gwin o'i gwefus,?Ces fara brith a chlwt o gaws,?Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.
Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,?Er cyfnod creadigaeth,?A Duw ei Hun fu'n tapo'r graig?Yn ddirgel mewn rhagluniaeth;?Eistedda dirwest ar ei sedd?Yn lan ei gwedd i'n lloni,?Diolchwn Dduw tra fyddwn byw?Am Ffynon wiw y Brandi.
RHYS DAVIES (_Llew Llywel_).
Dafydd y Neuadd Las.
Mac genyf dyddyn bychan?Ar fron y Mynydd Du,?Bu'n gysgod i'm yn faban,?I'm tad, a thaid nhadcu.
Mi gerddais pan yn blentyn?Hyd lethrau'r mynydd mawr;?A sengais "droed yr ebol"?Yn llaith gan wlith y wawr.
Ar ben y Lorfa dawel?Chwareuwn gyda'r wyn;?A miwsig nant y mynydd?Yn llifo dros y llwyn.
Do, treuliais lawer orig?Ar lan yr afon iach;?A gwynfyd i fy nghalon?Oedd dal y brithyll bach.
Bum yno wedi hyny?Yn cael fy nal fy hun,?Ond er i'm gael fy nala,?Mi ddeliais inau un.
Ar ben y Lorfa dawel?Aeth Gwen a'm calon oll;?A gwelodd yr hen fynydd?Ddwy galon fach ar goll.
Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,?Ac hyd y dyffryn bras,?Bu'r ddwy yn crwydro llawer?Cyn dod i'r Neuadd Las.
Aeth haner canrif heibio?Er daeth y rhain ynghyd,?Ond ieuanc yn y galon?Yw'r cariad cynta'i gyd.
Wrth ganu'r hen alawon?Ganasom gyda blas;?Un rhamant ydyw bywyd?Ar aelwyd Neuadd Las.
_Cefnymeusydd, Abercraf._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
Cyw.
Ar ochr y Cribarth?Dwy afon fach sy'?Yn tarddu yn gyson?O fron Mynydd Du;?Cydredeg a dawnsio?Drwy'r dd?l mae y par,?A rhywun a'u henwodd?Yn geiliog a giar.
A chanu wna'r ceiliog?Yn llon yn y fro,?A'r iar sydd yn gregan?O hyd ar ei gro;?Chwareuant alawon?I'w gilydd heb ball,?A chanu a nesu?Mae'r naill at y llall.
'Nol caru a chanu?Drwy'r fawnen a'r pant,?Yn nghwlwm tangnefedd?Ymuna'r ddwy nant;?A ffrwyth y briodas?Yw'r afon fach, fyw,?Sy'n rhedeg i'r Giedd,?A'i henw yw--Cyw.
Llyn y Fan.
Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,?Af yn llawen tua'r llyn,?Lle mae ysbryd hen draddodiad?Byth yn aros yn ei wyn:?Crwydraf wrth y dyfroedd grisial,?Yno i wrando ar y gwynt?Sydd yn cwyno yn hiraethus?Ar ol rhamant dyddiau gynt.
Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes??Pwy all ddweyd yr helynt fu?Ar y noson loergan gyntaf?Pan ddaeth ser i'r Mynydd Du?Pwy all ddenu'r graig i siarad?Am ei phrofiad, fore gwyn,?Pan y gwelodd hithau gyntaf
Arall graig yn nwr y llyn?
Ai rhyw afon fechan, unig,?Grwydrodd yma'n llesg a gwan,?Wedi colli'r ffordd i huno?Yn nhangnefedd craig y Fan??Careg fechan yn y fynwent?Dd'wed am arall grwydryn cu,?Wedi colli'r llwybrau unig,?Hunodd ar y Mynydd Du.
Can medelwyr ar y meusydd,?Gyda thoriad borau gwyn,?Ond mae'r gan o hyd yn marw?Wrth neshau i lan y llyn;?Unig, unig yw ei hanes,?Yma mae yn hedd i gyd,?Huna'n dawel yn y cysgod,?Wedi digio wrth y byd.
A fu adar y dryglinoedd?Yma'n hedfan ar eu hynt??A fu'r d?n erioed yn gwynu?O dan fflangell lem y gwynt??A fu udgorn hen y dymhestl?Yn adseinio ar ei lan??Wyr ystormydd a chorwyntoedd?Am y ffordd i Lyn y Fan?
Nid oes yma swyn y lili,?Yma nid oes rhosyn gwiw,?Ond daw serch yn dirf ac iraidd,?Lle mae'r blodau'n methu byw;?Heb un llwybr ar y moelydd?I'w gyfeirio tua'r lan,?I'r unigedd a'r distawrwydd?Fe ddaeth serch i Lyn y Fan.
Gyda'i braidd mae'r bugail unig?Wrth y llyn yn rhodio'n rhydd,?Ond paham y ceidw'r defaid?Wrth y llyn ar hyd y dydd??Nid yw'n clywed bref ddolefus?Dafad glwyfus ar y lan:?A fu bugail mor esgeulus?A Rhiwallon Llyn y Fan?
Wrth y Llyn gorwedda'r defaid,?Yno y breuddwydiant hwy:?Ond ni wyddant fod y bugail?Yn breuddwydio llawer mwy;?Beth yw'r pryder sy'n ei wyneb??Fentrodd oen i'r dyfroedd glan??Neu, a gollwyd un o'r defaid??Pam mae'r bugail heb un gan?
'Does ond un all roi esboniad?Ar yr holl bryderon hyn:?Nis gall bugail fod yn llawen?Gyda'i galon yn y llyn:?Gwelodd yno feinir geinwen?Yn y dyfroedd teg, di-stwr,?Ac mae yntau fyth er hyny?Fwy na'i haner yn y dwr.
Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,?Cadd ei galon eto'n ol:?Gwelwyd dau yn rhodio'n llawen?Un boreuddydd dros y ddol;?Ond fe wawriodd boreu arall?Ar Rhiwallon wedi hyn,?Pan y gwelwyd gwraig y bugail?Eto'n ol yn nwr y llyn.
Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,?Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,?Pan fu serch yn crynu'n ofnus?Wrth y dyfroedd gloewion hyn;?Nid oes heddyw un Rhiwallon?Yn bugeilio ar y lan,?Ond mae ysbryd hen draddodiad?Eto'n fyw wrth Lyn y Fan.
_Abercraf._
Parch. R. BEYNON, B.A.
Ar y Banau.
Clychau'r wawr sy'n canu?Ar y Mynydd Du,?Cilia ser o'r llynoedd,
Loewon lu.
Fly yn mhyrth y bore?Clywaf hedydd bach,?Yn dihuno asbri'r
Awel iach.
Fel cawodydd arian?Ei felodi dyn,?Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
Ffrydlif o hyawdledd?Yn y cwmwl gwyn;?Pe bai neb yn gwrando,
Canu fyn.
O! na bawn i'n hedydd,?Fyth yn llon fy llef,?Allwn ar adenydd
Hollti'r nef.
Blodau'r Grug sy'n gwrido?Yn eu cartre' cun,?Am fod cusan huan
Ar eu min.
Bu y nos yn wylo?Am fod tlysni nghudd,?Trodd y dagrau'n berlau
Ar eu grudd.
O! na bawn i'n flod'yn?Ar y mynydd pell,?Dal i berarogli,
Er yn mhell.
[Illustration: MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR]
[Illustration: LLYN-Y-FAN.]
Teimlaf ar y mynydd?Swyn yr amser gynt;?Clywaf Fabinogi
Yn y gwynt.
Clywaf rhwng y creigydd?Ymchwydd tonnau'r aig;?Gwelaf eu hysgrifen
Ar y graig.
Gwelaf graith y dymhestl?Ar y bryniau erch,?Clywaf hefyd furmur
Suon serch.
Gwelaf las y wybren,?Cofiaf lygad Gwen,?Syrthiaf i'w chyfrinedd
Dros ym mhen.
Gwen yn awr yw byrdwn?Can yr hedydd myg;?Er ei mwyn y gwrida
Blodau'r Grug.
Sonia'r neint am dani?Rhwng y grug a'r brwyn;?Llwythog yw yr awel
Gan ei swyn.
Dilyn ei huloliaeth?Ar y
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.