Gwaith Alun | Page 4

Alun
wnaf, nes delo'n wr,
Drethi eich
llywodraethwr;
Bellach, y bydd sarllach Sais,
Mawr ddilwrf Gymry
ddeliais."
Gwelwent, a safent yn syn,
Ymhleth ddiachreth ddychryn;
A phob
boch oedd yn brochi,--
Tro'i brad aml lygad i li.
Araeth Madog.
Ebai Madog, enwog wr,--
"Ha! rymusaf ormeswr!
Tybiais falch
wawrwalch lle'r el,
Wir awch, yn wr rhy uchel,
I lochi brad dan lech
bron,
A challawr i ddichellion:
Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth,

Bro dirion, a bradwriaeth;
Ni phryni serch prid, didwyll,
Ac odiaeth
hon, gyda thwyll:
Os gall dy frad ddwyn gwlad glau
I gur a chwerw
garcharau,--
Nis gall dy ewin-gall wau
Rhwym a ddalio'r meddyliau:

A oedd cochi perthi'n pau,
A llawruddio'n holl raddau,--
Ein
llyfrau, a'n gotau gwaith,--
A'n haneddau ni'n oddaith,
Y teryll

aer,--torri llw,
A'r brad ger Aberedw,--
Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,
I ddangaws, i araws i oes
wyrion,
Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion
Mai marwor meryw
yw ystryw estron?
Ond am y wlad, deg-wlad hon,--gwybydd di,

Rhaid iti ei cholli, er dichellion.
"Os yw breg gwgus, a braw,
Fal wedi dal ein dwylaw,
Daw ail
gynnwrf, dilwrf da,
I drigolion dewr Gwalia;
Codwn, arfogwn
fagad,
O wrol wych wyr y wlad;
Mewn bar y bonllefa'r llu

'Camrwysg ni oddef Cymru,--
Rhi o'n huchel wehelyth,
Cymro
boed i'r Cymry byth!'
Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin
Iau ar warr
un o'r werin!
Daw'r telynau, mwythau myg,
Ddewr eu hwyl, oddiar
helyg;
Rhed awen, er id wahardd,
Cerdd rhyfedd rhwng bysedd
bardd;
Gwnant glymau a rhwymau rhom,
Enynnant y tan ynnom;

Dibrin pawb oll dadebrant,--
Heb ochel, i ryfel 'r ant;
A'n mynwes
yn lloches llid,
Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!'
"Ag arfau ni wna'n gorfod
Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod;
Cariwn
mewn cof trwy'r cweryl,
Y'mhob bwlch, am Thermopyl;
Gwnawn
weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon;
Yn benaf
llefwn beunydd,--
'Marw neu roi Cymru'n rhydd?'
"Os colli'n gwlad, anfad wyd,
O'r diwedd dan ruddfan raid,--
Yn lle
trefn, cei pob lle troed,
Wedi ei gochi a'n gwaed;
Trenga'n meibion
dewrion dig,
A llawryf am y llurig.
"Yn enw Crist eneiniog--ymroddaf
Am ryddid ardderchog;
A'r un Crist fu ar bren crog,

Ni ymedy a
Madog."
E daw ar hyn,--d'ai ar ol
Ryw ddistawrwydd ystyriol.
Ac Iorwerth,
ar y geiriau,
Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;
Malais y Sais, echrys
wg,
A welid yn ei olwg.

Tyb Euraid Ap Ifor.
O ryw fuddiol arfeddyd,--rhoi'n rhagor
Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,--
"Hyf agwrdd bendefigion,
Rhy brysur yw'r antur hon;
Ar furiau tref,
ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?
Mae llid yn fy mron hynaws,

At Saeson, a'u troion traws;
Ond serch, a glywserch i'm gwlad,

O'm calon a rwyddlon red;
Na ato fyth, etwa fod
Neint hon yn
gochion i gyd,--
Arafwn,--o'r tro rhyfedd
Hwyrach cawn, y
mwynhawn, hedd;
E ddaw ergyd ddiwyrgam,
Lawn cur, i ddial ein
cam;
Ac hefyd dylid cofio,--
Er prudded, trymed y tro,--
Er
angeu'r gair fu rhyngom,
'R amodau, rhwymau fu rho'm:
Pan roddo
Gymro y gair,
Hwnnw erys yn wir-air;
Ei air fydd, beunydd heb
ball,
Yn wir, fel llw un arall:
Ein hynys hon i estron aeth,
A
chyfan o'n gwiw uchafiaeth;
Ond ni throes awch loes, na chledd,

Erioed mo ein hanrhydedd;
A'n hurddas a wnawn arddel,
Y dydd
hwn, a doed a ddel:
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,
Ar Dduw a'i wir
addewid.
Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd, o'r hadledd hwn;

Heddyw, oedwn ddywedyd
Ein barn, yn gadarn i gyd;
Profwn beth
dd'wed ein prif-fardd,--
Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;--
Pa
lwyddiant, yn nhyb Bleddyn,
A ddigwydd o herwydd hyn?"
Amneidient mewn munudyn
Ar yr ethol ddoniol ddyn,--
Yna, a
phwys ar ben ei ffon,
Y gwelid y gwr gwiwlon:
Ei farf fel glan arian oedd,--mewn urddas,

Cyrhaeddai hon wasg ei
wyrddion wisgoedd;
Yn null beirdd, enillai barch,--ar bob peth
E
ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.
Proffwydoliaeth Bleddyn.
D'wedai, agorai'r gwir-air,--
"Clyw frenin gerwin, y gair!
'R hyn
ddaw, trwy fy llaw i'r llys,
Duw y dynged a'i dengys;
Am ennyn aer
mwy na neb,
Troi a chynnal trychineb,
Gwneyd ochain yn seilfain

sedd,--
Rhoi dy wersyll ar d'orsedd!
Am ddifrodi, llosgi, lladd,

Brad amlwg, a brwd ymladd;
A rhoi bro, mewn taro tynn,
I wylo
am Lywelyn:--
(Iachawdwr a braich ydoedd,
Ac anadl ein cenedl
oedd;)
Fel y rhoist gur, mesur maith,
Y telir i ti eilwaith.
O!
trochaist lawryf mewn trwch-waed,
Dy arlwy wrth Gonwy oedd
gwaed.
Hwn geraist yn lle gwirawd,--
Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi
cnawd.
Y mae maith och mam a thad,
Gwaedd a chur gweddw a chariad,--

A main lle mae ymenydd
Llawer dewr, a gollai'r dydd,--
Temlau, ac
aneddau'n wag,
Yn rhoi manwl air mynag,--
I un gwrdd ddwyn
gwan yn gaeth,--
Iddo gael buddugoliaeth:
Ond llion mawrion am
hyn
O ddialedd a ddilyn.
"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd,
Dy waed oera ar dywod y
Werydd;
Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,
Hon a'th
boena--gyrr ddrain i'th obenydd;
Caiff Brython gwirion dan
gerydd--fyw'n llon,
Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd.
"A gwaeth nac oll a wnaethost,
Mewn du far mynni dy fost,--

Gwenaist pan gwelaist galon
Wiw a phur ar waew-ffon!
Ti ddigred,
ni roist ddeigryn
Yn y lle yr wylwyd llyn!
Llanwaist gron goron a
gwaed,
Ac arall yf y gorwaed!
Clyw'n swn!--mwd Bercley'n seinio,
{26}
Dychryn i'w ganlyn ac O!
Marwol loesion bron Brenin,
Tan
grafangau bleiddiau blin.
Hyfryd dduwiesau Hafren,
Pan glywant a
wisgant wen.
Daw blwyddau llid a bloeddiad,

Du hin, ar warthaf dy had!
Clyw!
ddolefau, briwiau bron,
O'r Twr Gwyn {27} mae'r taer gwynion;

Dy hilion, mewn du alaeth,
O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!
A
mynych gwna cromeni
Y Twr cras watwor eu cri:
Ni adewir o'r
diwedd
Wr o dy sil ar dy sedd.
"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 26
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.