Gwaith Alun | Page 3

Alun
y creigiau hyll.
"Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo'n well?
Rhyw
ddu fesur ddyfeisiaf,--
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa
ddyfais ddifeth
Gaiff y budd,--ac a pha beth?
"'Nawr cefais a wna r cyfan,--
Mae'r meddwl diddwl ar dan;
Fy
nghalon drwy 'nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru
uchel elwch,
I blygu, a llyfu'r llwch:--
I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn

Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"
A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,--
"Fy
ngwas, nac aros, dos di,
A rhed," eb ei Fawrhydi,--
"Galw ar fyrr fy
Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A
Warren, un diwyro."
Deuent, ymostyngent hwy
I'w trethawr, at y trothwy:
O flaen
gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy'n awr,--
"Cyfeillion bron eich Brenin,
A'i ategau'r blwyddau blin,--
Galwyd
chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu
hagweddau,
Fod llu holl Gymru'n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,

I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr;
Ni wna gair teg na garw,--
Gwen,
na bar,--llachar, na llw,
Ennill eu serch i'm perchi,
Na'u clod i'm
hawdurdod i:

Ni fynnant Bor, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;

Ganedig bendefig da,
O'u lluoedd hwy a'u llywia:--
Ond cefais,
dyfeisiais fodd,
O dan drais, i'w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant
roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair a gair
gaf,--
Gair Gwalia gywir goeliaf:--
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon

Er lliaws, dorri llwon:
Elinor, lawen araf,
Mewn amhorth yn
gymorth gaf;
Mererid i'm Mreyron
I'w cais pur trwy'r antur hon."

Traethai'r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A'r Cyngor
wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A'i ddihafal rialyd,

Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.
Yna'r arglwyddi unol
A gilient, nesent yn ol,
Gan grymu pen i'w
Brenin,
Laig ei glod, a phlygu glin.
Ufudd-dod y Frenhines.
E geisiai frys negesydd
Yn barod, cyn darfod dydd,--
A gyrrai, ar
farch gorwych,
I'r brif-ddinas y gwas gwych,
A gofynaig i'w Fanon,

A gair teg am gariad hon:
Y lonwech bur Elinawr
Serchog, oedd
yn feichiog fawr;
Gofynnai a hwyliai hon,
Gryn yrfa, i Gaernarfon,

Ar fyrder, fod mater mawr
I'w ddisgwyl y dydd esgawr.
O fodd ufuddhaodd hon,
Iach enaid, heb achwynion;
Dechreuai'r
faith daith, 'run dydd,
Mewn awch, a hi'n min echwydd;
Gwawl
lloer, mewn duoer dywydd,
A'i t'wysai pan darfai dydd;
Oer y cai
lawer cawod,
Cenllysg yn gymysg ag od;
Anturiai, rhodiai er hyn,

Trwy Gwalia, tir y gelyn;
Er ymgasgl bar o'i hamgylch,
A'i chell
yn fflamiau o'i chylch,--
Ni wnai hon ddigalonni,
Mor der oedd ei
hyder hi;
(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad
Tra glew, er dinistrio
gwlad:)--
Daeth, wrth deithio o fro i fryn,
Y faith yrfa i'w therfyn.
A'r deyrnes gynnes, heb gel
Yn ddiegwan ddiogel;
Rhoes Iorwerth
eres warant,--
Ae rhingyll i gestyll, gant,
Am alw cydymweliad

Brenin ac arglwyddi'n gwlad:

Rhuddlan oedd y fan i fod
Hygof
erfai gyfarfod;
I dorri rhwystrau dyrys
Y gelwid, llunid y llys:--

D'ai'r eurfig bendefigion
O amryw le 'Nghymru lon;
Yno y daeth yn
y dydd,
Gwalia o gwrr bwygilydd.
Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i'r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai
a dwys galon,--
Heb gau ei amrantau 'mron,
I'w fanon wirion, arab,

Ar awr ferth, esgor ar fab.

Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er
yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych
aeron--
Y dawnsiau a'r llefau llon:
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle
berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth
mewn cyrch dan dyrch y donn,--
Y glewion, enwogion wyr

Laddwyd, a'r prif luyddwyr:
Rhodient pan godai'r hedydd
Fel hyn,
hyd i derfyn dydd;
A'u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni
ddwedent ddim:
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth
ofn brad,--
Swn, fal rhwng sisial a son,
"Llawrudd a chyllill hirion;"

'Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia'n ddirgelwch.
Geni Tywysog.
Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O
Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,--
Yna ei holl anian oedd yn llonni

Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.
Ac yna a'i udganwr
A'i gorn teg i gern y twr:
Galwyd arglwyddi
Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.
Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai
iddynt eiste
Bob yn lwyth--bawb yn ei le:
Deuai'r Ynad dirinwedd,

Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,

Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y
dechreuai draith.
"Fy neges, brif enwogion,
A glywiau teg y wlad hon,--
Nid ydyw i
wneyd adwyth,
Dwyn loesion llymion yn llwyth,--

I fygwth clwyf a
gwaith cledd,
Nac i lunio celanedd;
Ond o fwriad adferu
Eich
hyfawl barch fel y bu;
Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw
sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith,
wnaf er ei mwyn;
Un na's trina es'roniaith,
Na swn gwag Seisonig
iaith;
Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na'i falais, ni fedd;

Addefir ef yn ddifai,--
Ni wyr un fod arno fai:
Yn fwynaidd

gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

Cydunent, atebent hwy,--
"Ymweledydd mawladwy,
I'n cenedl
rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,--nis
cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,

A gwae ei phobl, blyga'i phen:
Llin ein llon D'wysogion sydd
'Leni
mewn daear lonydd:
Rho di'r llyw cadarn arnom
A dedwydd
beunydd y b'om:--
Enwa 'nawr, er union waith,
Y gwr del wisga'r
dalaith,
'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr
rhyngom:
Ie, tyngwn, at angau,
Yn bur i hwn gwnawn barhau."
Fulion! ni wyddent falais,
Dichellion, na swynion Sais.
Dwedai'r blin Frenin ar frys--
"Felly ces fy ewyllys,
Doe y daeth,
megis saeth, son
Yn erfai o Gaernarfon,
Fod mab rydd wynfyd i mi,

Nawdd anwyl, newydd eni;
A hwn fydd eich llywydd llon,
A'ch
T'wysog enwog union:
Dal a
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 26
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.