Galan,
Fa la la, &c.,?Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan,
Fa la la, &c.,?Tynnu diliau tannau'r delyn,
Fa la la, &c.,?Wnaent i'w gilydd heb un gelyn,
Fa la la, &c.
Chwef. 18, '72.
DYCHWELIAD Y MORWR.
Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan--?Dacw y foel a dacw y fan;?'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu,?'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty;?Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong,?A swn hen gloch y llan, ding dong.
DYSGWCH DDWEYD "NA."
Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
Na ddylid dim dysgu eu dweyd,?Ac hefyd anghofir rhai geiriau
Y dylid eu dysgu a'u gwneud;?Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith,?Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,?Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda,?Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;"
Dysgwch ddweyd "Na,"?'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na."
Os gwelwch chwi gwmni afradlon
Yn mynd i oferedd yn ffol,?Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion,
A gadael pob moesau ar ol;?Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch?Mor wag a diafael ag adsain y gloch,?'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain?Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main;?Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
Os gwelwch chwi eneth brydweddol
Yn gwisgo yn stylish dros ben,?Cyn son am y pwnc priodasol,
Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,?Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw,?Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,?A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu',?Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy,?Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
Mae gennyf un gair i'r genethod
Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,?Mae llanciau ar brydiau i'w canfod
Heb fod yn lan galon i gyd;?Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig,?Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig,?Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen?Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen,?A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder, oddiar 35 oed),
Dysgwch ddweyd "Na," &c.
GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG.
Doed holl drigolion daear lawr
I ateb llef y nef yn awr,?Nes byddo tan eu moliant hwy
Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.
Dyma'r un oddefodd bwysau
Holl bechodau dynol ryw,?Ac o'i fodd oddefodd loesau
Miniog gledd dialedd Duw;?Ac a ddrylliodd deyrnas angau
Pan y daeth o'i fedd yn fyw.
OWEN TUDUR. {39}
(Cantawd).
Mae Owen Glyndwr yn ei fedd,
Ar ol tymhestlog ddiwrnod,?A'r gwaed a erys ar ei gledd
I ddweyd ei hanes hynod;?Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn
Ar fedd y gwron hwnnw?Sydd fel rhyw angel yn ei wyn
Yn gwenu dros y marw.
Dewch, delynorion, cenwch don
Ar ol cael hir orffwyso,?Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon
A gyfyd Gymru eto;?Er fod priddellau Cymru wen
Yn feddrod i'w thrigolion,?Hil Cymro glan fydd bia'r pen
Gaiff eto wisgo'r goron.
Dyma delyn anwyl Cymru,?Dyma fysedd eto i'w chanu,?Er fod gormes bron a llethu
Ysbryd pur y gan;?Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon?Gura ym mynwesau'n dewrion,?Mae gan Gymru eto feibion
A'u teimladau'n dan;?Pan fo'r cledd yn deffro,?Ac eisiau llaw i'w chwyfio,
Mae hon i'w chael o oes i oes?Wrth ysgwydd hael pob Cymro.
Fflamia'i lygad, chwydda'i galon,?Pan y gwel ormesdeyrn creulon,?Cadw'i wlad rhag brad yr estron
Yw ei bennaf nod;?Mae llwch ein hanwyl dadau,?Sy'n nghadw dan garneddau,
Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr?Am gadw ei iawnderau;?Ac mae'n bryniau uchel beilchion,?A'n hafonydd gwyllt a gloewon,?Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion
Ydym byth i fod.
Y GENNAD,--
At bendefigion Cymru
Sy'n hannu o uchel fon,?Mae gennyf genadwri
O blas Penmynydd Mon;?Cynygiodd Owen Tudur
Ei galon gyda'i law?I Catherine, y frenhines,
Mae hithau'n dweyd y daw.?Os na ddaw rhyw atalfa,
Priodant yn ddioed,?Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd
Ag unrhyw ddau fu 'rioed;?Ai tybed bydd 'run Cymro,
Pan ddaw y dydd i ben,?Heb roi hawddamor iddo
Nes crynno'r Wyddfa wen?
PENDEFIG,--
Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig
Yn berwi yn fy mynwes,?'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad
Wrth wrando ar yr hanes;?Mae gwaed brenhinol Brython hyf
Yn curo'n mynwes Owen,?A dylid cadw hwn mor bur
Ag awyr Ynys Brydain.
PENDEFIG ARALL,--
Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth
A phriodi dynol ryw,?Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro
Bron 'run drwch a bron 'run lliw;?Feallai bydd yr uniad yma,
Pan ry'r olwyn dro i ben,?Yn agor ffordd i gerbyd heddwch
Dramwy drwy yr Ynys Wen.
Gwened blodau gwylltion Cymru
Ar eu modrwy loew dlos,?A boed haul yn gwenu arni,
Gwened lloer a ser y nos;?Gwened Sais a gwened Cymro,
Na foed gwg ar unrhyw ael,?A gwened nef uwch law y cyfan,
Mae gwen o'r nef yn werth ei chael.
PENDEFIGES,--
Heblaw gweniadau'r lleuad wen,?A gwenau'r haul o fynwes nen,?Heblaw gweniadau'r nefoedd fry,?Cant wen rhianedd Cymru gu;?Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl?Yn dyrchu banllef lawn o hwyl,?Anadlwn ninnau weddi wan?I glustiau'r nefoedd ar eu rhan;?Pob bryn fo'n dal ei faner wen,?Pob cloch fo'n canu nerth ei phen,?Ni daenwn ninnau flodau fyrdd?A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd.
CYDGAN,--
Mae gwawr yn torri dros sir Fon,
A Chymru'n gwenu arni,?Mae swn llawenydd yn y don,
A diolch yn y weddi;?Mae'r clychau'n effro ym mhob llan
Yn prysur ddweyd y newydd,?A'r awel fach yn gwneud ei rhan
I'w gludo draws y gwledydd.
Y BARDD,--
Methodd Owen Glyndwr rwymo
Teimlad pawb mewn rhwymau
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.