Cerddir Mynydd Du | Page 5

Not Available
y cerrig calch?
Bu yn hir yn nwfn gysgodion?Bro y gwyll--heb wawr na rhos;?Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau?Unig yn rodfeydd y nos.
Carwn wybod peth o hanes?Gwlad heb flodyn ynddi hi,?Heb un deryn bach yn canu;?Heb un ganghen uwch ei lli.
Ond fe geidw ei chyfrinach,?Ni fyn son am ddim sy'n ol;?'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;?'Aros' ydyw hanes dol.
Dywedir fod ei dyfroedd gloew?Yn newid lliw cyn delo gwlaw;?Dyma broffwyd llwyd y Blaenau--?W��l y ddrycin cyn y daw.
Ni wyr hi ddim am dymhorau,?Welodd hi erioed mor ha';?Ni fu gauaf yn ei rhwymo?Yng nghadwynau oer yr ia.
Y mae rhamant yn ei hanes,?Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,?Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd?Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.
Afon fechan, megis tithau,?Minau garwn deithio'n rydd,?Drwy gysgodion, i oleuni?Pen y daith yng Ngwlad y dydd.
_Corrig Haffes._
MYFYR MAI.
Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.
Gem y dd?l yw'r tlws flodeuyn,?Wisga'n fore ar ei bron,?Mae'n gwresawu pob pelydryn?Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,?Natur fu yn paentio'i aeliau?Gyda phluen awel rydd,?Wrth ymolchi mewn pelydrau?Gwyna amrant llygad dydd.
Lygad siriol lawn cyfaredd?Yn agored o fy mlaen;?Ei fychander yw ei fawredd,?A'i holl rwysg yw bod yn blaen;?Try i ffurf a lliw yr huan?Wrth gwmnia gydag ef,?Er dadblygu'u lygad gloew-lan,?Aros wna yn nh��s y nef.
Lygad effro, nad yw'n hepian?Nes yr huna anian dlos,?Yn ei wynder, wrtho'i hunan,?Gwena'r dydd a chysga'r nos;?Dysgwn wers y glan flodeuyn,?Yn y gwlith ei lygad ylch,?Fel na chenfydd un brycheuyn?Yn y llygaid sydd o'i gylch.
Lygad dydd, a chanwyll eurliw?Yn ei ganol, megis tan,?Ai nid heulrod glaswellt ydyw?Egyr ag ymylwe man??Er ei fod yn nghanol tyrfa?O'i wyn-frodyr ar y waen,?Wrth yr un ni chenfigena,?Mae ei burdeb yn ddi-staen.
Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa?Ben y clawdd am sylw'r byd,?Mewn dinodedd y cartrefa,?Gyda'r blodau lleia'i gyd;?Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwydd?Ddysga wersi i lawer un,?A ddisgynodd i ddinodedd?Wrth wneud duw o hono'i hun.
Dena lygad rhyw forwynig,?Sycha'i sendyl yn y gwlith,?Wrth dramwyo'r llwybr unig?Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;?Plyga'n wylaidd i anwylo?Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'?Am fod arall yn blodeuo?Ar hoff fedd ei thad a'i mam.
Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,?Gan ei adael ar y dd?l,?Wrth fiarwelio, 'rwyf yn credu?Ei fod yn syllu ar fy ol;?O! am fyw ei fywyd gloew,?Gyda chalon onest, rydd,?Fel y gallwn, cyn fy marw,?Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.
GWILYM WYN.
O'r Niwl i'r Nef.
[Achlysurwyd y gan dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau crefyddol.]
Rwy'n mynd, fy nhad a mam,?I wlad na ddof yn ol;?'Rol teithio llawer cam?Dros lawer bryn a d?l.?Rwyf wedi blino'n lan,?Fy nerth sydd yn gwanhau,?Mae afon o fy mlaen,?A niwl o'm cylch yn cau.?Tuhwnt i'r Mynydd Du,?Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,?A thuag atti hi?Rwy'n mynd, fy mam a nhad.
Rwyf wedi colli 'm ffordd,?Fy ffryndiau sydd ar goll,?A minnau yn y nos?Yn chwilio am danynt oll.?Ond nid oes un a ddaw?I'm cwrdd yr ochr hyn,?Ond mae yr ochr draw?Yn llawn o engyl gwyn.?Ac fel yn dweud i gyd,?Na chaf fi unrhyw gam,?Rwy'n mynd i'r bythol fyd,?Ffarwel, fy nhad a mam.
Mae afon o fy mlaen,?Rwy'n clywed swn y don;?Rwy'n gweld y rhai sy'n byw?Tuhwnt i ffrydiau hon.?Mae melus hun yn dod,?'Rol dydd o ludded maith,?A minnau 'n teimlo fod?Gorphwysfa ar ben y daith.?I groesi 'rochr draw,?Nid oes ond megis cam,?Rwy'n mynd i'r byd a ddaw,?Ffarwel, ffarwel fy mam.
WATCYN WYN.
Gwilym Shon.
Mae Gwilym Sh?n yn awr yn hen,?Mae'r eira ar ei ben,?Yn araf ddisgyn dros ei en?Nes gwneyd ei farf yn wen;?Ar fin y nant mae'i fwthyn tlawd?Yng nghwmwd godreu'r bryn,?Ni wyr rhwysgfawredd pell a ffawd?Ddim am y bwthyn hyn.
Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,?A chysgu'n esmwyth wna,?Hyd nes daw'r wawrddydd drwy y dellt?I ddywedyd "Bore da;"?Ac yn ei goleu daw i lawr,?Ac ar ei liniau trwm?Gweddio wna yn ngoleu'r wawr?Gerllaw ei wely llwm.
Un hoff o'r mynydd yw efe,?Bydd yno'n fore iawn?O olwg pobman ond y Ne',?Rhwng y twmpathau mawn;?Heb wybod am rwysgfawredd dyn,?Na moethau'r palas gwych,?Mae yno'n siarad wrtho'i hun,?A bwyta'i damaid sych.
Bu ef mewn gweddi lawer gwaith?Yng nghysgod llwyn o frwyn,?A bu yr awel ar ei thaith?Yn ewrando ar ei gwyn.?Fe safodd ganwaith ar y bryn?I gofio'r dyddiau gynt,?Ac mewn myfyrdod elai'n syn?Cyn cychwyn ar ei hynt.
Yn fore, bore, bydd ar daith?Yn rhodio'i lwybr cam,?A chadd foreufwyd lawer gwaith?Yn mwthyn bach fy mam;?Fe wyddai mam heb unrhyw gais?Pa bryd oedd Sh?n am fwyd,?Hi adnabyddai wrth ei lais,?Ac wrth ei wyneb llwyd.?A phan yn bwyta'i damaid mwyn,?A ninnau'r plant gerllaw,?Murmurai Sh?n mewn banner cwya?Am bethau'r byd a ddaw.
Wrth rodio'r caeau 'nol a blaen?Nid yw am gwrdd a'r un;?Fe groesa ef ar draws y waen?Er cael bod wrtho'i hun;?A siarad mae pan ar ei daith?O hyd mewn distaw d?n,?Nes wy'n dychmygu ambell waith?Fod
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.