a moes,?Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,
Ysgafnder yw nodwedd ei hoes;?Nid rhaid iddi bluo ei bonnet,
Na llenwi ei gwallt gyda charth,?Mae digon o bluf yn ei henaid
I'w chario i amharch a gwarth.?Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad,
Ysgafnder sydd yno'n mhob man,?Ynghanol brefiadau y lloiau
Mae'n codi yr uchaf i'r lan;?Mae Satan yn pluo adenydd
Rhai dynion i'w codi am awr;?Ond cofiwch mai eu codi mae Satan
Er mwyn cael eu taro i lawr.?Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Medi 24, '75.
PURDEB.
(Arddull T. Carew).
Y sawl a fynn y rudd sydd goch
A gwefus gwrel, llygad du,?Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
I gynneu fflam ei gariad cu,--?Daw amser hen i wywo'r gruddiau,?A diffydd fflam ei lygad yntau.
Ond y meddwl tawel, pur,
Gyda ffyddlon dwyfron lan,?Calon gara fel y dur,
Hyn sy'n cynneu bythol dan;?Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall?Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.
DDAW HI DDIM.
Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt,
Yn destyn gwawd y plwy,?Awn gyda phawb yn llon fy hyttt,
Pwy bynnag fyddent hwy;?Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr,
'Rwy'n edrych llawn mor llym,?A rhoddaf daw ar fach a mawr
Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim."
'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw
Benthyca pres yn ffol;?Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw
Ddim byth yn talu'n ol;?Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef
Wrth fyned tua'r ffair,?Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref
Am fenthyg tri a thair.
Ond os ceisia dyn, &c.
Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi
Y gwyddai hanes merch,?A wnaethai'r tro i'r dim i mi
I fod yn wrthrych serch;?Gwraig weddw oedd, yn berchen stor
O bopeth, heb ddim plant,?A chanddi arian lond dwy dror,
Ac yn ddim ond hanner cant.
Ond os ceisia dyn, &c.
Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,
Ar bwynt priodi un;?Cyn mynd at allor llan y plwy,
Fel hyn gofynnai'r fun,--?"Mae gennyf fam a phedair chwaer
Sy'n anwyl iawn gen i,?A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,
I gyd fyw gyda ni?"
Ond os ceisia dyn, &c.
AWN, AWN I'R GAD.
(Canig gan Gwilym Gwent).
Awn, awn i'r gad,
Awn, awn yn awr;?Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;?Calon y dewr
Gura yn gynt,?Baner a chledd
Sy'n chwyfio yn y gwynt;?Blaenor y llu
Sy'n arwain i glod,?A geiriau o dan
O'i enau yn dod.
Seren y goncwest sy'n gwenu fry
Dros ein hanwyl wlad;?Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.
EISTEDD MEWN BERFA.
Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
A'r haul yn tywynnu mor llon,?Mi ddaethum 'nol hir bererindod
I bentref ar ochr y fron;?A gwelwn ryw hogyn segurllyd
Yn eistedd mewn berfa fel dyn,?Gan wneud pob ymdrechion a allai
Ar ferfa i yrru ei hun;?Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn?Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,?I sefyll tu allan i'w weithdy
I siarad a phawb ar y ffordd;?Neu holi am weithdai'r gymdogaeth
A hanes y gweithwyr bob un,?Heb feddwl am weithio ei hunan
Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;?Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn?Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Ceir ambell amaethwr dioglyd
Na welwyd erioed arno frys,?Mae'n well ganddo orwedd pythefnos
Na cholli dyferyn o chwys;?Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,?Ond creda mewn gadael ei feusydd
I ofal y gweision a'r chwyn;?Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn?Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Pan welir masnachydd neu siopwr
Yn gadael eu masnach trwy'r dydd,?I ofal prentisiaid a chlercod,
Nid 'chydig y difrod a fydd;?Ond odid na chlywir yn fuan
Am feili yn dod i roi stop,?A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog
Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;"?Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn?Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Mawrth 2, '76.
Y FRWYDR.
Clywch, clywch
Y fyddin yn dod i'r gad,?Uwch, uwch
Y cenir i gledd ein gwlad;?Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
Rhyddid yn rhoi?Gelynion i ffoi?O flaen ein gwyr.
Clywch y tabwrdd yn awr
Yn adseinio sydd,?Clywch floedd fychan a mawr
Wedi cael y dydd;?Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,
Daw haul ar ein gwlad?Mewn hwyl a mwynhad,?Cawn heddwch cyn hir.
ENWAU.
Mi ganaf gan mewn cywair llon,
Os gwrendy pawb yr un,?Rhyw gan ar enwau ydyw hon,
Ond heb gael enw ei hun;?Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir,
Ar hogiau bychain, man,?Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir
Trwy Gymru yw Sion a Sian,--
Sian Jones, &c.
Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen
Fod Taffy i'r back bones,?Am alw plant hen Gymru wen
Yn John a Jenny Jones;?Mae Smith a Brown a John a Jane
Yn Lloegr bron mor llawn,?Ac O! mae enwau'r Saeson glan
Ag ystyr ryfedd iawn.
'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
Yn High Street Number Ten,?Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg
Mae'n Meistar Ochor Pren;?'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
Ym mhalas Glan y Rhyd,?Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg,
Mae'n Sgwiar Pren i Gyd.
'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon
A geir yng Nghymru iach,?Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John,
A'r wyr yn Johnny bach;?A galw mam y wraig yn Sian,
A'r wraig yn Jeanny ni,?A galw'r wyres fechan, lan,
Yn Jeanny No. 3.
Sian Jones, &c.
Chwef 10, '74.
YR HEULWEN.
(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
Daw yr heulwen a'i gusanau,
Iechyd chwardda yn y gwynt,?Cymyl sydd fel heirdd lumanau
Bron a sefyll ar eu hynt;?Gawn ni fynd a'r
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.