Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 2

Mynyddog
y gan??Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan,?Clogwyni serth a chreigiau ban,?A harddwch. Eden ym mhob man!?Ac O! mae yno fwthyn cu?Sy'n werth palasau'r byd i mi.
Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen?Yn pwyntio i fyny tua'r nen,?Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd?Yn eiddo dewrion Cymru rydd;?O boed i mi gael byw yn hon,?A beddrod yn ei thyner fron.
Mae adsain bloedd y dewrion fu,?Heb farw rhwng ein bryniau cu,?Ac ysbryd ym mhob awel wynt?Yn adrodd hanes Cymru gynt;?O boed i mi gael byw yn hon,?A beddrod yn ei thyner fron.
SIOM SERCH.
Daeth ef i geisio denu'r ferch,
A phlannu'i galon yn ei bron;?Cyn iddi ddysgu pwyso serch,
Fe ddysgodd garu'r llencyn llon;?Aeth ef a'r lili dyner, wen,
Oedd ar ei bron, angyles ne,?A phlannai'n ol ar galon Gwen
Hardd rosyn cariad yn ei lle.
Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr,
Ei geiriau mel a'i gwenau drud,?Rhodd iddo hefyd galon fawr
Yn llawn o gariad byw i gyd;?Cydwylai hi fel gwlith y nef
Pan wylai ef o dan ryw gur,?A chwarddai pan y chwarddai ef,
A'r cyfan er mwyn cariad pur.
Ond oerodd bron y llanc cyn hir,
Ac ymaith aeth gan adael hon,?Heb feddwl fawr fel treiddiai cur
Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron;?Diangai gobaith teg ei wawr
'Run fath a'r lili oddiar y ferch,?Gan adael iddi hi yn awr
Wywedig ros twyllodrus serch.
TARO YR HOEL AR EI PHEN.
Mae ambell i saer gyda'i forthwyl
Yn taro yr hoelen yn gam,?Ac ambell i un sydd mor drwsgwl
A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam;?Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,
Pan godi dy forthwyl i'r nen,?Gofala wrth daro, 'n wastadol,
I daro yr hoel ar ei phen.
Mae llawer areithiwr go ddoniol,
'Nol dodi y testyn i lawr,?Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,
Heb son am ei destyn am awr;?Siarada mor ddiflas a phlentyn,
A thry wyn ei lygaid i'r nen,?Paham nad ai'r dyn at ei destyn,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Aeth bardd i wneud pryddest anghomon,
A'r testyn oedd ci Ty'n y March,?Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,
A'r cwn aeth at Noah i'r arch;?'Rol canu pum mil o linellau,
Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen;?Paham na bae beirdd y pryddestau
Yn taro yr hoel ar ei phen?
Aeth llencyn am dro gyda'i gariad,
A soniai mor braf oedd yr hin,?A'i bod hi mor bethma yn wastad
Os na fyddai'r tywydd yn flin;?Pam na fuasai'r llelo anghelfydd
Yn gofyn addewid gan Gwen,?A siarad am fodrwy lle'r tywydd,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Ebrill 19, '75.
CYMRU FU, A CHYMRU FYDD.
"I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt?O faesydd gwaedlyd Cymru gynt,?I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd,?Ar creigiau'n clecian gan y floedd;?Er treiglo am fil o oesau chwith,?Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth;?Mae fel yn adsain nos a dydd,?Mai "Cymru fu a Chymru fydd."
Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu?Fe dyfa blodau cariad cu;?"I'r gad" yn awr heb saeth na chledd,?"I'r gad" dan faner glaerwen hedd;?Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw,?Ac arfau rhinwedd ar bob llaw;?Pelydra heulwen hanner dydd?Ar Gymru fu a Chymru fydd.
PERTHYNASAU'R WRAIG.
Mi wnes beth unwaith yn fy oes
Na wnaf mo hono mwy,?Priodais gyda geneth lan,
Y lanaf yn y plwy;?Mi wyddwn eisoes fod gan hon
Berthnasau yn y byd,?Ond chydig a feddyliais am
Briodi'r rhain i gyd;
Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c.
Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd
I droi i mewn i'r ty,?I gael ymgom am hanner awr
O hanes dyddiau fu,?Cyn dechreu siarad gylch y tan,
Na phrofi unrhyw saig,?Fe gymer imi hanner awr
I introdiwsio'r wraig.
Dyna'i hewyrth, &c.
Mi eis i'r dref yn fore ddoe
Yng nghwmni Sion y Graig,?A dyma'm hunig neges i
Oedd prynnu watch i'r wraig;?Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
Dywedai 'mhen rhyw hyd,--?"A brynsoch chwi ddim pob 'i watch
I'm perthynasau i gyd?"
Prynnu watch i'r lot i gyd?
Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
Dechreuais fynd o 'ngho',?A dywedais yn fy natur ddrwg
Na wnai hi byth mo'r tro;?Dechreuai 'i thafod hithau fynd
I drin a hel o hyd,?Ac nid yn unig hi ei hun,
Ond unai'r lleill i gyd.
"Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c.
Medi 13, '75.
GORNANT FECHAN.
(Goethe).
Gornant fechan, loew, dlos,?Treiglo'r wyt y dydd a'r nos;?Beth yw'th neges? Beth yw'th nod??I ble yn mynd?--O ble yn dod?
"'Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw,?'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw,?Gan dynnu darlun ar fy mron?O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon.
"Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd,?Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd;?Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith?Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith.
Mai 18, 1877.
Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF.
Mae ambell aderyn lled fychan,
Mae ambell aderyn lled fawr,?Mae rhai yn ehedeg yn uchel,
Ac ereill yn ymyl y llawr;?Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg
I ymyl y lleuad mor llon,?A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion
I hedeg 'run dwylath o'r bron;?Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd,?Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd.
Os gwelwch ysgogyn go wyntog
Yn chwyddo'n anferthol o fawr,?O'r braidd y mae gan ei ysgafnder
Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr;?'Does ryfedd ei fod yn ymgodi
I fyny fel pluen i'r nen,?'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced,
Na gronyn o bwysau'n ei ben.?Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Ceir ambell i eneth benchwiban
Yn gwerthu gwyleidd-dra
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.