f��l a blith.
'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,?Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,?Os yw'r llwybr yn gerygog,?Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;?Os yw cefnfor f'oes yn arw,?Yn ddiangol af i'r lan,?Daw y porthladd clyd, dymunol,?I fy ngolwg yn y man.
Parch. D. ONLLWYN BRACE.
Pen y Cribarth.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,?I ben y Cribarth uchel??I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,?Ar war y clogwyn tawel,?Ac yfed iechyd dros ei fin,?O gwpan gwin yr awel.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,?I ben y Cribarth Talfrig??I edrych ar y fywiog fro?Sydd dano yn weledig,?Ardaloedd eang hyd y m?r?Yw'r oror estynedig.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,?I ben y Cribarth eto??I dremio draw i ben y Fan,?'Does dim ond anian yno--?Yn fynydd mawr, a defaid man,?A nentydd glan yn llifo.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,?I ben y Cribarth golau??Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn?Ddaeargryn yu y creigiau,?Cawn ddarllen ar bob careg bron?Hanesion o'r hen oesau.
Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,?I ben y Cribarth beunydd,?Ac uno ym mheroriaeth lon?Alawon yr ehedydd;?Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw,?Pwy na ddaw yn addolydd?
_Maesyderi, Abercrave._
T. J. DAVIES (_Iscoed_).
Yn y Mawn ar ben y Mynydd.
Ar y mynydd yr emynaf,?Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;?Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Awel bur a haul y boreu,?Yma geir fel am y goreu,?Yn rhoi yni i'r awenydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ond, er hyny, nid yr anial?Mawnog hwn yw'r man i gynal?Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y bryniau mawr wybrenol?Mae dystawrwydd mud, ystyriol,?Yn sobreiddio naws boreu-ddydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ni cheir cor yn chwareu carol?Yn y llwyn yn llu awenol;?Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Chwery _un_ a chywir anian,?Ei grwth unig wrtho'i hunan;?Cu iawn ydyw can ehedydd?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ef yw cerddor dor y daran,?Difraw troedia fro y trydan;?Bwria'i unawd o'r wybrenydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
[Illustration: GORED Y GIEDD.]
[Illustration: TREM I'R MYNYDD DU.]
O bell clywir y gog dirion,?Gyda'r awel o'r godreuon,?Efo moliant haf ymwelydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Draw ac yma drwy y cymoedd,?Cri a glywir o'r creigleoedd,?Bywiog alaw y bugeilydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Truman cribog, muriog, mawrion,?A'u hesgeiriau yn ysgyrion,?Yma wyliant uwch y moelydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Metha'r haf a'i fwynaf wenau,?Wyrddu llen i ben y banau;?Oeda'r gauaf yn dragywydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ymherodraeth y mawr wywdra,?Heb eginyn bywiog wena;?Lle ni chawn na llwyn na chynydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ac ar fynwes cwr y fawnog?Torwyd lluniau traed y llwynog,?Heibio hwylia yn ysbeilydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y clogwyn mawr cilwgus?Haf awelon sydd yn felus,?A chael enyd fach o lonydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
Mwynhau heddwch y mynyddoedd,?A mwynderau y mawndiroedd,?Sy'n baradwys iawn i brydydd,?Yn y mawn ar ben y mynydd.
GWYDDERIG.
Bugail y Mynydd Du.
Rhys oedd bugail y Mynydd Du,?A theilwng fab y wawrddydd,?Yn nghwmni Toss, ei hanes fu?Fel chwedl ar y mynydd.
Arferai godi gyda'r haul,?Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,?A mynai yn ei belydr glan?Gael bedydd tan bob borau.
Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu?Fe ddeadellai'r defaid,?A Toss yn barod, wrth ei law,?I wneud ei arch a'i amnaid.
Y gauaf fel yr haf o hyd?Bu ef yn ffyddlon iddynt,?Wynebai storm Bwlch-adwy'r-gwynt,?A dryccin eira, drostynt.
A chalon ysgafn oedai'n hir?Yn awyr iach y bryniau,?Tra'r awel bur a'i phwyntyl llon?Yn lliwio'n goch ei ruddiau.
Fe garodd edrych dros y dd?l?Draw i bellderau'r mynydd,?A gwrando swn y nentydd byw?Yn galw ar eu gilydd.
Fe godai'i lais mewn hapus gan?O ddiolchiadau calon,?A chododd allor lawer gwaith?Ar ben y Cerrig Coegion.
Ar ben y mynydd--pell o'r dref,?Nef oedd agosaf iddo,?Newyddion byd a aent yn hen?Wrth deithio tuag ato.
Felused iddo yn yr hwyr?Oedd cysgod clyd ei fwthyn,?A Men ei briod wrth y tan?Ar aelwyd y Twyn Melyn.
Aeth llawer gauaf dros ei ben?Yn stormydd ar y bryniau,?Cyn iddo groesi dros y glyn?I wlad yr hafddydd golau.
Mae Men ac yntau yn y bedd,?Ac adfail yw y bwthyn,?Ond gwena'r haul a brefa'r praidd?O hyd ar ben Twyn Melyn.
_Abercrave._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
Hela'r Twrch Trwyth.
(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at Arthur i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r helfa. Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r Iwerddon drwy Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond diangodd y Twrch a'i fywyd ganddo.--MABINOGION.)
Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw Cwmtwrch.
Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,?A'i swn dros y moroedd adseiniodd yn syn,?A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,?Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.
Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,?A dewrion gwyr Llydaw, a Norman a Ffrainc,?A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant ac wyth,?Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.