Cerddir Mynydd Du | Page 8

Not Available
hynt--
Pa'm na bae'r
oes nawr fel yn yr hen oesau gynt?

G. AP LLEISION.
[Illustration: PENPARC.]
[Illustration: LLOCIO'R DEFAID.]
Ffynon y Brandi.
Ar ochr bryn yn Llywel lon
Mae'r ffynon loyw, lonydd,
A'i
dyfroedd pur r'ont flas a blys
I hwylus wyr y mynydd;
O'r graig fe
dardd ei phurol win,
Ar fin y ffordd mor handi,
Ni pherchir ffynon
yn y plwy'
Yn fwy na Ffynon Brandi.
Er gwres yr haul a phoethder ha',
O! fel yr ia mae'r ffynon,
A
pherlau grisial ar ei grudd
O ddydd i ddydd yn gyson;
Fe fethodd
haul, a methu wna,
Fe ddigia wrth ei hoerni,
A gwel'd ei llun mewn
dwfr oer
Wna'r lloer wrth Ffynon Brandi.
Yn nhymor haf canolddydd poeth,
Bu'n foeth i lawer crwydryn,
A
llawer _gipsy_ ar ei chlun
A wlychodd fin ei phlentyn;
Bugeiliaid
ac ymdeithwyr sy',
A gweithwyr hy' Rhys Dafis,
Yn mon y mawn
a'u bara chaws,
Yn lapio naws ei gwefus.
Tafarndy yw o oes i oes,
Heb feddwdod, _noise_, na _nonsense_,

Nis gall cyfreithiau Prydain Fawr
Fyth dori lawr y _licence_;
Y
graig yw _counter_ cryf y _bar_,
Ac ar ei gwar mae'r ffynon,
A
Duw sy'n tynu o'r _machine_
Y gwin i'r daearolion.
Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,
A brith-goch ych Glasfynydd,
Y
pony wyllt, a'r lodes lân,
A defaid mân y mynydd,
A phlant
boch-cochion, heblaw Toss,
A Rover, Moss, a Handi,
Pob un yn
dyfod yn ei dro
I dapo'r faril frandi.
Pe bae masnachwyr Llundain fawr
Yn dyfod lawr i Gymru,
Ac i
dafarndy'r Trianglas

I brofi blas y brandi,
Caent ruddiau fel y

damasc coch,
Ac fel y gloch, fonwesau,
Ac iechyd hir i fagu mêr,

A chryfder yn ei lwynau.
Do, lawer gwaith am amser hir,
Pan yn rheoli'r heolydd,
Mi
ddrachtiais inau wrth y _bar_,
Yn unig ar y mynydd;
Ar ol manylu
ar ei min,
A sugno gwin o'i gwefus,
Ces fara brith a chlwt o gaws,

Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.
Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,
Er cyfnod creadigaeth,
A Duw ei
Hun fu'n tapo'r graig
Yn ddirgel mewn rhagluniaeth;
Eistedda
dirwest ar ei sedd
Yn lân ei gwedd i'n lloni,
Diolchwn Dduw tra
fyddwn byw
Am Ffynon wiw y Brandi.
RHYS DAVIES (_Llew Llywel_).
Dafydd y Neuadd Las.
Mac genyf dyddyn bychan
Ar fron y Mynydd Du,
Bu'n gysgod i'm
yn faban,
I'm tad, a thaid nhadcu.
Mi gerddais pan yn blentyn
Hyd lethrau'r mynydd mawr;
A sengais
"droed yr ebol"
Yn llaith gan wlith y wawr.
Ar ben y Lorfa dawel
Chwareuwn gyda'r wyn;
A miwsig nant y
mynydd
Yn llifo dros y llwyn.
Do, treuliais lawer orig
Ar lan yr afon iach;
A gwynfyd i fy nghalon

Oedd dal y brithyll bach.
Bum yno wedi hyny
Yn cael fy nal fy hun,
Ond er i'm gael fy nala,

Mi ddeliais inau un.
Ar ben y Lorfa dawel
Aeth Gwen a'm calon oll;
A gwelodd yr hen
fynydd
Ddwy galon fach ar goll.
Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,
Ac hyd y dyffryn bras,
Bu'r ddwy yn

crwydro llawer
Cyn dod i'r Neuadd Las.
Aeth haner canrif heibio
Er daeth y rhain ynghyd,
Ond ieuanc yn y
galon
Yw'r cariad cynta'i gyd.
Wrth ganu'r hen alawon
Ganasom gyda blas;
Un rhamant ydyw
bywyd
Ar aelwyd Neuadd Las.
_Cefnymeusydd, Abercraf._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
Cyw.
Ar ochr y Cribarth
Dwy afon fach sy'
Yn tarddu yn gyson
O fron
Mynydd Du;
Cydredeg a dawnsio
Drwy'r ddôl mae y pâr,
A
rhywun a'u henwodd
Yn geiliog a giar.
A chanu wna'r ceiliog
Yn llon yn y fro,
A'r iar sydd yn gregan
O
hyd ar ei gro;
Chwareuant alawon
I'w gilydd heb ball,
A chanu a
nesu
Mae'r naill at y llall.
'Nol caru a chanu
Drwy'r fawnen a'r pant,
Yn nghwlwm tangnefedd

Ymuna'r ddwy nant;
A ffrwyth y briodas
Yw'r afon fach, fyw,

Sy'n rhedeg i'r Giedd,
A'i henw yw--Cyw.
Llyn y Fan.
Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,
Af yn llawen tua'r llyn,
Lle mae
ysbryd hen draddodiad
Byth yn aros yn ei wyn:
Crwydraf wrth y
dyfroedd grisial,
Yno i wrando ar y gwynt
Sydd yn cwyno yn
hiraethus
Ar ol rhamant dyddiau gynt.
Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes?
Pwy all ddweyd yr helynt fu
Ar y
noson loergan gyntaf
Pan ddaeth ser i'r Mynydd Du
Pwy all ddenu'r
graig i siarad

Am ei phrofiad, fore gwyn,
Pan y gwelodd hithau

gyntaf
Arall graig yn nwr y llyn?
Ai rhyw afon fechan, unig,
Grwydrodd yma'n llesg a gwan,
Wedi
colli'r ffordd i huno
Yn nhangnefedd craig y Fan?
Careg fechan yn
y fynwent
Dd'wed am arall grwydryn cu,
Wedi colli'r llwybrau unig,

Hunodd ar y Mynydd Du.
Cân medelwyr ar y meusydd,
Gyda thoriad borau gwyn,
Ond mae'r
gân o hyd yn marw
Wrth neshau i lan y llyn;
Unig, unig yw ei
hanes,
Yma mae yn hedd i gyd,
Huna'n dawel yn y cysgod,
Wedi
digio wrth y byd.
A fu adar y dryglinoedd
Yma'n hedfan ar eu hynt?
A fu'r dôn erioed
yn gwynu
O dan fflangell lem y gwynt?
A fu udgorn hen y
dymhestl
Yn adseinio ar ei lan?
Wyr ystormydd a chorwyntoedd

Am y ffordd i Lyn y Fan?
Nid oes yma swyn y lili,
Yma nid oes rhosyn gwiw,
Ond daw serch
yn dirf ac iraidd,
Lle mae'r blodau'n methu byw;
Heb un llwybr ar y
moelydd
I'w gyfeirio tua'r lan,
I'r unigedd a'r distawrwydd
Fe
ddaeth serch i Lyn y Fan.
Gyda'i braidd mae'r bugail unig
Wrth y llyn yn rhodio'n rhydd,
Ond
paham y ceidw'r defaid
Wrth y llyn ar hyd y dydd?
Nid yw'n
clywed bref ddolefus
Dafad glwyfus ar y lan:
A fu bugail mor
esgeulus
A Rhiwallon Llyn y Fan?
Wrth y Llyn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.