DAVIES (_Ap Brychan_).
Hela'r Twrch Trwyth.
(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r
ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at
Arthur i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r
helfa. Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r
Iwerddon drwy Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond
diangodd y Twrch a'i fywyd ganddo.--MABINOGION.)
Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw
Cwmtwrch.
Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,
A'i swn dros y moroedd
adseiniodd yn syn,
A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,
Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.
Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,
A dewrion gwyr
Llydaw, a Norman a Ffrainc,
A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant
ac wyth,
Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch Trwyth.
Marchogion a groesent y tonau yn awr
Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r
haf ar y llawr,
A bloeddiai'r Gwyddelod--"Daeth dydd talu'r pwyth,
Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."
Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,
A'r Twrch a'i saith
berchyll a glywent y swn.
A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,
A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.
Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr
O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y
wawr.
A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,
Gan wenwyn
llysnafedd o enau Twrch Trwyth.
Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt
Troes Twrch ei gyfeiriad a'i
wrych yn y gwynt,
A'r helwyr yn dilvn--ni fu y fath lwyth
O wyn ar
y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.
Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,
Bu dychryn drwy'r dalaeth
ac alaeth a gwaedd.
A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,
Ddifrodwyd
o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.
O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,
Ac helwyr a helgwn yn
dilyn yn dyn.
Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,
A
ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.
Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,
Llwynmoch a
Chwmclyd a dialwn ein cam,
A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un
llwyth,
Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."
Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,
Drwy'r erchyll
ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.
Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol
pwyth
Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.
[Illustration: CWMGIEDD (RHAN ISAF).]
Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,
(Mae'r cread yn deilchion fan
hono yn awr).
Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth
Yn swn
dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.
Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,
A rhanwyd ei berchyll,
ond ef yn ei wanc
A groesodd i'r Tywi--yr olaf o'r wyth,
A'r awyr
yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.
A misoedd a biwyddi o hela a wnaed
Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a
gaed,
Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,
O'r Hafren i
Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.
Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,
Ac Arthur yn Nghernyw
mewn cwsg byth mae e'.
Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a
llwyth
Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.
G. AP LLEISION.
Afon Giedd.
Mae afon chwyrn y Giedd
Yn tarddu yn y mawn,
Daw ar ei phen i
waered
Dros greigydd enbyd iawn;
Ar gefn ei chroch raiadrau,
Ddiwrnod mawr ei lli,
Daw darn ar ddaro o'r creigiau
Yn 'sglyfaeth
gyda hi.
Hi dwmla bobls mawrion,
Dynelli o bob rhyw,
A chaiff ei
hadgyfnerthu
Gan afon rymus Cyw;
Mae'n myn'd dan wraidd y
coedydd,
A charia'r rhai'n drachefn,
A diorsedda'r pontydd,
Nes
gwneud y lle'n ddidrefn.
Un boreu yn Gorphenaf,
Mi gofiaf yn ddilai,
Pan ddaeth ei llif
dychrynllyd
I gym'ryd wyth o dai;
Y Cwm sy'n ofni'r afon
Byth
wedyn ar y gwlaw,
A'r nos ni feiddia gysgu
Rhag arswyd llif a
ddaw.
Ofnadwy ar ein clustiau
Yw swn ei chenllif hi,
A'r cerrig mawrion
fflachiant
Yn wreichion yn ei lli';
Ei tharth a gwyd i fyny
Yn
gwmwl tua'r nen,
A gwaedda yn gynddeiriog,
'Mi fynaf fod yn ben.'
Mae pawb yn cyfreithloni
Yr enw gafodd hi,
A chiaidd, ciaidd
ydyw
O fewn ein dyddiau ni;
Ond Ef sy'n dal y wyntyll,
A'r
dyfroedd yn Ei law,
Ostega ei chynddaredd
A'r gair bach hwnw,
'Taw.'
Os rhuo mae y Giedd
Am gael ei ffordd ei hun,
Da genym fod ei
Harglwydd
Yn noddfa byth i ddyn;
Mae'r plant sydd ar ei glanau
Yn anwyl ganddo Ef,
A diogel yn mhob dryccin
Yw etholedig nef.
Wrth wel'd y gwyllt lifeiriant
Yn pasio drws fy nhy,
Mae'r wers o
flaen fy llygaid,
'Mod inau fel ei lli',
Yn myn'd i'r goriwaered,
I'r
tragwyddoldeb pell;
O! Arglwydd, pan gaf orphwys,
Rho imi wlad
sydd well.
_Cwmgiedd._
HOWELL POWELL.
Ffaldau Moel Feity.
Wrth droed y Foel arddunol,
Ger murmur Tawe fwyn,
Mae'r
Ffaldau llwyd, henafol,
Rhwng meini braf a brwyn;
O'u cylch mae'r
bryniau uchel
Yn gwenu uwch eu pen,
A'r Fan yn spio arnynt
Drwy gymyl yn y nen.
Mor swynol ydyw canfod,
Ar foreu hafddydd gwyn,
Y defaid
dirifedi
Yn britho'r bryniau hyn;
Y'mysg y cerrig garw
Sy'n
gestyll rhag y gwynt,
Llochesant rhag ystormydd
Dramwyant ar eu
hynt.
Amaethwyr Crai a Llywel,
Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,
A
foreugyrchant yma,
Mi welir neb yn ol;
Daw hefyd wyr
Llanddeusant
Ar eu ceffylau bach
I geisio'r defaid crwydrol,
A'u
dwyn hwy adre'n iach.
Ceir gweled gwyr Glyntawe
A'u gyroedd yma'n dod,
Ni fu y fath
brysurdeb
Mewn unrhyw fan erio'd:
Pob un
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.