Ceiriog | Page 6

John Ceiriog Hughes
mawr.
Disgynnai 'r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,?A llosgi 'r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;?A gwylio 'r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,?Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau 'r wlad,?A chwsg a ddaeth i esmwythau
Ei chystuddiedig dad;?Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai 'r oleu wawr,?Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
Yn swn yr hen Feibl mawr.
Disgynna 'r gwlaw, ac eto 'r gwynt
A rua yn y llwyn,?Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn;?Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr?Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.
DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN.
O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:?Am danat ti Walia, ar for ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.?Cyfeiriais fy nghamrau i'r ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;?Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,?A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.
Ar dywod yr anial bu ol fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;?O'r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
I wledydd y mel a gwinllanoedd y gwin;?Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;?Mi groesais y mor i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,?Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.
ADDFWYN FIWSIG.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,?Gwenferch gwynfa ydwyt ti;?Pan anedli, adfywiedig
Awel haf ddaw atom ni.
Gauaf du helbulon,
Droi yn ha;?Danat rhew y galon,
Toddi wna, toddi wna.?Dafnau melus bro gogoniant,?Yn dy lafar di ddisgynnant;?Blodau Eden yn ddiri',?Dyfant, wenant, beraroglant,?Yn dy lais a'th wyddfod ti.?Nefol ferch ysbrydoledig,?Ti sy 'n puro 'r fron lygredig,?Ti sy 'n llonni 'r cystuddiedig.?Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
Gwenferch gwynfa ydwyt ti.
Y CANIADAU.
Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth heblaw caneuon bychain o'r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw'r Caniadau. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i'r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw?carwriaeth ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gad yn galw, fe'u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw'n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a'u cenedl.
BUGEILIO 'R GWENITH GWYN.?ALAW,--Bugeilio 'r gwenith gwyn.
Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodau 'n dryfrith,?I gadw 'r adar bach ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.?Rho'i ganiatad i'r deryn to,
A'r asgell fraith gael disgyn;?Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.
Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:?Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth??Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i'w gweddi;?Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
Yn meddwl am roi iddi.
Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;?A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi??Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A'r heulwen yn haelionus;?Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia'th frawd anghenus.
MAE 'N GYMRO BYTH.?ALAW,--O Gylch y Ford Gron.
Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gar ei wlad ddinam;?Ac ni fu hwnnw 'n Gymro 'rioed,
A wado fro ei fam.?Aed un i'r gad a'r llall i'r mor,
A'r llall i dorri mawn;?A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.
Cydgan: Does neb yn caru Cymru 'n llai,
Er iddo grwydro 'n ffol;?Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol.
Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi 'n hir,?Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,?Mae 'r cof am dad a mam yn mynd
I'r bwthyn yn y ddol,?A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw 'n ol.
Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mel;?Aed yn ei longau ar y mor,
Er maint o'r byd a wel;?Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio ser y nos,?Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.
MI WELAF MEWN ADGOF.?ALAW,--Difyrrwch Arglwyddes Owen.
Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,?A'r afon dryloew yn ymyl y fan:?O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,?A'r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.?Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,?Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;?Rwy 'n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,?A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.
Rwy'n gweled y defaid a'r wyn ar y bryn,?Rwy 'n gweled gwynebau sy 'ngwaelod y glyn;?Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,?Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.?O sued yr awel, a rhued y don,?Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,?Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,?Yng Ngwalia mae 'r galon ple bynnag yr awn.
DIM OND UNWAITH YN
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 23
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.