Cerddir Mynydd Du | Page 7

Not Available
Ystradgynlais elai pobl yr Ystrad a'r corph dros y mynydd hyd Aberdeudwrch, a deuai pobl Llanddeusant i'w gyfarfod yno i'w ddwyn i ben y daith.
Droe y mynydd i Landdeusant,?Heibio'r Gareg Goch a'r Llwyn,?Araf, araf, a'r cynhebrwng?Hyd y llethrau rhwng y brwyn;?Adref dros y llwybr garw,?Brodor sydd yn troi yn ol,?Un o ddefaid iesu ydyw,?Ddyga angeu yn ei gol.
Myn'd dros orwel draw i orwel?Mae cynhebrwng prudd y sant,?Myn y galon wrth fyn'd heibio?Ddweyd ei chyni wrth bob nant;?Ar lechweddau unig anian,?O! mor dawel yw yr awr,?Myn'd a'r elor tua'r fynwent?Trwy gynteddoedd gwyn y wawr.
Dacw'r dorf yn Aberdeudwrch,?Lle try rhai yn ol i dref,?Canant yno'n iach i'w gilydd,?Gyda chanu mawl i'r nef;--?"Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn,?Dros ennyd fechan ni 'madawn,?Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd?Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."?Myn yr hedydd ar ei aden?Uno yn y ffarwel brudd,?A rhoi odlau'r wawr i'r hwyrgan?Efo'i delyn fechan, gudd.
Gyrr y Cerrig Coegion hwythau?Emyn ateb ar eu hynt,?Hed yr emyn uwch y cymyl?Tua'r nef y'nghol y gwynt;?Fry, i fryniau iach y Wynfa,?Fry, ymhell tu draw i'r glyn,?Fe hebryngwyd sant o oror?Mynydd Du i Fynydd Gwyn.
_Cefnymeusydd, Abercrave._
W. GWERNWY RICHARDS.
Y Gof Bach.
Ar lawrdir Cwmgiedd mor fyw yn fy nghof,?Yn ymyi yr afon yw'r hen efail gof;?A'r muriau yn llwydion, a'r heiyrn yn ystor,?A'r enwau cerfiedig ar hyd yr hen ddor.
Dyn bach o gorpholaeth oedd William y go',?Ychydig droedfeddi mewn plyg ydoedd o;?Ond er yn grymedig i'r byd dan ei faich,?'Roedd tan yn ei lygad, a dur yn ei fraich.
Gwr diwyd oedd William ar hyd ei oes hir,?A swn ei forthwylion fel clychau drwy'r tir;?Llwyr weithiau ei ddiwrnod ac ambell nos fawr?Bu'r efail yn wreichion hyd doriad y wawr.
Ni bu diniweittiach mewn efail yn bod,?Na neb yn hapusach waeth sut troai'r rhod;?'Roedd Martha ac yntau mewn llanw a thrai,?A'u gwenau bob amser fel blodau mis Mai.
Os byddai anifail dihwyl yn y fro,?Yr unig physigwr oedd William y go';?'Does undyn a wyr pa sawl un wnaeth e'n iach,?A ffroeni gwarogaeth wnai'r rhain i'r gof bach.
Fe drefnai wibdeithiau i'r Bannau bob haf,?A chodai y pentre i'r boreu teg, braf;?'Dyw taith i'r Cyfandir yn ddim byd yn awr?At daith y gof bach i ben y Fan Fawr.
Fe ddeuai'r merlynod ynghyd o bob parth,?Rhai buain o Balleg, rhai dofion o'r Garth;?A Dic, asyn Dosia, yn rhwym dan ei sach,?A ddysgai ufydd-dod--ddydd gwyl y gof bach.
Fel cadben yn arwain ei fyddin i'r gad,?Neu hyf anturiaethwr yn chwilio am wlad,?Y dygai ei fintai drwy'r corsydd a'r mawn,?A'r awel yn chwerthin drwy'r nef wrth ei ddawn.
'Roedd ganddo storiau--rhai doniol bob un,?A llawer un daclus o'i wead ei hun,?Storiau ei garu a lodes y Plas?"Yn y got a'r gwt fain a'r siaced gron las."
Mi'i clywais yn tystio, a phwy wyddai'n well??Fod merlod y wlad yn ei adwaen o bell;?A rhedent pan gollent bedolau'n ddibaid?I'r fail at William i achwyn eu traed.
'Roedd William yn Gristion, a'i enaid bob dydd?Yn mwg yr hen efail yn gwynu mewn ffydd;?A llawer i noson ystyriem hi'n fraint?I glywed ei weddi yn nghyrddau y saint.
Bu'n iechyd i galon ac ysbryd y lle?Ei ddilyn i'r mynydd a'i wrando yn nhre';?'Roedd llwybrau cyfiawnder o hyd dan ei draed,?A bendith yn stor yn ei gynghor a gaed.
Mae'r afon o hyd yn myn'd drwy y lle,?A'r efail ar lawr, a'r gof bach yn y ne';?Ond adgof sy'n gofyn yn brudd ar ei hynt--?Pa'm na bae'r oes nawr fel yn yr hen oesau gynt?
G. AP LLEISION.
[Illustration: PENPARC.]
[Illustration: LLOCIO'R DEFAID.]
Ffynon y Brandi.
Ar ochr bryn yn Llywel lon?Mae'r ffynon loyw, lonydd,?A'i dyfroedd pur r'ont flas a blys?I hwylus wyr y mynydd;?O'r graig fe dardd ei phurol win,?Ar fin y ffordd mor handi,?Ni pherchir ffynon yn y plwy'?Yn fwy na Ffynon Brandi.
Er gwres yr haul a phoethder ha',?O! fel yr ia mae'r ffynon,?A pherlau grisial ar ei grudd?O ddydd i ddydd yn gyson;?Fe fethodd haul, a methu wna,?Fe ddigia wrth ei hoerni,?A gwel'd ei llun mewn dwfr oer?Wna'r lloer wrth Ffynon Brandi.
Yn nhymor haf canolddydd poeth,?Bu'n foeth i lawer crwydryn,?A llawer _gipsy_ ar ei chlun?A wlychodd fin ei phlentyn;?Bugeiliaid ac ymdeithwyr sy',?A gweithwyr hy' Rhys Dafis,?Yn mon y mawn a'u bara chaws,?Yn lapio naws ei gwefus.
Tafarndy yw o oes i oes,?Heb feddwdod, _noise_, na _nonsense_,?Nis gall cyfreithiau Prydain Fawr?Fyth dori lawr y _licence_;?Y graig yw _counter_ cryf y _bar_,?Ac ar ei gwar mae'r ffynon,?A Duw sy'n tynu o'r _machine_?Y gwin i'r daearolion.
Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,?A brith-goch ych Glasfynydd,?Y pony wyllt, a'r lodes lan,?A defaid man y mynydd,?A phlant boch-cochion, heblaw Toss,?A Rover, Moss, a Handi,?Pob un yn dyfod yn ei dro?I dapo'r faril frandi.
Pe bae masnachwyr Llundain fawr?Yn dyfod lawr i Gymru,?Ac i dafarndy'r Trianglas?I brofi blas y brandi,?Caent ruddiau fel y damasc coch,?Ac fel y gloch, fonwesau,?Ac iechyd hir i fagu m��r,?A chryfder yn ei lwynau.
Do, lawer gwaith am amser hir,?Pan yn rheoli'r heolydd,?Mi ddrachtiais inau wrth y _bar_,?Yn unig ar y mynydd;?Ar ol manylu ar ei min,?A sugno
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.