gad,
Uwch, uwch
Y cenir i gledd ein gwlad;
Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
Rhyddid yn rhoi
Gelynion i ffoi
O flaen ein gwyr.
Clywch y tabwrdd yn awr
Yn adseinio sydd,
Clywch floedd fychan a mawr
Wedi cael y dydd;
Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,
Daw haul ar ein gwlad
Mewn hwyl a mwynhad,
Cawn heddwch
cyn hir.
ENWAU.
Mi ganaf gan mewn cywair llon,
Os gwrendy pawb yr un,
Rhyw gan ar enwau ydyw hon,
Ond heb gael enw ei hun;
Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir,
Ar hogiau bychain, man,
Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir
Trwy Gymru yw Sion a Sian,--
Sian Jones, &c.
Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen
Fod Taffy i'r back bones,
Am alw plant hen Gymru wen
Yn John a Jenny Jones;
Mae Smith a Brown a John a Jane
Yn Lloegr bron mor llawn,
Ac O! mae enwau'r Saeson glan
Ag ystyr ryfedd iawn.
'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
Yn High Street Number Ten,
Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg
Mae'n Meistar Ochor Pren;
'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
Ym mhalas Glan y Rhyd,
Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg,
Mae'n Sgwiar Pren i Gyd.
'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon
A geir yng Nghymru iach,
Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John,
A'r wyr yn Johnny bach;
A galw mam y wraig yn Sian,
A'r wraig yn Jeanny ni,
A galw'r wyres fechan, lan,
Yn Jeanny No. 3.
Sian Jones, &c.
Chwef 10, '74.
YR HEULWEN.
(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
Daw yr heulwen a'i gusanau,
Iechyd chwardda yn y gwynt,
Cymyl sydd fel heirdd lumanau
Bron a sefyll ar eu hynt;
Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd,
Dwyn cusanau'r haul yn llu,
Ar ein bochau gwridog beunydd,
I addurno cartref cu?
Dringwn fry i gartre'r hedydd,
Chwarddwn, neidiwn megis plant,
Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd
Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
Canwn gerddi a dyriau,
Casglwn flodau gwyllt y wlad,
Ac mi gadwn y pwysiau
Harddaf oll i'n mam a'n tad.
FFUGENWAU.
Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
Rhai'n berygl ryfeddol a hir
eu parhad;
Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
A chlefyd
excursions a chanu Soh, Doh;
Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a
gaed,
Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
A llewod ac arthod, eryrod a brain,
Ac ambell i fwnci ynghanol y
rhain.
Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,
A'i anfon i'r print ac
oddiyno i'r tan,
Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
A'i fam
yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn
ei glocs,
A'i blastro ag enw fel label ar focs.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don,
Mae Pencerdd Sir
Benfro a Phencerdd Sir Fon,
Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
'Rwy'n cynnyg cael
urddo hen geiliog fy nhad,
A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,
Dweyd enw a ffugenw a'r
surname yn y bon,
Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion
Rhys,
A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
A chyda'r
rhai yna daw Morris--
Llanfairmathafarn eithaf
Rhosllanerchrugog,
Llanrhaiadr
Mochnant,
Hugh,
A William Carey Williams a Dafydd--
Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll
Dysilio gogo goch
Pugh.
Ebrill 29, '76.
FY NGHALON FACH.
Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
I'w gweld fel hwyr y dydd,
A'r hedydd llon uwchben y llawr,
A'i gan mewn sain mor brudd?
Ateba fy chwyddedig fron,--
Mae
rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.
Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
A'r rhew a'r eira'n dod,
Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi
Er oered yw yr od;
Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol
Fod rhywun
hoff yn dod yn ol.
TYSTEBAU.
Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,
A'r oes 'rydym ynddi yn byw,
Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,
Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;
Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau
I chwiban dan fynydd a bryn,
'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau
Y dylid ei galw er hyn.
Os bydd dyn yn myned o'i ardal,
Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,
Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn
cystal
I rwymo ei draed wrth y llawr;
Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,
Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,
Os pery tystebau fel hyn.
Gwneud tysteb o nod genedlaethol
A wneir i bob crwtyn yn awr,
Argreffir colofnau i'w ganmol,
A'i godi'n anferthol o fawr;
Mae'r gair cenedlaethol yn barod,--
A helpo y genedl, a'r gair,
Er mwyn cael cyfodi corachod
A llenwi eu llogell ag aur.
Mae mul yn hen felin Llanodol,
'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,
A honno'n un wir genedlaethol,
Am gario ar ei gefn lawer pwn;
Paham na chai dysteb ragorol
I'w rwystro am byth gadw nad?
Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,
A haedda ei weld gan y wlad.
Mae'n cario yr yd mor ddigyffro
Dros fynydd, a dyffryn, a dol,
Ac wedyn caiff eisin i'w ginio
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.