Cerddir Mynydd Du | Page 3

Not Available
gyrddau mawr yr amser gynt;
Yno
wylo, neidio, a moli,
A rhoi proc i'r hen Amen,
Rhoddais _oil_ ar
_wheel_ y bregeth
Ganwaith cyn y doi i'r pen.
Mae'r pregethwyr doniol hyny
Bron i gyd yn llwch y llawr,
Yn
adgofio am eu haeledd
Y mae llawer hen got fawr;
Nid oedd un
pregethwr enwog
Yn y de na'r gogledd draw

Na fum i ryw dro yn
rhywle
Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.
Hen bregethwyr tanllyd Cymru,
Yn y wlad ac yn y dref,
Oedd y
dyddiau gwlithog hyny
Yn gynefin iawn am llef;
Os pregethwyr
mwy dysgedig
A gyfodwyd yn ein plith,
Hen bregethwyr cynt, er
hyny,
I Shon Rhys am fêl a blith.

'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,
Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,

Os yw'r llwybr yn gerygog,
Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;
Os yw
cefnfor f'oes yn arw,
Yn ddiangol af i'r lan,
Daw y porthladd clyd,
dymunol,
I fy ngolwg yn y man.
Parch. D. ONLLWYN BRACE.
Pen y Cribarth.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth uchel?
I deg
fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,
Ar war y clogwyn tawel,
Ac yfed
iechyd dros ei fin,
O gwpan gwin yr awel.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth Talfrig?
I edrych
ar y fywiog fro
Sydd dano yn weledig,
Ardaloedd eang hyd y môr

Yw'r oror estynedig.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth eto?
I dremio
draw i ben y Fan,
'Does dim ond anian yno--
Yn fynydd mawr, a
defaid mân,
A nentydd glân yn llifo.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth golau?
Mae hedd
yn awr lle bu cyn hyn
Ddaeargryn yu y creigiau,
Cawn ddarllen ar
bob careg bron
Hanesion o'r hen oesau.
Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth beunydd,
Ac
uno ym mheroriaeth lon
Alawon yr ehedydd;
Tra'r byd yn mhell, a'r
nef gerllaw,
Pwy na ddaw yn addolydd?
_Maesyderi, Abercrave._
T. J. DAVIES (_Iscoed_).
Yn y Mawn ar ben y Mynydd.
Ar y mynydd yr emynaf,
Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;


Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Awel bur a haul y boreu,
Yma geir fel am y goreu,
Yn rhoi yni i'r
awenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ond, er hyny, nid yr anial
Mawnog hwn yw'r man i gynal
Hwyl y
gwanwyn hael ei gynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y bryniau mawr wybrenol
Mae dystawrwydd mud, ystyriol,
Yn
sobreiddio naws boreu-ddydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ni cheir cor yn chwareu carol
Yn y llwyn yn llu awenol;
Mae cor
mwyn y llwyn yn llonydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Chwery _un_ â chywir anian,
Ei grwth unig wrtho'i hunan;
Cu iawn
ydyw cân ehedydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ef yw cerddor dor y daran,
Difraw troedia fro y trydan;
Bwria'i
unawd o'r wybrenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
[Illustration: GORED Y GIEDD.]
[Illustration: TREM I'R MYNYDD DU.]
O bell clywir y gog dirion,
Gyda'r awel o'r godreuon,
Efo moliant
haf ymwelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Draw ac yma drwy y cymoedd,
Cri a glywir o'r creigleoedd,

Bywiog alaw y bugeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Truman cribog, muriog, mawrion,
A'u hesgeiriau yn ysgyrion,
Yma
wyliant uwch y moelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Metha'r haf a'i fwynaf wenau,
Wyrddu llen i ben y banau;
Oeda'r
gauaf yn dragywydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ymherodraeth y mawr wywdra,
Heb eginyn bywiog wena;
Lle ni
chawn na llwyn na chynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ac ar fynwes cwr y fawnog
Torwyd lluniau traed y llwynog,
Heibio
hwylia yn ysbeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y clogwyn mawr cilwgus
Haf awelon sydd yn felus,
A chael
enyd fach o lonydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Mwynhau heddwch y mynyddoedd,
A mwynderau y mawndiroedd,

Sy'n baradwys iawn i brydydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
GWYDDERIG.
Bugail y Mynydd Du.
Rhys oedd bugail y Mynydd Du,
A theilwng fab y wawrddydd,
Yn
nghwmni Toss, ei hanes fu
Fel chwedl ar y mynydd.
Arferai godi gyda'r haul,
Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,
A mynai yn
ei belydr glân
Gael bedydd tan bob borau.
Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu
Fe ddeadellai'r defaid,
A Toss yn
barod, wrth ei law,
I wneud ei arch a'i amnaid.
Y gauaf fel yr haf o hyd
Bu ef yn ffyddlon iddynt,
Wynebai storm
Bwlch-adwy'r-gwynt,
A dryccin eira, drostynt.
A chalon ysgafn oedai'n hir
Yn awyr iach y bryniau,
Tra'r awel bur
a'i phwyntyl llon
Yn lliwio'n goch ei ruddiau.
Fe garodd edrych dros y ddôl
Draw i bellderau'r mynydd,
A
gwrando swn y nentydd byw
Yn galw ar eu gilydd.
Fe godai'i lais mewn hapus gân
O ddiolchiadau calon,
A chododd
allor lawer gwaith
Ar ben y Cerrig Coegion.

Ar ben y mynydd--pell o'r dref,
Nef oedd agosaf iddo,
Newyddion
byd a aent yn hen
Wrth deithio tuag ato.
Felused iddo yn yr hwyr
Oedd cysgod clyd ei fwthyn,
A Men ei
briod wrth y tan
Ar aelwyd y Twyn Melyn.
Aeth llawer gauaf dros ei ben
Yn stormydd ar y bryniau,
Cyn iddo
groesi dros y glyn
I wlad yr hafddydd golau.
Mae Men ac yntau yn y bedd,
Ac adfail yw y bwthyn,
Ond gwena'r
haul a brefa'r praidd
O hyd ar ben Twyn Melyn.
_Abercrave._
RHYS
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.