bannau hyn?Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
_Ystradgynlais._
W. R. WILLIAMS.
Breuddwyd Adgof.
Rhyw noson yn fy mreuddwyd,?Yn esmwyth es am dro?Yn ol i gwmwd tawel?Fy ngenedigol fro,?A gwelwn Bontygiedd,?Heb fwthyn Pegi gynt,?A rhoes ochenaid hiraeth?Wrth basio yn y gwynt.
Es heibio'n brudd fy nghalon?I Blasycoed ar daith,?Ond Siams ni chefais yno,?Na'r dall basgedwr chwaith;?Gwag imi yr aneddau,?Heb un o'r cwmni llon,?A throais tua'r afon?I holi helynt hon.
Bu amser arni hithau?Yn amlwg wrth ei waith,?A gwelwn ol llifogydd?Ar hyd ei gwely llaith;?'Roedd hen athrofa nofio?Fydenwog Llyn y Sgwd,?Yn awr yn ynys goedig?Yn nghanol y ddwy ffrwd.
Es eto i Gae Ffynon,?Yr Arch, fu'n net ddig��l,?Lle'r aem i chwareu _rounders_?Yn ddedwydd gyda'r bel;?Ond, Ah! cauedig ydoedd,?Ac nid oedd cyfoed cu?Yn aros gyda'i "fando"?I son am bethau fu.
Mi deithiais eto i fyny?At efail y gof bach,?Lle buom lawer canwaith?Yn ymddigrifo'n iach;?Ond carnedd oedd yr efail?A'i bentan erbyn hyn,?A'r hen of bach duwiolaf?A aeth yn gerub gwyn.
Fe welais Craig-y-defaid,?'Roedd hon yr un o hyd,?Heb gyfnewidiad arni,?Er holl dreigliadau byd;?Y defaid arni borent?Yn ddifyr yn eu hedd,?Ond mae'r hen fugail gofiwn?Yn awr yn llwch y bedd.
Diosgais fy esgidiau?Wrth droi i'r fynwent brudd,?Ac hiraeth aeth yn gawod?O ddagrau dros fy ngrudd;?Darllenais ar y meini?Feddargraff tad a mam,?Ac enwau torf o ffryndiau?Boreuddydd mwyn, dinam.
Mi es am dro i'r capel,?Anwylaf yw i fil,?Lle dysgais fyn'd a'm hadnod?I'r cwrdd a'r Ysgol Sul;?Mi holais dan y pulpud--?Ble mae'r proffwydi glan?A welais gynt yn llosgi?O'i fewn yn ddwyfol dan?
Y seddau yma godent?Wynebau ger fy mron,?Hen seintiau haner canrif,?Colofnau'r deml hon;?A d'wedais wrth fy nghalon,?Y tadau nid y'nt mwy,?Y nef ar hyn agorodd,?A gwaeddais--Dacw hwy.
Deffroais o fy mreuddwyd,?A'r dydd oedd ar y wlad,?Dechreuais feddwl allan?Y freuddwyd mewn tristhad;?Deallais wedi hyny?Nad oedd y freuddwyd brudd?Ond gweledigaeth noswaith?O wrioneddau'r dydd.
_Penygraig._
G. JAMES.
Can y Dwyfundodiaid.
Rhyw fyrdd a mwy na hyny,?'Does neb all ddweyd ond Duw;?Yw haeddiant Crist yn drymach?Na phechod dynolryw:?Pe buasai yn yr arfaeth?I fyn'd i uffern dan,?Fe olch'sai'r holl gythreuliaid?I gyd yu berffaith lan.
Er cwrdd a geiriau newydd,?I roddi ei glod i ma's,?Ac uno a'r holl angelion,?Ac etifeddion gras;?Heb enwi dim o'r unpeth?Ond unwaith yn y gan,?Hyd eithaf tragwyddoldeb,?'Ddaw 'glod E' byth yn mla'n.
Pe bai angelion nefoedd?Bob un yn myn'd yn fil,?Ac enill rhyw fyrddiynau?Bob mynyd yn y sgil,?I roddi ei glod Ef allan?Am farw ar y pren,?Hyd eithaf tragwyddoldeb,?'Ddoi dim o'r gwaith i ben.
'Tai sant am bob glaswelltyn?Sydd ar y ddaear lawr,?A mil am bob tywodyn?Sy' ar fin y moroedd mawr,?Tafodau gan y rhei'ny?Fwy na rhifedi'r dail,--?Rhy fach i ddweyd gogoniant?Sy'n haeddiant _Adda'r ail_.
'Tai un o'r cor nefolaidd?Yn dod o'r nef i lawr?I rifo llwch y ddaear?A gwlith y borau wawr,?Fe allai wneuthur hyny?Mewn 'chydig iawn o bryd,?Dweyd haner haeddiant Iesu?Nid all y cor i gyd.
Dywedodd Duw ei Hunan?Wrth Abram yn ddiffael,?Lai lai i arbed Sodom,?Pe buasent yno i'w cael;?Ni dd'wedodd, ac ni ddywed,?Wrth un pechadur trist,?Ddim llai i gadw enaid?Na haeddiant Iesu Grist.
Mae dyndod glan i'w weled?Yn mherson Iesu hardd,?Pan ddaeth y milwyr ato,?A'i weled yn yr ardd,--?Eu cwympo 'ngwysg eu cefnau?A gair o'i enau, clyw,?Sy'n dangos i ni'n eglur?Ei fod yn gywir Dduw.
Mae 'ddoliad iddo'n perthyn,?'Nol dim ddeallais i,?Gan holl drigolion daear,?A lluoedd nefoedd fry:?Os gwir a dd'wed y Beibl,?Sef genau'r Ysbryd Glan,?Pa fodd gall Dwyfundodiaid?I ddwyn eu credo 'mla'n?
Fe rodd y Tad ei Hunan?Y cyfan yn ei law,?Sydd yn y nef a'r ddae'r,?A chymaint ag a ddaw:?Athrawiaeth gyfeiliornus,?I'w chredu nid oes llun,?I'r Duw anfeidrol _fentro_?Y rhai'n yn nwylaw dyn!
Os credai'r Dwyfundodiaid,?Rhaid i mi ddwyn yn mla'n?Ryw grefydd groes i'r Beibl,?A iaith yr Ysbryd Glan,?Sy'n dweyd mai'n enw'r Iesu?Y plyga pawb o'r bron,?Sydd yn y nef a'r ddaear,?A than y ddaear hon.
Os nad oedd ond creadur,?Mae gan iuddewon sail?I ddweyd yn ngwyneb Beibl?Na ddaeth mo _Adda'r ail_:?Yr achos fod y rhei'ny?Yn gwrthod Iesu, clyw,?Yw eisieu gallu credu?Ei fod yn berffaith Dduw.
'Dyw'r Tad o ran ei Berson?Yn barnu neb o'r byd;?Fe rodd bob barn yn gryno?Yn nwylaw'r Mab i gyd:?Os gwir dd'wed Dwyfundodiaid,?Nad oedd ond Dyndod, clyw,?Rhaid iddo farnu'r Beibl?Am ddweyd ei fod yn Dduw.
Mi wn i angeu gredu?Am Iesu ar y gro's?'Run peth a'r Dwyfundodiaid,?Mai Dyn oedd e'n ddi-os;?Newidiodd Hwn ei feddwl?Ar foreu'r trydydd dydd,--?Efe oedd wedi'i rwymo,?A'r Iesu'n rhodio'n rhydd.
Cynghora i'r Dwyfundodiaid?I gredu ar sicrach sail?Mai dyn oedd Adda'r cyntaf,?Duw-ddyn yw _Adda'r ail_;?Ei Ddyndod oedd yr aberth?Offrymwyd drosom ni,?A'i Dduwdod oedd yr allor?A'i daliai ar Galfari.
Nid all'sai Duw dim dyoddef,?'Doedd ganddo Ef ddim gwa'd,--?Heb ollwng gwaed, medd Beibl,?'Doedd dim foddlonai'r Tad;?Ei gyfraith lan droseddwyd,?A'r bai oedd ar y dyn,--?Cyn gwneud y rhwyg i fyny,?Rhaid clwyfo'r Mab ei Hun.
O credwch fod yr Iesu?Mor uchel Dduw a'r Tad,?Mor isel Ddyn a ninau,?Yn meddu cig a gwa'd;?Bydd 'rundeb yn rhyfeddod?I dragwyddoldeb hir,--?'Dall neb ei gyflawn ddirnad,?Ac eto mae yn wir.
'Rwy'n credu iddo ddyfod?O gariad lawr o'r nef,?'Rwy'n credu fod y Duwdod?Yn wastad ynddo Ef;?'Rwy'n credu fod e'n ddigon?I ateb cais y Tad,?A bod maddeuant cyflawn?I'r duaf yn ei wa'd.
Dych'mygaf wel'd angelion?A'u calon bron yn brudd,?Wrth fyn'd i uffern obry?I
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.