fyth
pan deimlwch chwi'ch hun
Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn!
Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,'
Mae'r gwynt yn ddigon a tharo
dyn lawr."
Ac i mewn ag ef ar frys.
Fe wenai pawb wrth ei weled e'
Y torrwr beddau yn cymeryd ei le
O dan y fantell simnai fawr,
(A chwarddai y tan dan ruo'n awr),
Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef,
O fab yr yswain i'r tlota'n y dref.
"Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty,
"Rhyw chwedl ddifyr am bethau
a fu."
'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad
Adroddwr chwedlau
yr holl wlad.
Fe wyddai am bob yspryd bron
Fu'n tramwy hyd y
ddaear hon;
Fe fedrai ddychryn calon wan,
A'i gwneud yn ysgafn
yn y fan;
Fe allai gau ac agor clwy',
A medrai ddynwared pawb yn
y plwy'.
"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd,
Rhowch iddo gornied o
gwrw brag haidd,"
Ebe gwr y ty yn awr;
"Mae stori sych yn ddigon o bla
Os na fydd
llymaid o ddiod dda
Yn helpu y stori lawr."
Y CHWEDL.
I.
Ar nos Nadolig oer a llaith,
Ers deugain o flynyddau maith,
Bu farw
Harri Huws;--'roedd ef
Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref.
Bu ef i
mi yn gyfaill pur.
A chalon gywir fel y dur,
A diwrnod tywyll,
prudd ei wedd,
Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.
Gadawodd eneth ysgafn droed
O'i ol,--yn un ar bymtheg oed;
'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,
A chwarddai serch o'i llygad du.
Bum i yn dysgu'r eneth hon
I ddweyd A B yn blentyn llon,
Ac wrth
ei dysgu, credais i
Y dysgai'r ferch fy ngharu fi;
Ond ffoledd oedd
i'r eneth dirion
I feddwl caru hen wr gwirion.
Daeth morwr llon i siarad a hi,
A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,
Ond
dd'wedais i air erioed wrth hon
O'r hyn a deimlais dan fy mron;
Na
gair yn erbyn y morwr chwaith,
Oblegid hwy fuont am flynyddau
maith
Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant
Ar ochr y bryn neu lan
y nant;
Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu
Aeth y morwr
ymaith ag Elen gu!
Nis gallaf ddirnad byth er hyn
Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn
O
dan fath gwmwl, na pha fodd
Y daeth amheuaeth ag y todd
Gymeriad oedd mor bur;
'Doedd neb yn meddwl yn y wlad
Y
buasai impyn tyner, mad,
Yn dwyn fath ffrwythau sur.
Agorai'r wawr ei hamrant clau,
Ac ymaith a fi ar ol y ddau,
A
digwydd wnaethum fynd 'run ffordd,
Tra curai'm calon megis gordd,
Dan bwys briwedig fron;
Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd
Pa un
ai gofid oedd yn gwneud
I'm dagrau redeg dros fy ngrudd,
Ai ynte
ryw lawenydd prudd;
Ond rhedeg wnaethant fel y lli'
Pan ddaeth y
newydd gynta 'i mi
Fod Mari'n wraig i John.
II.
Pan gwrddodd Mari gyda fi,
Ei dagrau redent fel y lli;
Hi deimlai'n
ddedwydd ar un llaw,
Ac o'r tu arall, ofn a braw
A lanwai'i bron. Hi
ddwedai'r oll
Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;
Agorai'i bron, can's
roeddwn i
Yn gyfaill mebyd iddi hi.
Datodai glo ei chalon fawr,
A dwedai'i thywydd imi'n awr,
A'r fath
onestrwydd yn ei phryd
Nes teimlwn i'm teimladau i gyd
Yn toddi'n
llwyr; a gwenau hon
A wnaent i minnau wenu'n llon,
A gweld ei
dagrau'n treiglo'n lli
A sugnent ddagrau 'nghalon i.
Ond pan yn tynnu tua phen
Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
A
ddwedai, gyda'i llygad du
Yn saethu teimlad ar bob tu,--
"O fel yr
ofnwn wg fy mam,
Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:
A balchder
gyda thanllyd serch
A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
"Priodi a wnaethum heb wybod i mam--
'Roedd hynny, 'rwy'n addef,
yn bechod a cham;
Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm
rhan,
Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
Ni allwn
gyfaddef i mam er y byd,
Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
I
ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn
oedd gan mam.
"Hi allodd gau y drws a'i gloi
Ar ol ei merch, a medrodd droi
Clust
fyddar at fy ymbil taer,
A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,--
'Gan
iti fynnu'th ffordd bob cam,
A chroesi 'wyllys gref dy fam,
Dos
gydag ef, yr hoeden ffol,
A phaid a dychwel byth yn ol.'"
Fe wylai Mari'n hidl fan hon,
Agorodd holl argaeau'i bron,
A
d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur,
Cyn darfod adrodd chwedl fy
nghur,
A wnewch chwi addaw'r funud hon
I gloi y chwedl yn eich
bron
O wydd pob dyn trwy'r byd;
Er imi dynnu arnaf gam,
Ac er im'
ddigio mynwes mam,
Fy mam oedd hi o hyd.
"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
A holl dafodau'r lle yn mynd
Yn gyflym gyda'm hanes prudd,
A mam rhy falch o ddydd i ddydd
I geisio clirio'i geneth wen,
A cheisiai gadw i fyny'i phen
Drwy
fynd i'r eglwys yn ei du,
Fel pe buasai'i geneth gu
Yn gorwedd yn ei
thawel fedd,
Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd."
Un noson oer, mewn gaeaf du,
Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
Gan
wylio'r marwor mawn a choed
Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,
Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.
Pan yn ddisymwth o'm tu ol
'Roedd swn cerddediad!--pan y trois,
Mi glywn fy enw mewn acen
gyffrous,
A phwy oedd yno ger fy mron
Ond
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.