yn llymed,
Gan rhwygo mal rhyw oged
Y tiroedd, gan ddweyd, Tyred
I'r moroedd er ymwared,
Fe
chwala'r bryn cewch weled,
A'i feini ânt mor faned
A hoelion
Tudur Aled;
Mac Twrch yn methu cerdded
O achos ei mawr syched,
A chwter James, er gwyched,
A safant oll nes yfed
Ffrydiau Twrch.
O'r Mynydd Du daw allan
Ffrydiau Twrch,
Yn fwrlwm gloew purlan,
Ffrydiau Twrch,
Gan rhuo, rhuo beunydd
A llu o ladron lledrydd
A'n gwlwm gyda'u gilydd
I chwilio am gorlenydd
Y defaid dofion
beunydd,
A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,
A'u crogi rhwng y creigydd,
A'u gwerthu er eu gwarthrudd,
A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,
Ac arswyd yn y corsydd
Na ddaw eu gwir berchenydd
I wybod
yn dragywydd
Am wal y drwg ymwelydd;
O! na bai i'r llifogydd
I
beidio bod yn llonydd
Nes llifo dros eu glenydd,
A rhoddi pobo
fedydd,
A boddi'r lladron llwydrudd,
Mi alwn hyn yn grefydd
Ffrydiau Twrch.
[Illustration: FFYNON-Y-CWAR.]
[Illustration: PONT-YNYS-TWLC.]
Parhâ i darddu'n gyson,
Ffrydiau Twrch,
Na syched byth dy ffynon,
Ffrydiau Twrch,
Ymlaen â thi, gan olchi
Y llygredd a'r budreddi
Sydd yn Nghwmtwrch yn croni,
Ac wrth y _George_ boed iti
I aros
o dosturi;
Hen Waterlw y cewri
Boed iti i ddifodi
Hen olion
gwaed oddiarni,
A chario byth i golli
Yr hen esgidiau mawrfri
A
gawsant eu pedoli
Fel carnau meirch Napoli
I gicio llawer bwli--
Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,
A llawer wedi tewi;
O ganol eu
drygioni
Boed iti loewi a gloewi
Y llefydd ffordd y llifi,
Nes bo
Cwmtwrch yn codi
Ar unwaith o'i drueni
Mor lân, mor bur a chenlli
Ffrydiau Twrch.
PWY YW YR AWDWR?
Angladd ar y Mynydd Du.
Yn yr hon ateser pan fyddai brodor o Llanddeusant farw yn
Ystradgynlais elai pobl yr Ystrad â'r corph dros y mynydd hyd
Aberdeudwrch, a deuai pobl Llanddeusant i'w gyfarfod yno i'w ddwyn i
ben y daith.
Droe y mynydd i Landdeusant,
Heibio'r Gareg Goch a'r Llwyn,
Araf, araf, â'r cynhebrwng
Hyd y llethrau rhwng y brwyn;
Adref
dros y llwybr garw,
Brodor sydd yn troi yn ol,
Un o ddefaid iesu
ydyw,
Ddyga angeu yn ei gol.
Myn'd dros orwel draw i orwel
Mae cynhebrwng prudd y sant,
Myn
y galon wrth fyn'd heibio
Ddweyd ei chyni wrth bob nant;
Ar
lechweddau unig anian,
O! mor dawel yw yr awr,
Myn'd a'r elor
tua'r fynwent
Trwy gynteddoedd gwyn y wawr.
Dacw'r dorf yn Aberdeudwrch,
Lle try rhai yn ol i dref,
Canant
yno'n iach i'w gilydd,
Gyda chanu mawl i'r nef;--
"Ffarwel,
gyfeillion anwyl iawn,
Dros ennyd fechan ni 'madawn,
Henffych i'r
dydd cawn eto gwrdd
Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."
Myn yr
hedydd ar ei aden
Uno yn y ffarwel brudd,
A rhoi odlau'r wawr i'r
hwyrgan
Efo'i delyn fechan, gudd.
Gyrr y Cerrig Coegion hwythau
Emyn ateb ar eu hynt,
Hed yr
emyn uwch y cymyl
Tua'r nef y'nghol y gwynt;
Fry, i fryniau iach y
Wynfa,
Fry, ymhell tu draw i'r glyn,
Fe hebryngwyd sant o oror
Mynydd Du i Fynydd Gwyn.
_Cefnymeusydd, Abercrave._
W. GWERNWY RICHARDS.
Y Gof Bach.
Ar lawrdir Cwmgiedd mor fyw yn fy nghof,
Yn ymyi yr afon yw'r
hen efail gof;
A'r muriau yn llwydion, a'r heiyrn yn ystor,
A'r
enwau cerfiedig ar hyd yr hen ddor.
Dyn bach o gorpholaeth oedd William y go',
Ychydig droedfeddi
mewn plyg ydoedd o;
Ond er yn grymedig i'r byd dan ei faich,
'Roedd tân yn ei lygad, a dur yn ei fraich.
Gwr diwyd oedd William ar hyd ei oes hir,
A swn ei forthwylion fel
clychau drwy'r tir;
Llwyr weithiau ei ddiwrnod ac ambell nos fawr
Bu'r efail yn wreichion hyd doriad y wawr.
Ni bu diniweittiach mewn efail yn bod,
Na neb yn hapusach waeth
sut troai'r rhod;
'Roedd Martha ac yntau mewn llanw a thrai,
A'u
gwenau bob amser fel blodau mis Mai.
Os byddai anifail dihwyl yn y fro,
Yr unig physigwr oedd William y
go';
'Does undyn a wyr pa sawl un wnaeth e'n iach,
A ffroeni
gwarogaeth wnai'r rhain i'r gof bach.
Fe drefnai wibdeithiau i'r Bannau bob haf,
A chodai y pentre i'r boreu
teg, braf;
'Dyw taith i'r Cyfandir yn ddim byd yn awr
At daith y gof
bach i ben y Fan Fawr.
Fe ddeuai'r merlynod ynghyd o bob parth,
Rhai buain o Balleg, rhai
dofion o'r Garth;
A Dic, asyn Dosia, yn rhwym dan ei sach,
A
ddysgai ufydd-dod--ddydd gwyl y gof bach.
Fel cadben yn arwain ei fyddin i'r gad,
Neu hyf anturiaethwr yn
chwilio am wlad,
Y dygai ei fintai drwy'r corsydd a'r mawn,
A'r
awel yn chwerthin drwy'r nef wrth ei ddawn.
'Roedd ganddo storiau--rhai doniol bob un,
A llawer un daclus o'i
wead ei hun,
Storiau ei garu â lodes y Plas
"Yn y got a'r gwt fain a'r
siaced gron las."
Mi'i clywais yn tystio, a phwy wyddai'n well?
Fod merlod y wlad yn
ei adwaen o bell;
A rhedent pan gollent bedolau'n ddibaid
I'r fail at
William i achwyn eu traed.
'Roedd William yn Gristion, a'i enaid bob dydd
Yn mwg yr hen efail
yn gwynu mewn ffydd;
A llawer i noson ystyriem hi'n fraint
I
glywed ei weddi yn nghyrddau y saint.
Bu'n iechyd i galon ac ysbryd y lle
Ei ddilyn i'r mynydd a'i wrando yn
nhre';
'Roedd llwybrau cyfiawnder o hyd dan ei draed,
A bendith yn
stor yn ei gynghor a gaed.
Mae'r afon o hyd yn myn'd drwy y lle,
A'r efail ar lawr, a'r gof bach
yn y ne';
Ond adgof sy'n gofyn yn brudd ar ei
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.