Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 4

Mynyddog
haf o'r gweunydd,
Dwyn cusanau'r haul yn llu,?Ar ein bochau gwridog beunydd,
I addurno cartref cu?
Dringwn fry i gartre'r hedydd,
Chwarddwn, neidiwn megis plant,?Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd
Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;?Canwn gerddi a dyriau,
Casglwn flodau gwyllt y wlad,?Ac mi gadwn y pwysiau
Harddaf oll i'n mam a'n tad.
FFUGENWAU.
Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,?Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;?Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,?A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;?Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,?Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,?Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,?A llewod ac arthod, eryrod a brain,?Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.
Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,?A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,?Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,?A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;?Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,?A'i blastro ag enw fel label ar focs.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don,?Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon,?Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,?Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;?'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,?A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,?Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,?Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,?A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,?A chyda'r rhai yna daw Morris--
Llanfairmathafarn eithaf?Rhosllanerchrugog,?Llanrhaiadr Mochnant,
Hugh,?A William Carey Williams a Dafydd--
Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll
Dysilio gogo goch
Pugh.
Ebrill 29, '76.
FY NGHALON FACH.
Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
I'w gweld fel hwyr y dydd,?A'r hedydd llon uwchben y llawr,
A'i gan mewn sain mor brudd??Ateba fy chwyddedig fron,--?Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.
Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
A'r rhew a'r eira'n dod,?Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi
Er oered yw yr od;?Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol?Fod rhywun hoff yn dod yn ol.
TYSTEBAU.
Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,
A'r oes 'rydym ynddi yn byw,?Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,
Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;?Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau
I chwiban dan fynydd a bryn,?'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau
Y dylid ei galw er hyn.
Os bydd dyn yn myned o'i ardal,
Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,?Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal
I rwymo ei draed wrth y llawr;?Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,?Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,
Os pery tystebau fel hyn.
Gwneud tysteb o nod genedlaethol
A wneir i bob crwtyn yn awr,?Argreffir colofnau i'w ganmol,
A'i godi'n anferthol o fawr;?Mae'r gair cenedlaethol yn barod,--
A helpo y genedl, a'r gair,?Er mwyn cael cyfodi corachod
A llenwi eu llogell ag aur.
Mae mul yn hen felin Llanodol,
'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,?A honno'n un wir genedlaethol,
Am gario ar ei gefn lawer pwn;?Paham na chai dysteb ragorol
I'w rwystro am byth gadw nad??Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,
A haedda ei weld gan y wlad.
Mae'n cario yr yd mor ddigyffro
Dros fynydd, a dyffryn, a dol,?Ac wedyn caiff eisin i'w ginio
I aros i'r blawd fynd yn ol;?Rhag c'wilydd i genedl y Cymry
Am fod eu syniadau mor gul,?Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
I gychwyn y dysteb i'r mul.
Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,
O! clywch ef yn codi ei gri,?Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid
Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;?Oferedd im' fyddai ei ganmol,
Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,?Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,--
Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.
Ebrill 29, '76.
RHOWCH BROC I'R TAN.
Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio
A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw,?A dioddef eich gwlychu a'ch curo
Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw;?'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan,
Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy,?A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan,
A'r cariad a'r tan yn y ty;
Rhowch broc i'r tan,?A chanwch gan,?I gadw cwerylon o'r aelwyd lan.
Pan fyddo y gwr wedi monni,
A'i weflau'n lled lipa i lawr,?A'i lygaid gan dan yn gwreichioni,
A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr;?Edryched y gwragedd dan wenu,
A pheidiwch dweyd gair wrtho fe,?Daw amser a'r gwr at ei ganu,
A'r gweflau a'r llygaid i'w lle.
Rhowch, &c.
Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau
Yn edrych yn sarrug a sur,?A'u llygaid fel cwmwl taranau
Yn lluchio y mellt at y gwyr;?Mae cariad yn well yn y diwedd
Ar ol bod mewn helbul ei hun,?'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd
Erioed wedi lladd yr un dyn.
Rhowch, &c.
Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed,?Pan fyddo y trwyn wedi rhewi,
A'r winrhew ar fysedd y traed,?Pan fo Catherine Anne wedi briwo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach,?A'r babi yn nadu a chrio,
A'r gath wedi crafu John bach,
Rhowch, &c.
Ion. 3, '73.
MI SAETHAIS GAN.
(O Longfellow).
Mi saethais gan i fyny i'r ne',?A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,?Can's ni fu 'rioed un llygad llym?All ddilyn saeth ar hediad chwim.
Anadlais gan i wynt y ne',?Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,?Oblegid nid oes llygad glan?All ddilyn llwybrau adlais can.
'Mhen blwyddau hir mewn calon pren?Y saeth a gefais
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.