Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 5

Mynyddog
ar ei phen,?A'r gan a gefais wedi mynd?A glynu i gyd mewn calon ffrynd.
WELWCH CHWI FI?
Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,?A chan arno hefyd cyn clywed f'un i;?Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,?Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust;?Os na fydd y gan o un diben i chwi,?Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.
A welwch, &c.
Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,?A balchder a hunan yn byw arno fo,?Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,?A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar;?Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri,?A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.
A welwch chwi V,?Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"
Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen?Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen,?A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,?A phluen ar hynny i fyny fel ffon;?Prin gwelir y top heb gael telescop cry',?Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"
A welwch chwi fi??Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"
"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr,?"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr;?Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs,?Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs?Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri,?Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?"
A welwch chwi V??Y galon yw cartref y "Welwch chwi V,"?Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V."
Awst 24, '72.
"WILLIAM."
" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave."
Ddoi di yn ol ataf, William, William,
Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti??Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon,
William, William,--anwyl i mi.
Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William,
Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti;?Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar,
William, William,--anwyl i mi.
Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,
Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry;?A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu?
William, William,--anwyl i mi.
Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,
Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di;?Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod,
William, William,--anwyl i mi.
Estyn dy law i mi, William, William,--
Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,?Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William;
William, William,--anwyl i mi.
[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant, Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg]
GEIRIAU LLANW.
Mae llawer o hen eiriau llanw
I'w cael ym mhob Llan a phob lle,?Yn debyg i bethma a hwnnw,
Fel tau ac fel tase, yn te,?Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,
Fel tase, yn te, meddai'r llall,?Yn ddigon a gwneud dyn i daeru
'Dyw hanner y byd ddim yn gall.
Fel tau, fel tase, yn te,?Ofnatsen gynddeirus, yn te,?Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma
Fel tase, fel tau, yn te.
Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd,
A llawer o siarad a stwr,?A phawb fel pe tae yn dywedyd
Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."?Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,?A'r enw roir yno ar feddwon
Yw "chwil ulw beipan" yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch tua Meirion a morol,
Cewch giasag i fynd ar ei thraws,?A ciariad, a ciarag, a cianol,
A ciamu, a ciamfa, a ciaws;?Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,
Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,?Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,
Yn te ydyw'r bethma yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,
'Run siwt mae hi obry yn awr,?Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
Yn dishgwl yn ffamws i lawr;?Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,
Yn whleia a'u giddil o hyd,?Wy'n sposo taw dyna y bachan
Sy'n cwnni yn awr yn y byd.
Fel tau, &c.
Chwef., '73.
GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI.
(EMYN).
Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
Ar liniau Mair mewn natur dyn,?Ac ar y groes cymerai'n gwawd
A'n beiau trymion arno'i hun;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,?Gwrando'n rasol ar ein cri.
Dros bechadur, rhedai'n lli
Waed a dwfr, o'i anwyl fron.?Dyma'r ffynnon! Boed i ni
Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,?Gwrando'n rasol ar ein cri.
Y MEDLEY CYMRAEG.
Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
Pan ganai yr adar yn felus a llon,?Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd,
A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,?'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu,
A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,?A gwelwn
Ferch Megan ei hun
Mor iached a'r rhosyn,?A'i llygaid yn dan o fywyd a serch;
'Roedd adar y llwyn?Yn tewi i wrando?Er clywed y gan a ganai fel
Hen ferch yn gwau ei hosan,
Ar hyd y nos,?A'i gweill bach glic glic yn clecian
Ar hyd y nos,?Canai'r gath ar ben y pentan,?Canai hithau ganig ddiddan,?Tra y canai'r gwynt tu allan
Ar hyd y nos;?Rhedai'i meddwl tra yn canu?At wroldeb yr hen Gymry
Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,?Gan wyr Harlech ruthrent allan?Nes adseiniai bryniau anian
Floedd y rhain i'r gad;?Benyr grogent ar hen greigiau,?A neuaddoedd y mynyddau?Ail ddywedent y bloeddiadau
Dros ein hanwyl wlad;?Rhuthrent tua'r dyffryn,?Gledd yng nghledd a'r gelyn,?Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
Ynghanol braw a dychryn,?Nes y
Gelyn giliai ar Nos
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.