bedd.
GWEDDI PLENTYN.
Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth,
Na diwerth fwyniant bydol:?Fy enaid gais ragorach rhan
Na seirian rwysg brenhinol.
Nid moethau o ddanteithiol rin,
Na gloew win puredig,?Nac yd, na mel, nac olew per,
Na brasder lloi pasgedig.
Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd,
Na gwisg i gyd o sidan,?Nac eang lys, a'i addurn claer
O berlau, aur, neu arian.
Ond dwyfol werthfawrocach rodd,
Mewn taerfodd, wy'n ei cheisio:?Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri,
A dyro imi honno.
Fel arwydd hoff o'th gariad hael,
Rho imi gael Doethineb:?Nid oes ond hon a ddwg i'm rhan
Ddedwyddawl anfarwoldeb.
Dysg fi yn nechre f'einioes frau
I rodio llwybrau'r bywyd;?A chadw'th air,--trwy fyw yn ol
Ei nefol gyfarwyddyd.
Fel ufudd blentyn, boed i mi
Byth wneyd dy dy yn gartre,?Fel caffwyf brofiad melus iawn
O'i radlawn arlwyadau.
Na ad im' ffol ymlygru byth,
Trwy fynd i blith rhagrithwyr;?Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne',
I eiste'n lle'r gwatwarwyr.
Dy santaidd waith a'th achos di
A fo mi'n hyfrydwch;?A gwiw gymdeithas D' anwyl blant
Fy mwyniant a'm dyddanwch.
Os caf gysuron ar fy nhaith,
Fy melus waith fydd moli:?Fy noniau oll, o galon rwydd,
I'm Harglwydd gant eu rhoddi.
Ond os caf gystudd drwy fy oes,
A dwyn fy nghroes mewn galar,?Heb ddim ond gofid ar bob cam,
Gwna fi yn amyneddgar.
Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
Yn nechreu haf fy mywyd;?Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,
I deyrnas bythol wynfyd.
Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,
Nes mynd i'r bedd i orffwys;?Ac yna seiniaf gyda'th blant
Dy foliant ym mharadwys.
CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.
Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,?'Rwy'n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,?Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddol;?Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.
Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,?Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;?A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,?Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.
Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,?A'r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;?Disgwyliwn fy mhriod, gan sio'n ddi-fraw,?Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.
Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,?Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,--?Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r mor,?Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.
Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,?I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,?Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered ein cri,?I ddu-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.
Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir,?A threiglo'n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,?Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,?Yn oer ac yn farw--o'i boenau yn rhydd.
Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd,?Er gwaetha'r gormeswr, diangaist mewn hedd:?Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy,?Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy,
Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;?Ond eto mae'th gu-fam anwylaf yn gaeth;?Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,?A'i sio i orffwys yn mynwes y donn?
Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,?A'n didol, a'n gwerthu i fynd i bob man;?Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,?Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.
Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gwr,?A'i llygaid toddedig yn boddi mewn dwr:?A'r lesg fam a wasgai ei dwyfron--o chwant?Cael myned i orwedd i'r un bedd a'i phlant.
Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd?Am weithio, dioddef, a marw ynghyd;?Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un,?A rhwygwyd llinynau y galon ei hun.
I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed,?I gael fy fflangellu o'm dwyfron i'm traed;?Mae'm llafur yn galed, a minnau yn wan,?Heb ddefnyn o gysur i'w gael o un man.
Mae'r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg,?Mae'r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg:?Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len;?O'r braidd y
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.