chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai
llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf
goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid
arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod
anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am
fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr
ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y
Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant
ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a
ysgrifenais.
"RHYWUN."
Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son
gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.
Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni
wna ceryddon undyn
Beri im' beidio caru Rhywun.
Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.
Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael
gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.
Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr
yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.
Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am
fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd--Rhywun.
Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,--
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.
[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg]
MAES GARMON.
Rhagymadrodd.
Boed Hector flaenor a'i floedd,
Eirf Illium a'i rhyfeloedd,
Groeg
anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil,
wiwged was,
Win awen uwch AEneas;
Gwnaed eraill ganiad
eurwedd
Am arfau claer,--am rwyf cledd,
Byllt trwy dan gwyllt yn
gwau,
Mwg a niwl o'r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}
Gwarchau, a dagrau
digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, {45b}
Eiliant bleth, a molant
blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.
Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu
gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a
gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn
wyrth oedd,--ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.
Hwyrddydd ar y Mor.
Y dwthwn 'raeth cymdeithas
Gwyr Rhufain, o Frydain fras,
Ar
hwyrddydd o ryw harddaf,
Mwyna 'rioed yn min yr haf;
E giliai'r
haul, glauar hin,
Ag aur lliwiai'r Gorllewin;
Goreurai gyrrau oerion,
Ferwawg a del frig y donn;
Holl natur llawen ytoedd,
Ystwr, na
dwndwr, nid oedd;
Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg
Llorf dannau y
tonnau teg;
A'r tawel ddof awelon,
Awyr deg ar warr y donn;
Ton
ar don yn ymdaenu,
Holl anian mewn cyngan cu,
Gwawr oedd hyn,
a gyrr i ddod,
Ac armel o flaen gwermod;
Cwmwl dwl yn adeiliaw,
Oedd i'w weled fel lled llaw.
Tymhestl.
Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid
Gan gaddug dychrynllyd,--
Enynnai yr un ennyd,
Fel anferth
goelcerth i gyd.
Mor a thir a'u mawrwaith oedd,
Yn awr, fal mawr
ryfeloedd;
Mawr eigion yn ymrwygo,
Ar fol ei gryf wely gro;
Archai--gan guro'i erchwyn,
A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn;
Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i'r dydd, odreu'r donn;
Dodwodd y
cwmwl dudew
Ei genllysg i'r terfysg tew;
A'r gwyntoedd rwygent
entyrch,
Neifion deifl i'r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai'n ebrwydd dan wybren;
Ac o'r erchyll dywyll do
Tan a mellt
yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.
Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,--
Mor yn dygyfor, a'r gwynt
Wnai'r
hwyliau'n ddarnau'n ei ddig,
A'r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra'n gwelwi;
Anobaith do'i
wynebau,
Ac ofn dor y gwyllt-for gau,
Gwynnodd pob gwep gan
gynni,--
Llewygent,--crynent rhag cri
Gwylan ar ben'r hwylbren
rhydd,
"Ysturmant yr ystormydd!"
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dan, droai'n llyn dwr;
Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O!
A
chan elwch yn wylo.
Garmon a Bleiddan.
Yn mawr swn ymrysonau
'R tro, 'roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar
eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid:
Un Garmon, gelyn
gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau
gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,--
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,--
Traethaf a gofiaf o'r gan.
"Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti,
rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i
ni,
Uwch ei safn, achos ofni:
Y lli dwfr sy'n y llaw dau,--
Dy law,
'n Ion, a'n deil ninnau.
"Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,--
Gan
roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,--mae'n wir
diamau:
Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt,
Gelwi
gorwynt,--neu gloi ei gaerau.
"Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd
uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt
y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn
sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.
"Pa ragor in' for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i'th
gol o farwol fyd,
Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,--
Mae'n calon
yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri."
Pan ar ben gorffen y gan
Y terfynai twrf anian;
Clywai'r Un sy'n
cloriannu
Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du:
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a'r trochioni;
Mor
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.