Gwaith Alun | Page 6

Alun
fo
I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo:
Na lanwed
yn oleuni,
Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli';
Ond isel, isel eisoes

Drwy gred ymgrymed i'r Groes.
A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen ymylau,
A
gaent ffyniant gynt a hoff enwau,
O'u iawn barodrwydd, yn eu

brwydrau,
Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid,
Weis Soldaniaid,
isel eu doniau."
[Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen
ymylau.": alun33.jpg]
Fal hyn o bob dyffryn deg,
Ac ynys a gylch gwaneg;
O'r tyrau
muriau mawrion,
Mannau dysg a min y donn,--
Y glau Awen a
glywodd
Y llais, a'r adlais a rodd
Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd

Ei golau ddawn ac ail ddydd.
Ar ystlysau ei mynyddau,
A'i ffynhonnau hoff yn unawl,
Gwelwyd
chwithau, a'ch telynau,
Hen dduwiesau hoen ddewisawl;
Yn galw
o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad,
Ac iawn fwriad, a gwe
anfarwawl.
Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,
Cysgodolion y diwydion
dadau,
Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,
Gwyr fu o ddinam
ragoraf ddoniau,
A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant
A iawn
gynhyrfant hwy i gain arfau.
Mae Pindar, oedd gar gorwyllt,
A dawn ei gan o dan gwyllt;

Tyrtaeus yn troi tuedd,
I roi clod i wyr y cledd:
"O! (meddant,) p'le
mwy addien,
Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen?
Ein gwlad fwyn,
o glod a fu,
Unwaith, yn mawr dywynnu,
Eto'i gyd ytyw a'i gwedd,

A'i rhannau yn llawn rhinwedd:
Ym mro bon y mae hir haf,
Ber
awel a byrr aeaf.
Yr haul y sy'n rheoli,
Heb roi haint, ar ei bro hi;

Mae nos, yn ei mynwesydd,
Megis chwaer ddisglaer i ddydd;
Aml
y lle, ym mol ei llawr,
A mannau'r harddaf mynawr;
Hemaetus
felus y fydd,
A diliau mel ei dolydd;
A'i ffrwythydd gwinwydd, fal
gynt,
Di-odid mai da ydynt.
Holl natur bur heb wyro,
Sy'r un
fraint i'r seirian fro,
A phan oedd, yn hoff ei nerth,
Briod-fan pob
dawn brydferth.
"Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion,
Sef celfyddydau a doniau

dynion:
Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,
A gair odiaethawl i'w
gorau doethion,
A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd,
Ynt,
(ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."
Wrth eu haraith, effaith ddig,
Dawn y wlad, yn weledig,
Fal yspryd
tanllyd o'u tu,
A wnae'n anadl enynnu,--
Gan ddangos, yn achos Ner,

A'i fendith, a'i gyfiawnder,
Y mawr fri o dorri'r did,
I ymroddi
am Ryddid.
Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,
Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i
dalaeth,
A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,
Draw a hwylient i Droia
ehelaeth,
Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen
Golled o Helen,
gai hyll hudoliaeth?
Hen anghrist, un athrist oedd,
O'r tu arall i'r tiroedd,
A
gododd,--gwaethodd drwy'r gad,
Ar filoedd i'w rhyfeliad:
Un oedd
o'r rhai aneddant
Uffern boeth yn ei ffwrn bant,--
Hoffai lid a gofid
gau,
A'i llwydd ydoedd lladdiadau;
Seirph tanllyd, gwaedlyd eu
gwedd,
Gwenwynig, (gwae anhunedd)
Ei gwallt oedd,--a gwyllt
eiddig,
Rhag hedd oedd dannedd ei dig;
Ei llygaid yn danbaid des

Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;
A'u sylwedd, o'r iseloedd,
A'u
mawr lid, tra marwawl oedd.
O! pa ryfel, a'i uchel ochain,
Dial a'i ofid, a dolefain,
O'i chodiad
irad yn y Dwyrain,
'Fu'r un baich i fawrion a bychain;
Baban a mam (un ddamwain) lle
cafodd,
Dieneidiodd o dan ei hadain.
Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad,
Yn 'diwedd, roi wrandawiad
I'w
blant,--pan godent eu bloedd,
Dan ofid hyd y nefoedd:
O Scio wylo,
alaeth,
I'w glustiau'n ddiau a ddaeth;
A rhoes, Ior y Groes, ar gri,

Dyst eirian o'i dosturi;
D'ai'n gymorth, da borth di-baid,
Nes i ryw'r
Nazareaid,
Rai marwawl, er eu muriau,
Ac erfyn eu gelyn gau.

Angylion, genadon gwynion gannoedd,
Gyrrai i'w llywiaw, y gorau
lluoedd,
Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd
I'r ddi-ofn
daran, hwyl ar ddyfnderoedd,
Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan
welent,
Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.
Yn awr (a Duw'n ei wiriaw)
Golygwn ddwthwn a ddaw,--
Pan
deflir, lluchir i'r llawr
Ddu arfawg anghrist ddirfawr;
A phan gair,
yn hoff ei gwedd,
Gaer enwawg i'r gwirionedd:
Drwy reol
gwydrau'r awen,
Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;--
Llwydd
oesoedd lluoedd Iesu,
Pan gant y feddiant a fu
O ddiwall wlad
addewid,
Heb gaethder, llymder, na llid.
Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd
Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;

Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,
A Gorllewin ei gorau lluoedd;
Un
fwriad a niferoedd--y fawr-blaid
O Groesadiaid, ac eres ydoedd.
Bydd ar dyrau Salem furiau,
Y banerau yn ben arwydd,
I'r
tylwythau, ar eu teithiau
I le'u tadau, olud dedwydd;
Ar Fosciaid y
blaid heb lwydd,--dyrchefir
Ac eres welir y Groes hylwydd.
A thi, Roeg, a'th ddaear wych,
A'th awyr brydferth hoew-wych,
A
welir eto eilwaith,
Fal gynt, er rhyfelawg waith,
Yn llwyddo'n
fronlle addysg,
A lle llawn pob dawn a dysg;
Byddi, heb nam, yn
fam faeth
I rinwedd--i wroniaeth--
I ddidwyll gelfyddydau,
Pob
llwydd, a wna pawb wellhau;
I bob mad gariad gwladawl,
A fu gynt
dy fwya' gwawl.
Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,
Dy awen, llwynydd, dy winllanau,

Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,

Lleoedd doethion ddynion o
ddoniau;
Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd,
A fydd ddedwydd
o gelfyddydau.
Darlunir hyd ar lenni,
A mynnir, gwn, o'th meini
Gelfyddyd byd
heb oedi;
Y dynion a adweini,
Yn rhediad eu mawrhydi,
Yn

eil-oes, gwnn, a weli;
Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,
Fodd uniawn,
a feddieni.
Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto
Iti a chalondid:
Yn y byd hwn, na boed tid
Dan nefoedd yn dynn
ofid.
Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth
Ddi-ledryw gwlad Alffred,
A'i moliant i ymweled
A thir y Gryw, a
thrwy Gred.
Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,
Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl
Gair yr
Iesu, gwir rasawl.
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 26
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.