I aros i'r blawd fynd yn ol;
Rhag c'wilydd i genedl y Cymry
Am fod eu syniadau mor gul,
Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
I gychwyn y dysteb i'r mul.
Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,
O! clywch ef yn codi ei gri,
Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid
Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;
Oferedd im' fyddai ei ganmol,
Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,
Rhowch dysteb i'r mul
cenedlaethol,--
Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.
Ebrill 29, '76.
RHOWCH BROC I'R TAN.
Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio
A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw,
A dioddef eich gwlychu a'ch curo
Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw;
'Rol cyrraedd eich bwthyn eich
hunan,
Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy,
A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan,
A'r cariad a'r tan yn y ty;
Rhowch broc i'r tan,
A chanwch gan,
I gadw cwerylon o'r aelwyd
lan.
Pan fyddo y gwr wedi monni,
A'i weflau'n lled lipa i lawr,
A'i lygaid gan dan yn gwreichioni,
A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr;
Edryched y gwragedd dan wenu,
A pheidiwch dweyd gair wrtho fe,
Daw amser a'r gwr at ei ganu,
A'r gweflau a'r llygaid i'w lle.
Rhowch, &c.
Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau
Yn edrych yn sarrug a sur,
A'u llygaid fel cwmwl taranau
Yn lluchio y mellt at y gwyr;
Mae cariad yn well yn y diwedd
Ar ol bod mewn helbul ei hun,
'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y
gwragedd
Erioed wedi lladd yr un dyn.
Rhowch, &c.
Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed,
Pan fyddo y trwyn wedi rhewi,
A'r winrhew ar fysedd y traed,
Pan fo Catherine Anne wedi briwo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach,
A'r babi yn nadu a chrio,
A'r gath wedi crafu John bach,
Rhowch, &c.
Ion. 3, '73.
MI SAETHAIS GAN.
(O Longfellow).
Mi saethais gan i fyny i'r ne',
A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
Can's ni fu 'rioed un llygad llym
All ddilyn saeth ar hediad chwim.
Anadlais gan i wynt y ne',
Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,
Oblegid nid oes llygad glan
All ddilyn llwybrau adlais can.
'Mhen blwyddau hir mewn calon pren
Y saeth a gefais ar ei phen,
A'r gan a gefais wedi mynd
A glynu i gyd mewn calon ffrynd.
WELWCH CHWI FI?
Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,
A chan arno hefyd cyn
clywed f'un i;
Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,
Rhoed pawb
sy'n diflasu ei fys yn ei glust;
Os na fydd y gan o un diben i chwi,
Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.
A welwch, &c.
Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,
A balchder a hunan yn
byw arno fo,
Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,
A chuddia ei
hunan yn mwg ei sigar;
Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn
bri,
A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.
A welwch chwi V,
Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"
Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen
Fel math o ryw
golofn fry fry yn y nen,
A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,
A
phluen ar hynny i fyny fel ffon;
Prin gwelir y top heb gael telescop
cry',
Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"
A welwch chwi fi?
Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"
"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr,
"A welwch chwi
finnau?" medd y bychan ar lawr;
Mae hynny yn dangos yn amlwg,
wrth gwrs,
Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs
Mae gwreiddyn y
drwg am gael dringo i fri,
Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch
chwi V?"
A welwch chwi V?
Y galon yw cartref y "Welwch chwi V,"
Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V."
Awst 24, '72.
"WILLIAM."
" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave."
Ddoi di yn ol ataf, William, William,
Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti?
Mi fyddwn am byth iti'n
berffaith ffyddlon,
William, William,--anwyl i mi.
Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William,
Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti;
Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn
hawddgar,
William, William,--anwyl i mi.
Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,
Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry;
A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy
garu?
William, William,--anwyl i mi.
Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,
Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di;
Ond wedi dy golli, mae'r byd
fel cysgod,
William, William,--anwyl i mi.
Estyn dy law i mi, William, William,--
Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,
Mae nghalon yn gorwedd ym
medd fy William;
William, William,--anwyl i mi.
[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant,
Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg]
GEIRIAU LLANW.
Mae llawer o hen eiriau llanw
I'w cael ym mhob Llan a phob lle,
Yn debyg i bethma a hwnnw,
Fel tau ac fel tase, yn te,
Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,
Fel tase, yn te, meddai'r llall,
Yn ddigon a
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.