Gwen,
Heb deimlo'r
gwynt yn oer."
"'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd,
A'r nef yn las uwchben,
Pan unwyd
ein calonnau,
Fe gofi dithau, Gwen:
Ti wridaist wrth yr allor
Fel
cwmwl cynta'r wawr;
A chrynu wnai fy nghalon, Gwen,
Fel
gweli'm dwylaw'n awr."
"Fe gododd llawer storom,
Fe'n curwyd gan y dón,
Bu llawer
pryder chwerw
Yn llechu dan ein bron;
Cyn hir â'r storom olaf
I
blith y stormydd fu,
Ac huno gawn yn dawel, Gwen,
Wrth odreu'r
Mynydd Du."
_Abercrave._
R. BEYNOK, B.A.
[Illustration: MYNWENT CWMGIEDD.]
Adgofion Mebyd.
Heda meddwl i'r gorphenol,
I baradwys bore oes,
Pan oedd bywyd
yn ddymunol,
Pryd na chwythai awel groes;
Cysegredig oedd y
twyni
Lle chwareuem amser gynt,
Nid oedd gofid wedi'i eni,
Nid
oedd brad yn swn y gwynt.
Yr oedd engyl ar y llwybrau,
'N syllu arnom hyd y ffyrdd,
Eden
ydoedd "Penyffaldau,"
Lle treuliasom oriau fyrdd;
Oriau glân heb
wag oferedd
I lychwino'r tymhor gwyn;
Darn o'r nef yn ein
hedmygedd
Oedd y llecyn prydferth hyn.
Cynal oedfa wedi'r oedfa
Wnelem ni ar ben y Bryn,
Nid oedd neb
yn gwag-rodiana
Y nos Suliau sanctaidd hyn;
Pobi ieuainc yn
finteioedd
Dyrent yma wedi'r cwrdd,
Gan orfoledd naws y nefoedd,
O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.
Cofio'r adeg pan neillduem
I ryw gonglau unig iawn,
Yno'n fynych
yr arferem,
Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;
Adrodd darnau y
"Pen Chwarter,"
Er eu gloewi, wnelem 'nawr,
Yna wedyn gan ein
hyder,
Nid oedd neb yn tori lawr.
Ambell noson deg o'r wythnos
Gwelid ni dan lwyni heirdd,
Fel
"derwyddon" yr hen oesau
Yn cael orig gyda'r beirdd;
"Oriau'r
Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"
"Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,
A
ddarllenem am y gore,
Cyn bod son am _football news_.
Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"
A llinellu yn ddiball,
A chael
ffrwd o grechwen iachus
Wrth ddarganfod ambell wall;
Hyn yw'r
rheswm fod fy ardal
Wedi codi beirdd o nod,
Wrth fyfyrio pethau
ofer
Ellir byth gyrhaeddyd clod.
Wrth ymlwybro tua'r Capel
Dros y bryn, y waun, a'r ddol,
Nid oedd
calon un addolydd
Yn dychmygu pethau ffol;
Gwelem Dduw yn
mrig y perthi
'N llosgi, megys Moses gynt,
Caem ein dwyfol
ysbrydoli,
A'n gweddnewid ar ein hynt.
Seiniau adar bach y llwyni
Dorai'n fiwsig ar ein clyw,
Yr oedd
natur yn ein tywys
Tuag allor cysegr Duw;
Megys Enoch gynt yn
rhodio
Rhodiai tadau dros bob rhiw;
Dal cymundeb â'r ysbrydol
Ydyw rhodio gyda Duw.
GWILYM WYN.
Llynau'r Giedd.
Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,
A chanaf i dy Lynau,
Cyrchleoedd
difyr, llon, di-loes,
Fu rhai'n ar hyd yr oesau;
Bum innau'n chwareu
lawer tro,
A nofio yn eu dyfroedd,
A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,
Oedd imi'n haner nefoedd.
Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"
A brwd oedd plant am dano,
Nid oedd ei debyg yn y wlad
I chware' tra'd a dwylo';
Ei waelod
welodd llawer un,
A blin fu'r ymdrech droion
I ffrwyno'r lli', a
dysgu'n llon
I farchog ton yr afon.
"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych
Pan fyddo sych yr afon,
A'r
graig uwchben wrth wel'd ei llun
Addolai'i hun yn gyson;
Ond pan
ddaw llif i lawr drwy'r llyn
Yn ewyn gwyn cynddaredd,
Yn synu
pawb bydd dyfroedd iach
Niagra fach Cwmgiedd.
Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,
Er cymaint son am dano,
Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon
Sy'n llifo'n gyson iddo;
Rhyw
gawg yw ef i ddal ei gwin
Yn mhoethder hin yr hafau,
Pan sych yr
afon yn mhob man,
Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.
"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,
Mewn creigle mae ei wely,
A
physg yr afon dd'ont yn llon
O dan ei don i gysgu;
Mae Dafydd
Morgan yn ei fedd,
A Giedd eto'n llifo,
Ond aros mae y llyn o hyd,
A'r byd yn myned heibio.
"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,
Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,
Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif
Yn adfail er's canrifoedd;
Bu
llawer rhod o dan ei don
Yn gyson ei throadau,
A holi'n segur mae
o hyd--
Pa le mae yd y tadau?
Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,
Cymydog yw i'r mynydd,
A'r
miloedd defaid yn yr ha'
A olchir yma'n ddedwydd;
Os du ei don,
daw'r praidd yn wyn
I'r cnaif o'r llyn yn gyson,
A thra bo'r Mynydd
Du, parhâ
Yr "Olchfa" yn yr afon.
Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,
Ar ffordd y Fan a'r Carnau,
Y Cefn
Mawr a'r Gareg Goch,
A glyw y croch raiadrau,
Dyfnder yn galw
dyfnder sy'
Yn gry' ar hyd y mynydd,
A Giedd lama'n ewyn gwyn
O lyn i lyn i'r Werydd.
_Cwmgiedd._
RHYS POWEL (_Yorath_).
Shon Wil Rhys.
'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,
Ac yn gwisgo'r blewyn brith,
Hen gymeriad hynod ydwyf,
Wedi'i fagu yn eich plith;
Nid oes neb
sydd yn trigianu
Yn nghyffiniau afon Gwys
Wedi cerfio'i enw'n
ddyfnach
Yn y wlad na Shon Wil Rhys.
Caled i mi a fu bywyd,
O'i gychwyniad hyd yn hyn,
Megys
myrtwydd heb wên heulwen
Dan gysgodau dwfn y glyn;
Rhwyfo
wyf mewn dyfroedd dyfnion,
Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,
Ond
'rwyf fi a'r llong heb suddo,
Ac heb daro'n erbyn craig.
Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,
Os mai llwydaidd yw fy
ngwisg,
Nid yw'n deg i neb i farnu
Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;
Haera rhai na ches fy nghrasu'n
Ddigon caled, medde'n nhw,
Ond
ni fu y rhai'n yn ngenau'r
Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.
Llawer coegyn sydd am wneuthur
Ffwl o honwyf lawer pryd,
Peidiwch chwi er hyn camsynied,
Y mae Shoni yma'i gyd;
Os yr
ydwyf yn ddiniwed,
Nid wyf fi i gyd yn ffol,
Nid y fi yw'r unig
berson
Fu fel Dafydd yn nillad Saul.
Pan yn nghryfder nerth ac iechyd
Teithiais lawer ar fy hynt,
Trwy
gul gymoedd a thros fryniau
I
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.