angel gyda Sh?n.
Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,?Yn cilio tua'r pant,?Ac yntau dianc fry i'r bryn,?Yn cilio rhag y plant.?Diniwed yw, yn ofni'r byd?Ei wawdio ar ei hynt,?Tra'n gafael mae ei serch o hyd?'Nol yn yr amser gynt.
'Does ganddo awrlais yn y byd,?Na modd ychwaith i'w chael,?Ond adnabydda ef o hyd?Yr amser wrth yr haul;?Proffwydo'r tywydd teg o draw,?Ni fethodd ef erio'd,?A chanfod mae y gawod wlaw?Ddiwrnodau cyn ei dod.
Mae yn y capel erbyn pryd?Ar fore Sabboth Duw,?Y mae ei weddi dawel, fud,?Yn gwneyd ei fawl yn fyw;?Ac os dechreua cennad I?n?Ddarlunio gwerth y gwaed,?Er heb Amen, canfyddir Sh?n?Yn codi ar ei draed.
Aeth dynion ieuainc caled, hy',?Er cael difyrrwch ffol?Un hwyr i wawdio wrth ei dy,--?Ond troisant yn eu hol?A braw a gwelwder ar bob gwedd,?Can's torrodd ar eu clyw--?Swn Sh?n o ymyl gwlad yr hedd?Yn galw ar ei Dduw.
Fry yn yr unig anial gwm?Dan goedydd cnau ac ynn,?Y mae adfeilion bwthyn llwm?Yng nghanol drain a chwyn;?A Gwilym Sh?n a ddaw bob dydd?I'r waen uwchlaw y ty,?Ac edrych ar yr adfail bydd?A chofio'r dyddiau fu.
Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,?Am ofyn im paham,--?O! gwel yn adfail dan y llwyn,--?Hen fwth ei dad a'i fam.?Bu yna'n chwareu'n blentyn llon,?Fe dyfodd yna'n ddyn,?Mae gweld y lle yn glwyf i'w fron,?Galara wrtho'i hun.
Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,?A'r drysni lle bu'r tan,?Bu yno'n gwrando swn y gwynt,?Bu yno'n canu can,?A chyda'r teulu lawer gwaith?Bu'n plygu ar ei lin,?Cyn gwybod am ofidiau'r daith?Ar amgylchiadau blin.
Dan ormes colli wnaeth ei dad,?Y cartref llawn o hedd;?Yn fuan ei rieni mad?Orweddent yn y bedd.?Fe garai eneth dros y bryn?A chariad bore oes,--?Canfyddodd hithau'n mynd 'r glyn?A'i gafael yn y groes.
Ei galon dan y saethau dwys?A dorrai fel ei rudd,?Ei fywyd oll o dau y pwys?Ai beunydd yn fwy prudd,?Ond daw drwy'r storom waetha 'rioed?Ar fore gauaf llwm?I weld yr adfail dan y coed,?Ac wylo tua'r cwm;?A dyry dro i ben y bryn?Yn llaw clwyfedig serch,?I weld o draw y bwthyn gwyn,?Hen gartre'i gariad ferch.
BEN DAVIES.
Llyn y Fan.
(GWATWARGERDD).
Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,?'Does dim yn eu blino tra'u dwylo yn rhydd,?Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r Banau?I weled y Llynau--dwr llonydd.
Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,?Coed lemon, coed 'falau, yn flodau i'r brig,?Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwen?Hwy ledan' fel Eden fawledig.
Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,?Y riw a'r rhosmari yn tyfu o'r don;?Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,?Ac amryw o lysiau gwyrddleision.
Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanod?Yn llusgo'r llyswenod, llwyth hynod, o'u lle;?A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,?Wrth neidio at blufod y Blaene.
Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,?Na'u cofio 'nol eu canfod yn nghysgod y gwlydd;?Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u gwelsom?Yn nofio yn nghrochan y Crychydd.
Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath rali?Wrth dreulio ein carne drwy'r cernydd o dre,?Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,?Cewch wel'd yr un olwg a nine.
PWY YW'R AWDWR?
Ffrydiau Twrch.
Mae'r testyn wedi'i enwi
Ffrydiau Twrch,?A'r gronfa wedi tori
Ffrydiau Twrch;?Mae'r dyfroedd rhwng y cerig?Yn ffrydio'n grych berwedig?O rywle anweledig?Ym mol y bryn mynyddig?Uwchlaw'r Cellie hyllig,?A'i dwrf fel taran ffyrnig?Ar godiad tir rhwygedig,?A chreigiau maluriedig?Sydd yno'n rhesi unig?O gedyrn arfogedig?Yn gwylio'r dderwen dewfrig?Eistedda'n llwyn caeadfrig,?A'r pigau melldigedig,?A'r blodau caboledig,?A noda fan synedig
Ffrydiau Twrch.
A welsoch chwi y Ffrydiau?
Ffrydiau Twrch;?A daniwyd chwi gan donau
Ffrydiau Twrch??Os naddo, ewch i'w gweled?Yn gyru dros y gwa'red?Yn ewyn gwyn i waered?Gan boeri ar eu pared,?A lluchio'r meini'n lluched?O hirbell yn ddiarbed;?Y cenllif gwyllt wrth fyned?Sy'n llamu bob yn llymed,?Gan rhwygo mal rhyw oged?Y tiroedd, gan ddweyd, Tyred?I'r moroedd er ymwared,?Fe chwala'r bryn cewch weled,?A'i feini ant mor faned?A hoelion Tudur Aled;?Mac Twrch yn methu cerdded?O achos ei mawr syched,?A chwter James, er gwyched,?A safant oll nes yfed
Ffrydiau Twrch.
O'r Mynydd Du daw allan
Ffrydiau Twrch,?Yn fwrlwm gloew purlan,
Ffrydiau Twrch,?Gan rhuo, rhuo beunydd?A llu o ladron lledrydd?A'n gwlwm gyda'u gilydd?I chwilio am gorlenydd?Y defaid dofion beunydd,?A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,?A'u crogi rhwng y creigydd,?A'u gwerthu er eu gwarthrudd,?A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,?Ac arswyd yn y corsydd?Na ddaw eu gwir berchenydd?I wybod yn dragywydd?Am wal y drwg ymwelydd;?O! na bai i'r llifogydd?I beidio bod yn llonydd?Nes llifo dros eu glenydd,?A rhoddi pobo fedydd,?A boddi'r lladron llwydrudd,?Mi alwn hyn yn grefydd
Ffrydiau Twrch.
[Illustration: FFYNON-Y-CWAR.]
[Illustration: PONT-YNYS-TWLC.]
Parha i darddu'n gyson,
Ffrydiau Twrch,?Na syched byth dy ffynon,
Ffrydiau Twrch,?Ymlaen a thi, gan olchi?Y llygredd a'r budreddi?Sydd yn Nghwmtwrch yn croni,?Ac wrth y _George_ boed iti?I aros o dosturi;?Hen Waterlw y cewri?Boed iti i ddifodi?Hen olion gwaed oddiarni,?A chario byth i golli?Yr hen esgidiau mawrfri?A gawsant eu pedoli?Fel carnau meirch Napoli?I gicio llawer bwli--?Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,?A llawer wedi tewi;?O ganol eu drygioni?Boed iti loewi a gloewi?Y llefydd ffordd y llifi,?Nes bo Cwmtwrch yn codi?Ar unwaith o'i drueni?Mor lan, mor bur a chenlli
Ffrydiau Twrch.
PWY YW YR AWDWR?
Angladd ar y Mynydd Du.
Yn yr hon ateser pan fyddai brodor o Llanddeusant farw yn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.