gwneud dyn i daeru
'Dyw hanner y byd ddim yn gall.
Fel tau, fel tase, yn te,
Ofnatsen gynddeirus, yn te,
Peth hwnnw yw
gweled rhai'n bethma
Fel tase, fel tau, yn te.
Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd,
A llawer o siarad a stwr,
A phawb fel pe tae yn dywedyd
Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."
Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,
A'r enw roir yno ar feddwon
Yw "chwil ulw beipan" yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch tua Meirion a morol,
Cewch giasag i fynd ar ei thraws,
A ciariad, a ciarag, a cianol,
A ciamu, a ciamfa, a ciaws;
Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,
Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,
Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,
Yn te ydyw'r bethma yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,
'Run siwt mae hi obry yn awr,
Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
Yn dishgwl yn ffamws i lawr;
Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,
Yn whleia a'u giddil o hyd,
Wy'n sposo taw dyna y bachan
Sy'n cwnni yn awr yn y byd.
Fel tau, &c.
Chwef., '73.
GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI.
(EMYN).
Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
Ar liniau Mair mewn natur dyn,
Ac ar y groes cymerai'n gwawd
A'n beiau trymion arno'i hun;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.
Dros bechadur, rhedai'n lli
Waed a dwfr, o'i anwyl fron.
Dyma'r ffynnon! Boed i ni
Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.
Y MEDLEY CYMRAEG.
Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
Pan ganai yr adar yn felus a llon,
Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y
dolydd,
A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,
'Roedd geneth yn
godro yn ddifyr tan ganu,
A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,
A gwelwn
Ferch Megan ei hun
Mor iached a'r rhosyn,
A'i llygaid yn dan o fywyd a serch;
'Roedd adar y llwyn
Yn tewi i wrando
Er clywed y gan a ganai fel
Hen ferch yn gwau ei hosan,
Ar hyd y nos,
A'i gweill bach glic glic yn clecian
Ar hyd y nos,
Canai'r gath ar ben y pentan,
Canai hithau ganig
ddiddan,
Tra y canai'r gwynt tu allan
Ar hyd y nos;
Rhedai'i meddwl tra yn canu
At wroldeb yr hen
Gymry
Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,
Gan wyr Harlech ruthrent allan
Nes
adseiniai bryniau anian
Floedd y rhain i'r gad;
Benyr grogent ar hen greigiau,
A
neuaddoedd y mynyddau
Ail ddywedent y bloeddiadau
Dros ein hanwyl wlad;
Rhuthrent tua'r dyffryn,
Gledd yng nghledd
a'r gelyn,
Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
Ynghanol braw a dychryn,
Nes y
Gelyn giliai ar Nos Galan,
Fa la la, &c.,
Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan,
Fa la la, &c.,
Tynnu diliau tannau'r delyn,
Fa la la, &c.,
Wnaent i'w gilydd heb un gelyn,
Fa la la, &c.
Chwef. 18, '72.
DYCHWELIAD Y MORWR.
Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan--
Dacw y foel a dacw y fan;
'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu,
'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n
gweld y ty;
Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong,
A swn hen gloch
y llan, ding dong.
DYSGWCH DDWEYD "NA."
Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
Na ddylid dim dysgu eu dweyd,
Ac hefyd anghofir rhai geiriau
Y dylid eu dysgu a'u gwneud;
Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu
yr iaith,
Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,
Faint bynnag
o eiriau a ddysgwch yn dda,
Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd
"Na;"
Dysgwch ddweyd "Na,"
'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd
"Na."
Os gwelwch chwi gwmni afradlon
Yn mynd i oferedd yn ffol,
Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion,
A gadael pob moesau ar ol;
Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch
Mor wag a diafael ag adsain y gloch,
'Ran hynny, mae pennau y
clychau a rhain
Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main;
Ac os
daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
Os gwelwch chwi eneth brydweddol
Yn gwisgo yn stylish dros ben,
Cyn son am y pwnc priodasol,
Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,
Os ffeindiwch chwi allan wrth
chwilio'r fath yw,
Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,
A'i llygaid,
a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu',
Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy,
Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
Mae gennyf un gair i'r genethod
Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,
Mae llanciau ar brydiau i'w
canfod
Heb fod yn lan galon i gyd;
Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn
graig,
Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig,
Heb
gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen
Gael gwr heb na chariad,
na phoced, na phen,
A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os
na fyddant, dyweder, oddiar 35 oed),
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG.
Doed holl drigolion daear lawr
I ateb llef y nef yn awr,
Nes byddo tan eu moliant hwy
Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.
Dyma'r
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.