Cerddir Mynydd Du | Page 4

Not Available
Trwyth.
Marchogion a groesent y tonau yn awr?Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r haf ar y llawr,?A bloeddiai'r Gwyddelod--"Daeth dydd talu'r pwyth,?Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."
Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,?A'r Twrch a'i saith berchyll a glywent y swn.?A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,?A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.
Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr?O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y wawr.?A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,?Gan wenwyn llysnafedd o enau Twrch Trwyth.
Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt?Troes Twrch ei gyfeiriad a'i wrych yn y gwynt,?A'r helwyr yn dilvn--ni fu y fath lwyth?O wyn ar y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.
Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,?Bu dychryn drwy'r dalaeth ac alaeth a gwaedd.?A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,?Ddifrodwyd o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.
O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,?Ac helwyr a helgwn yn dilyn yn dyn.?Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,?A ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.
Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,?Llwynmoch a Chwmclyd a dialwn ein cam,?A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un llwyth,?Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."
Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,?Drwy'r erchyll ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.?Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol pwyth?Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.
[Illustration: CWMGIEDD (RHAN ISAF).]
Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,?(Mae'r cread yn deilchion fan hono yn awr).?Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth?Yn swn dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.
Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,?A rhanwyd ei berchyll, ond ef yn ei wanc?A groesodd i'r Tywi--yr olaf o'r wyth,?A'r awyr yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.
A misoedd a biwyddi o hela a wnaed?Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a gaed,?Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,?O'r Hafren i Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.
Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,?Ac Arthur yn Nghernyw mewn cwsg byth mae e'.?Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a llwyth?Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.
G. AP LLEISION.
Afon Giedd.
Mae afon chwyrn y Giedd?Yn tarddu yn y mawn,?Daw ar ei phen i waered?Dros greigydd enbyd iawn;?Ar gefn ei chroch raiadrau,?Ddiwrnod mawr ei lli,?Daw darn ar ddaro o'r creigiau?Yn 'sglyfaeth gyda hi.
Hi dwmla bobls mawrion,?Dynelli o bob rhyw,?A chaiff ei hadgyfnerthu?Gan afon rymus Cyw;?Mae'n myn'd dan wraidd y coedydd,?A charia'r rhai'n drachefn,?A diorsedda'r pontydd,?Nes gwneud y lle'n ddidrefn.
Un boreu yn Gorphenaf,?Mi gofiaf yn ddilai,?Pan ddaeth ei llif dychrynllyd?I gym'ryd wyth o dai;?Y Cwm sy'n ofni'r afon?Byth wedyn ar y gwlaw,?A'r nos ni feiddia gysgu?Rhag arswyd llif a ddaw.
Ofnadwy ar ein clustiau?Yw swn ei chenllif hi,?A'r cerrig mawrion fflachiant?Yn wreichion yn ei lli';?Ei tharth a gwyd i fyny?Yn gwmwl tua'r nen,?A gwaedda yn gynddeiriog,?'Mi fynaf fod yn ben.'
Mae pawb yn cyfreithloni?Yr enw gafodd hi,?A chiaidd, ciaidd ydyw?O fewn ein dyddiau ni;?Ond Ef sy'n dal y wyntyll,?A'r dyfroedd yn Ei law,?Ostega ei chynddaredd?A'r gair bach hwnw, 'Taw.'
Os rhuo mae y Giedd?Am gael ei ffordd ei hun,?Da genym fod ei Harglwydd?Yn noddfa byth i ddyn;?Mae'r plant sydd ar ei glanau?Yn anwyl ganddo Ef,?A diogel yn mhob dryccin?Yw etholedig nef.
Wrth wel'd y gwyllt lifeiriant?Yn pasio drws fy nhy,?Mae'r wers o flaen fy llygaid,?'Mod inau fel ei lli',?Yn myn'd i'r goriwaered,?I'r tragwyddoldeb pell;?O! Arglwydd, pan gaf orphwys,?Rho imi wlad sydd well.
_Cwmgiedd._
HOWELL POWELL.
Ffaldau Moel Feity.
Wrth droed y Foel arddunol,?Ger murmur Tawe fwyn,?Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,?Rhwng meini braf a brwyn;?O'u cylch mae'r bryniau uchel?Yn gwenu uwch eu pen,?A'r Fan yn spio arnynt?Drwy gymyl yn y nen.
Mor swynol ydyw canfod,?Ar foreu hafddydd gwyn,?Y defaid dirifedi?Yn britho'r bryniau hyn;?Y'mysg y cerrig garw?Sy'n gestyll rhag y gwynt,?Llochesant rhag ystormydd?Dramwyant ar eu hynt.
Amaethwyr Crai a Llywel,?Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,?A foreugyrchant yma,?Mi welir neb yn ol;?Daw hefyd wyr Llanddeusant?Ar eu ceffylau bach?I geisio'r defaid crwydrol,?A'u dwyn hwy adre'n iach.
Ceir gweled gwyr Glyntawe?A'u gyroedd yma'n dod,?Ni fu y fath brysurdeb?Mewn unrhyw fan erio'd:?Pob un a'i gi a welir?Yn casglu'r praidd o'r bron,?A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,?Rhwng muriau cedyrn hon.
Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,?Bydd pawb yn brysur iawn,?Pob un yn dal ei eiddo?I'w Ffald ei hun a gawn;?Os digwydd ambell ddafad?Estronol yma ddod,?Bydd llawer llygad arni?Yn ceisio gwneud ei 'nhod.'
Wrth droi a thrafod llawer?Fe welir ambell un?O'r defaid, dros y muriau,?Yn cym'ryd ffordd ei hun;?Ac ar eu hol yn sydyn?Bydd tyrfa fawr o gwn,?A'r lle yn haleliwia?Byddarol gan y swn.
Doethineb cenedlaethau?O ffermwyr yma fu,?Yn traethu am hanesion?Helyntion Mynydd Du;?Adroddent am wrhydri?Yr hen fugeiliaid gynt,?Ac enwau'r cwn a glywir?O hyd yn myn'd drwy'r gwynt.
Mor ddedwydd ydyw bywyd?Cyffredin gwyr y wlad,?Yn heddwch y mynyddoedd?Mae iddynt wir fwynhad;?Fe gollir y bugeiliaid,?Rhai newydd ddaw o hyd,?Ond erys y mynyddoedd?Heb newid oesau'r byd.
_Ystradgynlais._
LLEWELYN JONES.
Y Llynfell.
Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw?Castell Craig-y-nos.
Fuoch chwi wrth Danyrogof??Welsoch chwi y temlau cain??Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell?Fel organ gref yn llanw rhain?
Welsoch chwi wrth droed y clogwyn?Fel y rhuthra ffrwd mor falch?I oleuni o dywyllwch?Llwybrau cudd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.