Cerddir Mynydd Du | Page 9

Not Available
gorwedda'r defaid,
Yno y breuddwydiant hwy:
Ond ni
wyddant fod y bugail
Yn breuddwydio llawer mwy;
Beth yw'r
pryder sy'n ei wyneb?

Fentrodd oen i'r dyfroedd glân?
Neu, a
gollwyd un o'r defaid?
Pam mae'r bugail heb un gân?
'Does ond un all roi esboniad
Ar yr holl bryderon hyn:
Nis gall

bugail fod yn llawen
Gyda'i galon yn y llyn:
Gwelodd yno feinir
geinwen
Yn y dyfroedd teg, di-stwr,
Ac mae yntau fyth er hyny

Fwy na'i haner yn y dwr.
Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,
Cadd ei galon eto'n ol:
Gwelwyd
dau yn rhodio'n llawen
Un boreuddydd dros y ddol;
Ond fe
wawriodd boreu arall
Ar Rhiwallon wedi hyn,
Pan y gwelwyd
gwraig y bugail
Eto'n ol yn nwr y llyn.
Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,
Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,

Pan fu serch yn crynu'n ofnus
Wrth y dyfroedd gloewion hyn;

Nid oes heddyw un Rhiwallon
Yn bugeilio ar y lan,
Ond mae
ysbryd hen draddodiad
Eto'n fyw wrth Lyn y Fan.
_Abercraf._
Parch. R. BEYNON, B.A.
Ar y Banau.
Clychau'r wawr sy'n canu
Ar y Mynydd Du,
Cilia ser o'r llynoedd,
Loewon lu.
Fly yn mhyrth y bore
Clywaf hedydd bach,
Yn dihuno asbri'r
Awel iach.
Fel cawodydd arian
Ei felodi dyn,
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
Ffrydlif o hyawdledd
Yn y cwmwl gwyn;
Pe bai neb yn gwrando,
Canu fyn.
O! na bawn i'n hedydd,
Fyth yn llon fy llef,
Allwn ar adenydd

Hollti'r nef.
Blodau'r Grug sy'n gwrido
Yn eu cartre' cun,
Am fod cusan huan
Ar eu min.
Bu y nos yn wylo
Am fod tlysni nghudd,
Trodd y dagrau'n berlau
Ar eu grudd.
O! na bawn i'n flod'yn
Ar y mynydd pell,
Dal i berarogli,
Er yn mhell.
[Illustration: MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN
FAWR]
[Illustration: LLYN-Y-FAN.]
Teimlaf ar y mynydd
Swyn yr amser gynt;
Clywaf Fabinogi
Yn y gwynt.
Clywaf rhwng y creigydd
Ymchwydd tonnau'r aig;
Gwelaf eu
hysgrifen
Ar y graig.
Gwelaf graith y dymhestl
Ar y bryniau erch,
Clywaf hefyd furmur
Suon serch.
Gwelaf las y wybren,
Cofiaf lygad Gwen,
Syrthiaf i'w chyfrinedd
Dros ym mhen.
Gwen yn awr yw byrdwn
Cân yr hedydd myg;
Er ei mwyn y
gwrida

Blodau'r Grug.
Sonia'r neint am dani
Rhwng y grug a'r brwyn;
Llwythog yw yr
awel
Gan ei swyn.
Dilyn ei huloliaeth
Ar y bannau hyn
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
_Ystradgynlais._
W. R. WILLIAMS.
Breuddwyd Adgof.
Rhyw noson yn fy mreuddwyd,
Yn esmwyth es am dro
Yn ol i
gwmwd tawel
Fy ngenedigol fro,
A gwelwn Bontygiedd,
Heb
fwthyn Pegi gynt,
A rhoes ochenaid hiraeth
Wrth basio yn y gwynt.
Es heibio'n brudd fy nghalon
I Blasycoed ar daith,
Ond Siams ni
chefais yno,
Na'r dall basgedwr chwaith;
Gwag imi yr aneddau,

Heb un o'r cwmni llon,
A throais tua'r afon
I holi helynt hon.
Bu amser arni hithau
Yn amlwg wrth ei waith,
A gwelwn ol
llifogydd
Ar hyd ei gwely llaith;
'Roedd hen athrofa nofio

Fydenwog Llyn y Sgwd,
Yn awr yn ynys goedig
Yn nghanol y
ddwy ffrwd.
Es eto i Gae Ffynon,
Yr Arch, fu'n net ddigêl,
Lle'r aem i chwareu
_rounders_
Yn ddedwydd gyda'r bel;
Ond, Ah! cauedig ydoedd,

Ac nid oedd cyfoed cu
Yn aros gyda'i "fando"
I son am bethau fu.
Mi deithiais eto i fyny
At efail y gof bach,
Lle buom lawer
canwaith
Yn ymddigrifo'n iach;
Ond carnedd oedd yr efail
A'i

bentan erbyn hyn,
A'r hen of bach duwiolaf
A aeth yn gerub gwyn.
Fe welais Craig-y-defaid,
'Roedd hon yr un o hyd,
Heb gyfnewidiad
arni,
Er holl dreigliadau byd;
Y defaid arni borent
Yn ddifyr yn eu
hedd,
Ond mae'r hen fugail gofiwn
Yn awr yn llwch y bedd.
Diosgais fy esgidiau
Wrth droi i'r fynwent brudd,
Ac hiraeth aeth
yn gawod
O ddagrau dros fy ngrudd;
Darllenais ar y meini

Feddargraff tad a mam,
Ac enwau torf o ffryndiau
Boreuddydd
mwyn, dinam.
Mi es am dro i'r capel,
Anwylaf yw i fil,
Lle dysgais fyn'd a'm
hadnod
I'r cwrdd a'r Ysgol Sul;
Mi holais dan y pulpud--
Ble
mae'r proffwydi glân
A welais gynt yn llosgi
O'i fewn yn ddwyfol
dân?
Y seddau yma godent
Wynebau ger fy mron,
Hen seintiau haner
canrif,
Colofnau'r deml hon;
A d'wedais wrth fy nghalon,
Y tadau
nid y'nt mwy,
Y nef ar hyn agorodd,
A gwaeddais--Dacw hwy.
Deffroais o fy mreuddwyd,
A'r dydd oedd ar y wlad,
Dechreuais
feddwl allan
Y freuddwyd mewn tristhad;
Deallais wedi hyny

Nad oedd y freuddwyd brudd
Ond gweledigaeth noswaith
O
wrioneddau'r dydd.
_Penygraig._
G. JAMES.
Cân y Dwyfundodiaid.
Rhyw fyrdd a mwy na hyny,
'Does neb all ddweyd ond Duw;
Yw
haeddiant Crist yn drymach

Na phechod dynolryw:
Pe buasai yn yr
arfaeth
I fyn'd i uffern dân,
Fe olch'sai'r holl gythreuliaid
I gyd yu
berffaith lân.

Er cwrdd â geiriau newydd,
I roddi ei glod i ma's,
Ac uno â'r holl
angelion,
Ac etifeddion gras;
Heb enwi dim o'r unpeth
Ond
unwaith yn y gân,
Hyd eithaf tragwyddoldeb,
'Ddaw 'glod E' byth
yn mla'n.
Pe bai angelion nefoedd
Bob un yn myn'd yn fil,
Ac enill rhyw
fyrddiynau
Bob mynyd yn y sgil,
I roddi ei glod Ef allan
Am farw
ar y pren,
Hyd eithaf tragwyddoldeb,
'Ddoi dim o'r gwaith i ben.
'Tai sant am bob glaswelltyn
Sydd ar y ddaear lawr,
A mil am bob
tywodyn
Sy' ar fin y moroedd mawr,
Tafodau gan y rhei'ny
Fwy
na rhifedi'r dail,--
Rhy fach i ddweyd gogoniant
Sy'n haeddiant
_Adda'r ail_.
'Tai un o'r cor nefolaidd
Yn dod o'r nef i lawr
I rifo llwch y ddaear

A gwlith y borau wawr,
Fe allai wneuthur hyny
Mewn 'chydig
iawn o bryd,
Dweyd haner haeddiant Iesu
Nid all y cor i gyd.
Dywedodd Duw ei Hunan
Wrth Abram yn ddiffael,
Lai lai i arbed
Sodom,
Pe buasent yno i'w cael;
Ni dd'wedodd, ac ni
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.