Ceiriog | Page 5

John Ceiriog Hughes
bryniau ban,?Pur feddyliau am y nefoedd
Ddont eu hunain i bob man.
MAE JOHN YN MYND I LOEGER.
Y mae hen don wladol o'r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i'w canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi a'r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn ddyweyd am y gan ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.
Mae John yn mynd i Loeger,
A bore fory 'r a;?Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny 'n dda;?Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,?Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau,
I'r gist sydd ar y llawr;?Yn llon gan feddwl gweled
Gwychderau 'r trefydd mawr.?Nis gwel e 'r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist;?Na 'r Beibl bychan newydd
A roddwyd yn y gist.
Yn fore, bore drannoeth,
Pan gysgai 'r holl rai bach;?Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu 'n iach.?Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i'w wneyd -?Fe gawsai aros hefyd,
Pe b'asai 'n meiddio dweyd.
I gwrdd y tren boreuol,
Cyn toriad dydd yr a, -?"Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
O bydd yn fachgen da!?Y nef a'th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;?Paid byth anghofio 'th gartref,
Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."
BUGAIL YR HAFOD.?ALAW,--Hobed o Hilion.
Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,?A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd yd;?Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,?Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,?Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion?Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.
Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad?Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;?Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,?Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lan y barth,
Deued a ddeuo, anian dynn yno,?Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth?I'r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.
Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddilyth,?Ond dychwel wna'r wennol yn ol i'w hanwyl nyth;?A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,?Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,?Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio?Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.
TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.
Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.
Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw,
Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;?I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.?Ymwelwodd ei gwefus--ei llygaid droi 'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;?Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;?Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.?Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,?Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
Er ennill ieuenctid i'w afael -?Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;?Dymunai 'n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;?Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;?Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith?Do, clywais hyawdledd--er teimlo ei rym,
Mewn effaith ni lyn ei rybuddion;?Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y mor,
Yn chware a chreigiau peryglon;?O'm amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;?Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,
Ond tra ar y dibyn echryslon?Atelir fi yno gan lais o fy ol, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
Y tanllyd lythrennau "NA PHECHA;"?Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef -
"Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;"?Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I'm hatal ar ffordd anuwiolion,?Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
GWYN, GWYN YW MUR.
Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,?O'i bared tyf rhosynau coch a gwyn;?Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw -?Tu fewn mae'r ferch, fy nghariad wen, yn byw.
Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR.
[Mae y gan hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, ar y dydd a'r awr grybwylledig.--J. C. H.]
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;?Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn;?Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,?Gan dynnu 'r wylo iddi' hun,
A darllen y Beibl
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 23
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.