un oddefodd bwysau
Holl bechodau dynol ryw,
Ac o'i fodd oddefodd loesau
Miniog gledd dialedd Duw;
Ac a ddrylliodd deyrnas angau
Pan y daeth o'i fedd yn fyw.
OWEN TUDUR. {39}
(Cantawd).
Mae Owen Glyndwr yn ei fedd,
Ar ol tymhestlog ddiwrnod,
A'r gwaed a erys ar ei gledd
I ddweyd ei hanes hynod;
Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn
Ar fedd y gwron hwnnw
Sydd fel rhyw angel yn ei wyn
Yn gwenu dros y marw.
Dewch, delynorion, cenwch don
Ar ol cael hir orffwyso,
Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon
A gyfyd Gymru eto;
Er fod priddellau Cymru wen
Yn feddrod i'w thrigolion,
Hil Cymro glan fydd bia'r pen
Gaiff eto wisgo'r goron.
Dyma delyn anwyl Cymru,
Dyma fysedd eto i'w chanu,
Er fod
gormes bron a llethu
Ysbryd pur y gan;
Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon
Gura ym
mynwesau'n dewrion,
Mae gan Gymru eto feibion
A'u teimladau'n dan;
Pan fo'r cledd yn deffro,
Ac eisiau llaw i'w
chwyfio,
Mae hon i'w chael o oes i oes
Wrth ysgwydd hael pob Cymro.
Fflamia'i lygad, chwydda'i galon,
Pan y gwel ormesdeyrn creulon,
Cadw'i wlad rhag brad yr estron
Yw ei bennaf nod;
Mae llwch ein hanwyl dadau,
Sy'n nghadw dan
garneddau,
Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr
Am gadw ei iawnderau;
Ac mae'n bryniau uchel beilchion,
A'n hafonydd gwyllt a gloewon,
Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion
Ydym byth i fod.
Y GENNAD,--
At bendefigion Cymru
Sy'n hannu o uchel fon,
Mae gennyf genadwri
O blas Penmynydd Mon;
Cynygiodd Owen Tudur
Ei galon gyda'i law
I Catherine, y frenhines,
Mae hithau'n dweyd y daw.
Os na ddaw rhyw atalfa,
Priodant yn ddioed,
Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd
Ag unrhyw ddau fu 'rioed;
Ai tybed bydd 'run Cymro,
Pan ddaw y dydd i ben,
Heb roi hawddamor iddo
Nes crynno'r Wyddfa wen?
PENDEFIG,--
Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig
Yn berwi yn fy mynwes,
'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad
Wrth wrando ar yr hanes;
Mae gwaed brenhinol Brython hyf
Yn curo'n mynwes Owen,
A dylid cadw hwn mor bur
Ag awyr Ynys Brydain.
PENDEFIG ARALL,--
Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth
A phriodi dynol ryw,
Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro
Bron 'run drwch a bron 'run lliw;
Feallai bydd yr uniad yma,
Pan ry'r olwyn dro i ben,
Yn agor ffordd i gerbyd heddwch
Dramwy drwy yr Ynys Wen.
Gwened blodau gwylltion Cymru
Ar eu modrwy loew dlos,
A boed haul yn gwenu arni,
Gwened lloer a ser y nos;
Gwened Sais a gwened Cymro,
Na foed gwg ar unrhyw ael,
A gwened nef uwch law y cyfan,
Mae gwen o'r nef yn werth ei chael.
PENDEFIGES,--
Heblaw gweniadau'r lleuad wen,
A gwenau'r haul o fynwes nen,
Heblaw gweniadau'r nefoedd fry,
Cant wen rhianedd Cymru gu;
Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl
Yn dyrchu banllef lawn o hwyl,
Anadlwn ninnau weddi wan
I glustiau'r nefoedd ar eu rhan;
Pob
bryn fo'n dal ei faner wen,
Pob cloch fo'n canu nerth ei phen,
Ni
daenwn ninnau flodau fyrdd
A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd.
CYDGAN,--
Mae gwawr yn torri dros sir Fon,
A Chymru'n gwenu arni,
Mae swn llawenydd yn y don,
A diolch yn y weddi;
Mae'r clychau'n effro ym mhob llan
Yn prysur ddweyd y newydd,
A'r awel fach yn gwneud ei rhan
I'w gludo draws y gwledydd.
Y BARDD,--
Methodd Owen Glyndwr rwymo
Teimlad pawb mewn rhwymau hedd,
Megis tonn mewn craig yn taro
Oedd dylanwad min ei gledd;
Ond mae Owen Tudur dirion
Wedi uno'r ynys lon,
Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson
Wenu'n nghylch y fodrwy gron.
CYDGAN,--
Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri
Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd,
Bannau Brycheiniog fo'n llawn o
goelcerthi
Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd;
Llonned y delyn bob treflan a
phentref,
Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl,
Ar flaen adenydd alawon y
Cymry,
Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl.
Fe gwympodd ein gwrolion
Wrth gadw hawl ein coron,
Rhag iddi
fynd o Walia Wen
I harddu pen rhyw estron.
Mae llef oddiwrth y meirw
Sy'n dweyd yn ddigon croew,
Yn adlais
glir ar lan pob bedd,
Na fedrai'r cledd mo'i chadw.
Deallodd Owen Tudur
Athroniaeth bennaf natur,
Ein coron trwyddo
ef a gawn
Heb nemawr iawn o lafur.
CYDGAN,--
Mae modrwy a chariad yn curo y cledd
Heb aberth o fywyd nac eiddo,
Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn
hedd,
A heddwch ac undeb flodeuo;
Teyrnwialen a choron ein hynys bob
pryd
A ddelir gan hil meibion Gwalia,
A chryma teyrnwiail brenhinoedd y
byd
Yn ymyl teyrnwialen Britannia.
Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry
Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron,
A rhosyn y Saeson osodwyd i
harddu
Bron ei anwylyd edrychai mor llon;
A byth wedi hynny mae'r ddau'n
un blodeuglwm,
Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron;
Bu bysedd dwy genedl
yn gosod y cwlwm,
A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron.
Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas,
Holwch briddellau maes Bosworth yn awr,
Yno coronwyd dymuniad
y deyrnas,
Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr;
Mae adsain y fanllef
fuddugol trwy'r oesau
Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad,
Bydd clod Harri
Tudur a dewrder ein tadau
Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad.
Esgynnwn i'n mynyddau,
A holwn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.