Cerddir Mynydd Du | Page 6

Not Available
tlawd
Yng nghwmwd godreu'r bryn,
Ni wyr rhwysgfawredd
pell a ffawd
Ddim am y bwthyn hyn.
Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,
A chysgu'n esmwyth wna,
Hyd nes
daw'r wawrddydd drwy y dellt
I ddywedyd "Bore da;"
Ac yn ei
goleu daw i lawr,
Ac ar ei liniau trwm
Gweddio wna yn ngoleu'r
wawr
Gerllaw ei wely llwm.
Un hoff o'r mynydd yw efe,
Bydd yno'n fore iawn
O olwg pobman
ond y Ne',
Rhwng y twmpathau mawn;
Heb wybod am
rwysgfawredd dyn,
Na moethau'r palas gwych,
Mae yno'n siarad

wrtho'i hun,
A bwyta'i damaid sych.
Bu ef mewn gweddi lawer gwaith
Yng nghysgod llwyn o frwyn,
A
bu yr awel ar ei thaith
Yn ewrando ar ei gwyn.
Fe safodd ganwaith
ar y bryn
I gofio'r dyddiau gynt,
Ac mewn myfyrdod elai'n syn

Cyn cychwyn ar ei hynt.
Yn fore, bore, bydd ar daith
Yn rhodio'i lwybr cam,
A chadd
foreufwyd lawer gwaith
Yn mwthyn bach fy mam;
Fe wyddai mam
heb unrhyw gais
Pa bryd oedd Shôn am fwyd,
Hi adnabyddai wrth
ei lais,
Ac wrth ei wyneb llwyd.
A phan yn bwyta'i damaid mwyn,

A ninnau'r plant gerllaw,
Murmurai Shôn mewn banner cwya

Am bethau'r byd a ddaw.
Wrth rodio'r caeau 'nol a blaen
Nid yw am gwrdd a'r un;
Fe groesa
ef ar draws y waen
Er cael bod wrtho'i hun;
A siarad mae pan ar ei
daith
O hyd mewn distaw dôn,
Nes wy'n dychmygu ambell waith

Fod angel gyda Shôn.
Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,
Yn cilio tua'r pant,
Ac yntau
dianc fry i'r bryn,
Yn cilio rhag y plant.
Diniwed yw, yn ofni'r byd

Ei wawdio ar ei hynt,
Tra'n gafael mae ei serch o hyd
'Nol yn yr
amser gynt.
'Does ganddo awrlais yn y byd,
Na modd ychwaith i'w chael,
Ond
adnabydda ef o hyd
Yr amser wrth yr haul;
Proffwydo'r tywydd teg
o draw,
Ni fethodd ef erio'd,
A chanfod mae y gawod wlaw

Ddiwrnodau cyn ei dod.
Mae yn y capel erbyn pryd
Ar fore Sabboth Duw,

Y mae ei weddi
dawel, fud,
Yn gwneyd ei fawl yn fyw;
Ac os dechreua cennad Iôn

Ddarlunio gwerth y gwaed,
Er heb Amen, canfyddir Shôn
Yn
codi ar ei draed.
Aeth dynion ieuainc caled, hy',
Er cael difyrrwch ffol
Un hwyr i

wawdio wrth ei dy,--
Ond troisant yn eu hol
A braw a gwelwder ar
bob gwedd,
Can's torrodd ar eu clyw--
Swn Shôn o ymyl gwlad yr
hedd
Yn galw ar ei Dduw.
Fry yn yr unig anial gwm
Dan goedydd cnau ac ynn,
Y mae
adfeilion bwthyn llwm
Yng nghanol drain a chwyn;
A Gwilym
Shôn a ddaw bob dydd
I'r waen uwchlaw y ty,
Ac edrych ar yr
adfail bydd
A chofio'r dyddiau fu.
Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,
Am ofyn im paham,--
O! gwel
yn adfail dan y llwyn,--
Hen fwth ei dad a'i fam.
Bu yna'n
chwareu'n blentyn llon,
Fe dyfodd yna'n ddyn,
Mae gweld y lle yn
glwyf i'w fron,
Galara wrtho'i hun.
Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,
A'r drysni lle bu'r tân,
Bu yno'n
gwrando swn y gwynt,
Bu yno'n canu cân,
A chyda'r teulu lawer
gwaith
Bu'n plygu ar ei lin,
Cyn gwybod am ofidiau'r daith
Ar
amgylchiadau blin.
Dan ormes colli wnaeth ei dad,
Y cartref llawn o hedd;
Yn fuan ei
rieni mad
Orweddent yn y bedd.
Fe garai eneth dros y bryn
A
chariad bore oes,--
Canfyddodd hithau'n mynd 'r glyn
A'i gafael yn
y groes.
Ei galon dan y saethau dwys
A dorrai fel ei rudd,
Ei fywyd oll o
dau y pwys
Ai beunydd yn fwy prudd,
Ond daw drwy'r storom
waetha 'rioed
Ar fore gauaf llwm
I weld yr adfail dan y coed,

Ac
wylo tua'r cwm;
A dyry dro i ben y bryn
Yn llaw clwyfedig serch,

I weld o draw y bwthyn gwyn,
Hen gartre'i gariad ferch.
BEN DAVIES.
Llyn y Fan.
(GWATWARGERDD).

Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,
'Does dim yn eu
blino tra'u dwylo yn rhydd,
Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r Banau
I
weled y Llynau--dwr llonydd.
Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,
Coed lemon, coed 'falau, yn
flodau i'r brig,
Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwen
Hwy
ledan' fel Eden fawledig.
Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,
Y riw a'r rhosmari yn tyfu
o'r don;
Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,
Ac amryw o lysiau
gwyrddleision.
Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanod
Yn llusgo'r llyswenod,
llwyth hynod, o'u lle;
A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,

Wrth neidio at blufod y Blaene.
Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,
Na'u cofio 'nol eu canfod yn
nghysgod y gwlydd;
Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u
gwelsom
Yn nofio yn nghrochan y Crychydd.
Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath rali
Wrth dreulio ein carne
drwy'r cernydd o dre,
Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,

Cewch wel'd yr un olwg a nine.
PWY YW'R AWDWR?
Ffrydiau Twrch.
Mae'r testyn wedi'i enwi
Ffrydiau Twrch,
A'r gronfa wedi tori
Ffrydiau Twrch;
Mae'r dyfroedd rhwng y cerig
Yn ffrydio'n grych
berwedig
O rywle anweledig
Ym mol y bryn mynyddig

Uwchlaw'r Cellie hyllig,
A'i dwrf fel taran ffyrnig
Ar godiad tir
rhwygedig,
A chreigiau maluriedig
Sydd yno'n rhesi unig
O

gedyrn arfogedig
Yn gwylio'r dderwen dewfrig
Eistedda'n llwyn
caeadfrig,
A'r pigau melldigedig,
A'r blodau caboledig,
A noda
fan synedig
Ffrydiau Twrch.
A welsoch chwi y Ffrydiau?
Ffrydiau Twrch;
A daniwyd chwi gan donau
Ffrydiau Twrch?
Os naddo, ewch i'w gweled
Yn gyru dros y
gwa'red
Yn ewyn gwyn i waered
Gan boeri ar eu pared,
A
lluchio'r meini'n lluched
O hirbell yn ddiarbed;
Y cenllif gwyllt
wrth fyned
Sy'n llamu bob
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.