hen garneddau
Sy'n cadw llwch
ein tadau
Ar ol blinderus hynt;
Ateba'u llwch o'r beddau
Fod gwaed ar hyd eu
llwybrau,
A myrdd o orthrymderau
Yn blino Cymru gynt.
Ond wedi i'r Tuduriaid
Gael dod yn benaduriaid,
Cyduna'r holl
Brydeiniaid
I ufuddhau i'w pen;
Mae aeron per y blodau
Yn tyfu'n meusydd
brwydrau,
A heddwch lond calonnau
Hen deulu'r Ynys Wen.
Ar orsedd bena'r ddaear,
Dan goron hardda'r byd,
Eistedda Buddug hawddgar
Dan wenau'r nef bob pryd;
Mae gwaed brenhinol Owain
Yn llifo trwy'r llaw sydd
Yn dal teyrnwialen Prydain
Uwchben miliynnau rhydd.
Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas
Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd,
Dau begwn y ddaear yw terfyn
y deyrnas,
A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd;
Gogledd a deau sy'n dangos
eu miloedd
O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,--
"Mae gan ein Brenhines
ddigonedd o diroedd
I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng."
Na foed adseiniau'n cymoedd
Yn cael eu deffro mwy
I ateb swn rhyfeloedd
Ar hyd eu llethrau hwy;
Tywysog gwlad y bryniau
A ddalio tra bo byw,
Yn noddwr i rinweddau
Dan nodded llaw ei Dduw.
Y DDRAENEN WEN.
Eisteddais dan y ddraenen wen
Pan chwarddai bywyd Ebrill cu
Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,
A myrdd o friall o bob tu;
Eisteddai William gyda'i Wen,
Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,
Tra canai'r fwyalch uwch ein pen
Ei chalon yn ei chan i Dduw;
Rhoi William friall ar fy mron,
A modrwy aur yn llaw ei Wen;
Mi gofiaf byth yr adeg hon
Wrth eistedd dan y ddraenen wen.
IFAN FY NGHEFNDER.
Dyma godl yn dwbl odli;
'E wnes y prawf o ran spri.
Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
Ryw noson i hebrwng ei Fari;
A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n
Coed,
Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.
Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,--
"Pa bryd caf dy weled di eto?"
Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n
wneud,
Aeth awel o wynt gyda'i het o.
A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
I geisio, a ffaelu dal honno,
Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
Fod y ci wedi dianc a'i ffon o.
Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon,
Siaradai a Mari'n ddi-daro;
Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron,
Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o.
"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn,
"I chwilio am fodrwy'n ddioedi?"
Ac er mwyn rhoi sel ar ddywediad
fel hyn,
Fe sangodd y brawd ar ei throed hi.
"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?"
A'i gruddiau ddechreusant a chochi;
Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn,
A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi.
Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd,
Ni ddarfu'r cusanu ei swyno;
Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a
gwawd,
A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o.
Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn,
A dwedai fel dyn wedi monni,--
"Gwyn fyd na f'ai serch rhyw
hogenod fel hyn
Yn cadw am byth o fy mron i."
Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dy,
Ac Ifan ar ganol breuddwydio;
Mae cariad yn meddu atyniad mor
gry',
Ni synwn un blewyn na chwyd hi o.
YR HWN FU FARW AR Y PREN.
Yr Hwn fu farw ar y pren
Dros euog ddyn o'i ryfedd ras,
O! agor byrth y nefoedd wen
I'n dwyn uwchlaw gelynion cas.
Y diolch byth, y clod a'r mawl
Fo i'r anfeidrol Un yn Dri,
Gwna ni yn etifeddion gwawl
Y Ganan nefol gyda Thi.
[Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg]
CHWEDL Y TORRWR BEDDAU.
Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen,
A natur gan oerfel yn
colli ei gwen,
Fe rewai'r dwfr fel gweren oer,
Tra prudd edrychai yr
ieuanc loer
Cydrhwng canghennau'r coed;
Yng ngolau'r nos, mewn mynwent
laith,
'Roedd torrwr beddau wrth ei waith;
Un hen oedd ef, ac wrth
ei ffon,
A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron
A'r esgyrn dan ei droed.
Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef
A fferrai lwynau natur gref,
A'r
torrwr beddau yn ddifraw,
Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw,
Besychai am ryw hyd,
Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin;
'Roedd
ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him,
Ac yna fe dynnodd ryw botel
gron
O'i logell,--ond potel wag oedd hon;
A churai 'i ddaint ynghyd.
Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr,"
Y dafarn hyna'n y dref yn
awr,
Fe chwyrnai'r tegell ar y tan,
A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd
lan
Tra'n gorwedd ar gefn y ci.
'Roedd mab yr yswain yno mor hyf,
Yr
hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,
A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r
aer,
A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer,
Cyn dewed a dau o'r rhai
tewa'n y wlad
Yn siarad a dau neu dri.
Y torrwr beddau edrychai'n glau,
A gwelai y goleu, a'r drws heb ei
gau,
Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd
Yn hoffi pibell, ae yfed
fel hydd,
'Doedd ryfedd fod arno fo flys;--
"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton
yn syn,--
"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,
A ch'letach
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.