Cerddir Mynydd Du | Page 5

Not Available
a'i gi a welir
Yn

casglu'r praidd o'r bron,
A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,
Rhwng muriau
cedyrn hon.
Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,
Bydd pawb yn brysur iawn,
Pob un yn
dal ei eiddo
I'w Ffald ei hun a gawn;
Os digwydd ambell ddafad

Estronol yma ddod,
Bydd llawer llygad arni
Yn ceisio gwneud ei
'nhod.'
Wrth droi a thrafod llawer
Fe welir ambell un
O'r defaid, dros y
muriau,
Yn cym'ryd ffordd ei hun;
Ac ar eu hol yn sydyn
Bydd
tyrfa fawr o gwn,
A'r lle yn haleliwia
Byddarol gan y swn.
Doethineb cenedlaethau
O ffermwyr yma fu,
Yn traethu am
hanesion
Helyntion Mynydd Du;
Adroddent am wrhydri
Yr hen
fugeiliaid gynt,
Ac enwau'r cwn a glywir
O hyd yn myn'd drwy'r
gwynt.
Mor ddedwydd ydyw bywyd
Cyffredin gwyr y wlad,
Yn heddwch
y mynyddoedd
Mae iddynt wir fwynhad;
Fe gollir y bugeiliaid,

Rhai newydd ddaw o hyd,
Ond erys y mynyddoedd
Heb newid
oesau'r byd.
_Ystradgynlais._
LLEWELYN JONES.
Y Llynfell.
Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw
Castell Craig-y-nos.
Fuoch chwi wrth Danyrogof?
Welsoch chwi y temlau cain?

Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell
Fel organ gref yn llanw rhain?
Welsoch chwi wrth droed y clogwyn
Fel y rhuthra ffrwd mor falch

I oleuni o dywyllwch
Llwybrau cudd y cerrig calch?

Bu yn hir yn nwfn gysgodion
Bro y gwyll--heb wawr na rhos;

Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau
Unig yn rodfeydd y nos.
Carwn wybod peth o hanes
Gwlad heb flodyn ynddi hi,
Heb un
deryn bach yn canu;
Heb un ganghen uwch ei lli.
Ond fe geidw ei chyfrinach,
Ni fyn son am ddim sy'n ol;
'Myn'd
y'mlaen' yw hanes afon;
'Aros' ydyw hanes dol.
Dywedir fod ei dyfroedd gloew
Yn newid lliw cyn delo gwlaw;

Dyma broffwyd llwyd y Blaenau--
Wêl y ddrycin cyn y daw.
Ni wyr hi ddim am dymhorau,
Welodd hi erioed mor ha';
Ni fu
gauaf yn ei rhwymo
Yng nghadwynau oer yr ia.
Y mae rhamant yn ei hanes,
Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,

Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd
Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.
Afon fechan, megis tithau,
Minau garwn deithio'n rydd,
Drwy
gysgodion, i oleuni
Pen y daith yng Ngwlad y dydd.
_Corrig Haffes._
MYFYR MAI.
Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.
Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,
Wisga'n fore ar ei bron,
Mae'n
gwresawu pob pelydryn
Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,
Natur fu yn
paentio'i aeliau
Gyda phluen awel rydd,
Wrth ymolchi mewn
pelydrau
Gwyna amrant llygad dydd.
Lygad siriol lawn cyfaredd
Yn agored o fy mlaen;
Ei fychander yw
ei fawredd,
A'i holl rwysg yw bod yn blaen;
Try i ffurf a lliw yr
huan
Wrth gwmnia gydag ef,
Er dadblygu'u lygad gloew-lan,

Aros wna yn nhês y nef.

Lygad effro, nad yw'n hepian
Nes yr huna anian dlos,
Yn ei wynder,
wrtho'i hunan,
Gwena'r dydd a chysga'r nos;
Dysgwn wers y glân
flodeuyn,
Yn y gwlith ei lygad ylch,
Fel na chenfydd un brycheuyn

Yn y llygaid sydd o'i gylch.
Lygad dydd, a chanwyll eurliw
Yn ei ganol, megis tân,
Ai nid
heulrod glaswellt ydyw
Egyr ag ymylwe mân?
Er ei fod yn nghanol
tyrfa
O'i wyn-frodyr ar y waen,
Wrth yr un ni chenfigena,
Mae ei
burdeb yn ddi-staen.
Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa
Ben y clawdd am sylw'r byd,

Mewn dinodedd y cartrefa,
Gyda'r blodau lleia'i gyd;
Hwn wrth fyw
mewn gostyngeiddrwydd
Ddysga wersi i lawer un,
A ddisgynodd i
ddinodedd
Wrth wneud duw o hono'i hun.
Dena lygad rhyw forwynig,
Sycha'i sendyl yn y gwlith,
Wrth
dramwyo'r llwybr unig
Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;
Plyga'n
wylaidd i anwylo
Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'
Am fod arall yn
blodeuo
Ar hoff fedd ei thad a'i mam.
Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,
Gan ei adael ar y ddôl,
Wrth
fiarwelio, 'rwyf yn credu
Ei fod yn syllu ar fy ol;
O! am fyw ei
fywyd gloew,
Gyda chalon onest, rydd,
Fel y gallwn, cyn fy marw,

Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.
GWILYM WYN.
O'r Niwl i'r Nef.
[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf
ar ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu
ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol
tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr
oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau
crefyddol.]

Rwy'n mynd, fy nhad a mam,
I wlad na ddof yn ol;
'Rol teithio
llawer cam
Dros lawer bryn a dôl.
Rwyf wedi blino'n lân,
Fy
nerth sydd yn gwanhau,
Mae afon o fy mlaen,
A niwl o'm cylch yn
cau.
Tuhwnt i'r Mynydd Du,
Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,
A
thuag atti hi
Rwy'n mynd, fy mam a nhad.
Rwyf wedi colli 'm ffordd,
Fy ffryndiau sydd ar goll,
A minnau yn
y nos
Yn chwilio am danynt oll.
Ond nid oes un a ddaw
I'm
cwrdd yr ochr hyn,
Ond mae yr ochr draw
Yn llawn o engyl gwyn.

Ac fel yn dweud i gyd,
Na chaf fi unrhyw gam,
Rwy'n mynd i'r
bythol fyd,
Ffarwel, fy nhad a mam.
Mae afon o fy mlaen,
Rwy'n clywed swn y don;
Rwy'n gweld y rhai
sy'n byw
Tuhwnt i ffrydiau hon.
Mae melus hun yn dod,
'Rol
dydd o ludded maith,
A minnau 'n teimlo fod
Gorphwysfa ar ben y
daith.
I groesi 'rochr draw,
Nid oes ond megis cam,
Rwy'n mynd
i'r byd a ddaw,
Ffarwel, ffarwel fy mam.
WATCYN WYN.
Gwilym Shon.
Mae Gwilym Shôn yn awr yn hen,
Mae'r eira ar ei ben,
Yn araf
ddisgyn dros ei en
Nes gwneyd ei farf yn wen;
Ar fin y nant mae'i
fwthyn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.