Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 7

Mynyddog
hedd,?Megis tonn mewn craig yn taro
Oedd dylanwad min ei gledd;?Ond mae Owen Tudur dirion
Wedi uno'r ynys lon,?Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson
Wenu'n nghylch y fodrwy gron.
CYDGAN,--
Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri
Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd,?Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi
Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd;?Llonned y delyn bob treflan a phentref,
Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl,?Ar flaen adenydd alawon y Cymry,
Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl.
Fe gwympodd ein gwrolion?Wrth gadw hawl ein coron,?Rhag iddi fynd o Walia Wen
I harddu pen rhyw estron.
Mae llef oddiwrth y meirw?Sy'n dweyd yn ddigon croew,?Yn adlais glir ar lan pob bedd,
Na fedrai'r cledd mo'i chadw.
Deallodd Owen Tudur?Athroniaeth bennaf natur,?Ein coron trwyddo ef a gawn
Heb nemawr iawn o lafur.
CYDGAN,--
Mae modrwy a chariad yn curo y cledd
Heb aberth o fywyd nac eiddo,?Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd,
A heddwch ac undeb flodeuo;?Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd
A ddelir gan hil meibion Gwalia,?A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd
Yn ymyl teyrnwialen Britannia.
Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry
Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron,?A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu
Bron ei anwylyd edrychai mor llon;?A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm,
Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron;?Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm,
A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron.
Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas,
Holwch briddellau maes Bosworth yn awr,?Yno coronwyd dymuniad y deyrnas,
Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr;?Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau
Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad,?Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau
Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad.
Esgynnwn i'n mynyddau,?A holwn hen garneddau?Sy'n cadw llwch ein tadau
Ar ol blinderus hynt;?Ateba'u llwch o'r beddau?Fod gwaed ar hyd eu llwybrau,?A myrdd o orthrymderau
Yn blino Cymru gynt.
Ond wedi i'r Tuduriaid?Gael dod yn benaduriaid,?Cyduna'r holl Brydeiniaid
I ufuddhau i'w pen;?Mae aeron per y blodau?Yn tyfu'n meusydd brwydrau,?A heddwch lond calonnau
Hen deulu'r Ynys Wen.
Ar orsedd bena'r ddaear,
Dan goron hardda'r byd,?Eistedda Buddug hawddgar
Dan wenau'r nef bob pryd;?Mae gwaed brenhinol Owain
Yn llifo trwy'r llaw sydd?Yn dal teyrnwialen Prydain
Uwchben miliynnau rhydd.
Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas
Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd,?Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas,
A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd;?Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd
O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,--?"Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd
I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng."
Na foed adseiniau'n cymoedd
Yn cael eu deffro mwy?I ateb swn rhyfeloedd
Ar hyd eu llethrau hwy;?Tywysog gwlad y bryniau
A ddalio tra bo byw,?Yn noddwr i rinweddau
Dan nodded llaw ei Dduw.
Y DDRAENEN WEN.
Eisteddais dan y ddraenen wen
Pan chwarddai bywyd Ebrill cu?Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,
A myrdd o friall o bob tu;?Eisteddai William gyda'i Wen,
Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,?Tra canai'r fwyalch uwch ein pen
Ei chalon yn ei chan i Dduw;?Rhoi William friall ar fy mron,
A modrwy aur yn llaw ei Wen;?Mi gofiaf byth yr adeg hon
Wrth eistedd dan y ddraenen wen.
IFAN FY NGHEFNDER.
Dyma godl yn dwbl odli;?'E wnes y prawf o ran spri.
Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
Ryw noson i hebrwng ei Fari;?A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed,
Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.
Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,--
"Pa bryd caf dy weled di eto?"?Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud,
Aeth awel o wynt gyda'i het o.
A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
I geisio, a ffaelu dal honno,?Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
Fod y ci wedi dianc a'i ffon o.
Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon,
Siaradai a Mari'n ddi-daro;?Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron,
Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o.
"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn,
"I chwilio am fodrwy'n ddioedi?"?Ac er mwyn rhoi sel ar ddywediad fel hyn,
Fe sangodd y brawd ar ei throed hi.
"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?"
A'i gruddiau ddechreusant a chochi;?Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn,
A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi.
Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd,
Ni ddarfu'r cusanu ei swyno;?Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a gwawd,
A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o.
Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn,
A dwedai fel dyn wedi monni,--?"Gwyn fyd na f'ai serch rhyw hogenod fel hyn
Yn cadw am byth o fy mron i."
Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dy,
Ac Ifan ar ganol breuddwydio;?Mae cariad yn meddu atyniad mor gry',
Ni synwn un blewyn na chwyd hi o.
YR HWN FU FARW AR Y PREN.
Yr Hwn fu farw ar y pren
Dros euog ddyn o'i ryfedd ras,?O! agor byrth y nefoedd wen
I'n dwyn uwchlaw gelynion cas.
Y diolch byth, y clod a'r mawl
Fo i'r anfeidrol Un yn Dri,?Gwna ni yn etifeddion gwawl
Y Ganan nefol gyda Thi.
[Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg]
CHWEDL Y TORRWR BEDDAU.
Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen,?A natur gan oerfel yn colli ei gwen,?Fe rewai'r dwfr fel gweren oer,?Tra prudd edrychai yr ieuanc loer
Cydrhwng
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.