a nen ymyrrai'n ol,
I ddistawrwydd
ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson a'r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,
I'r hwn a roes yr hinon;
Yna y
chwai dorrai dydd,--
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe'r llong, ar
ddiddan waneg,
I ben y daith--Albion deg.
Prydain yn 429.
Hil Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd
wnae Gymru'n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad
i'w goror,
Lanwai a cham, lan a chor:
Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio'u cred
Ar
glebr am "dreiglo abred";
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent,
lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei
lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae
Albion,--a'u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.
Taith y ddau.
Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy'r wlad, ar
waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.
Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau
gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a
gwin i'r llwythau gweinion.
Cynhadledd a'r Morganiaid.
Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent a gem;
A gem y ddau
ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau'r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent,
pregethent y gair,
Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,--
Taro'r annuw
trwy'r enaid:
Lle blin a hyll o'u blaen oedd,
Ail Eden o'u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu'r oedd
Heresiau mwya'r oesoedd;
Tost
iawn chwedl i genedl gam
Fu'r holiad yn Verulam:
Ugeiniau o'r
Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno'n blaid:
Llwyddai Ion y
dynion da,
Er c'wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau
gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai'r magwrydd,
Gwelen' deg
oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna'r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,--
A mynnent bwyo
'mennydd
Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu:
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,--
"Clywch! eon,
ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde' sy'n gweddu i saint;
I'n Duw y perthyn dial,--
I'r annuw ein Duw a dal;
Par ei farn am
bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,--
Drwy gur un--gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A'n harch gwir, i lenwi'r wlad
Yn farn am
gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I
droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua'u pabell;
Nef uchod
rhoed Naf i chwi,--
Mewn heddwch dychwelwch chwi."
Tra llefarodd, troell fawrwych
Anian droes yn iawn ei drych;
Y
dymer ydoedd dwymyn
Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn.
Gwelent ei
drwg--amlwg oedd,
A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd;
Ust! tawelynt
drwyddynt draw,
O dawelwch, doi wylaw.
'Nawr o'u dwrn yn ara'
deg
Parai gwir gwymp i'r garreg;
Trwst y main, a'r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai'r distawrwydd.
Yna'r gynulleidfa'n llon
Ddychwelent--(gwedd a chalon
Eto'n awr yn gytun oedd,)
Law yn
llaw, lonna lluoedd.
Cyrraedd Ystrad Alun.
Dau gennad gwyn! Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient a'u holl fwriad,
Dan Ior i oleuo'r wlad;
A'i dwyn hi dan
ordinhad
Da reol, o'i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg
Ystrad Alun;
Elai'r gwyr, gan eilio'r gan,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron, {53} uwch ei chaerydd,
A'i t'wysai, pan darfai dydd;
Y
lloer, a'i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le
fel hyn
Y faith yrfa i'w therfyn;
Nawdd Ior, ac arweinydd ddug
Y
rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug:
Lletyent mewn lle tawel,
Trigle
der a mangre mel;
Lle addas y lluyddwr
Rhufon, oedd yn union wr;
Un crefyddol, dduwiol ddawn,
Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;
Iachawdwr, a braich ydoedd,
Ac anadl ei genedl oedd;
I'w ardal deg,
ateg oedd,
Llywiawdwr ei llu ydoedd;
Dau noddwr duwinyddiaeth,
Arfolli, noddi a wnaeth;
Eu siarad, am rad yr oedd,
A mesurau'r
amseroedd;
Gwael greifion y goelgrefydd,
Rhannau a ffurf yr iawn
ffydd;
A bro a'i hedd i barhau,
Uwch annedwydd och'neidiau;
Y
duwiol hyfrydol fron
Ddiddenid a'u 'mddiddanion;
Rhufon er
hynny'n rhyfedd,
Oedd o ddirgel isel wedd;
Son am loes sy'n aml
isod,
A chael rhan uwchlaw y rhod,
Wnae'i fron der, yn nyfnder
nod,
Chwyddo o ebwch ddiwybod;
Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,
A ddeifiodd rhyw ddu ofid;
A dygai'r llef y deigr llaith
I'r golwg,
'nawr ac eilwaith.
'Roedd gwaelod y trallod trwch
I wyr Gallia'n
ddirgelwch;
Hwy sylwent mai isel-wan
A dwl, oedd ei briod lan;
Beth fu'r anferth ryferthwy
Ni wyddent--ni holent hwy.
Yna, a'u bron heb un braw,
Hwy wahanent i hunaw;
Pwys y daith,
mor faith a fu,
A'i gwasgodd hwynt i gysgu:
Edyn Ion, rhag troion
trwch,
A'u mantellynt, mewn t'wllwch.
Yn bur a gwyneb araul,
Cwnnu yr oedd cyn yr haul
Y ddau deg,
ddifreg o fryd,
A Rhufon hawddgar hefyd;
Rhodient i wrando'r
hedydd
Gydag awel dawel dydd,
Hyd ddeiliog lennydd Alun,
I
weld urddas glas y glyn;
Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth
Yn dilyn
hyd y dalaeth;
Y gro man ac rhai meini,
Yn hual ei hoewal hi.
Agorir dorau goror y dwyrain,
Yna Aurora sydd yn arwyrain;
Nifwl
ni 'merys o flaen ei mirain
Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg
buain,
Ewybr o gylch y wybr gain--teifl gwrel,
A lliwia argel a'i
mantell eurgain.
Yna deffrodd awelon y dyffryn,
Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun;
Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,
Bu i Argoed hirell, a brigau
terwyn,
D'ai lliw y rhod oll ar hyn--fel porffor,
A goror Maelor fel
gwawr aur melyn.
Ar ei hadain, y seingar ehedydd
Fwria'i cherddi i gyfarch y
wawr-ddydd;
Deffroai gantorion llon
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.