Ceiriog | Page 7

John Ceiriog Hughes
Y FLWYDDYN.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Awn i fyny 'r cymoedd cain;?Awn i ogli 'r peraidd borwellt
Llysiau 'r mel a blodau 'r drain.?Dim ond unwaith yn y flwyddyn
Gwena 'r ddaear oll fel gardd;
Awn aan dro, tua bryniau 'n bro?Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Pwy na chwery, pwy na chwardd?
Y MARCH A'R GWDDW BRITH.?ALAW,--Y Gadlys.
Caradog eilw 'i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;?Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.?Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a'r gwddw brith?Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith?I edrych am Garadog.
Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gad;?A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.?Yr afon foddodd fyddin,
Ond ar y march a'r gwddw brith,?Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith,?I edrych am y brenin.
Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a'r gwddw brith;?Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.?Mae 'r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau dront,?Rhufeiniaid yn eu holau ffont,?O flaen cleddyfau Cymru.
Y FERCH O'R SCER.?ALAW,--Y Ferch o'r Scer.
Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i'r telynor am rai blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y don gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a'i ofid.
'R wyf yn cysgu mewn dallineb
Ganol dydd a chanol nos;?Gan freuddwydio gweled gwyneb
Lleuad wen a seren dlos.?Tybio gweld fy mam fy hunan -
Gweld yr haul yn danbaid der;?Gweld fy hun yn rhoddi cusan
I fy chwaer a Merch y Scer.
Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw 'r ser;?Gwres oer felly yn fy nghalon
Bar adgofion Merch y Scer.?Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;?Merch y Scer sy 'n torri 'm calon,
Merch y Scer sy 'n cadw draw.
Cariad sydd fel pren canghennog,
Pwy na chara Dduw a dyn??Cangen fechan orflodeuog
Ydyw cariad mab a mun.?O! 'r wy'n diolch ar fy ngliniau,
Am y cariad pur di-ball;?Cariad chwaer sy 'n cuddio beiau -
Cariad mam sy'n caru 'r dall.
PA LE MAE 'R HEN GYMRY??ALAW,--Llwyn Onn.
Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o'r America ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr hanes am JOHN EVANS o'r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sel grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd a'r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef a'r dwymyn, a bu farw, ymhell o'i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith?aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod darawiadol.
Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;?Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.?Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;?"Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon?"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnai dywyllu,
Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;?Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.?Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.?Deffrodd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,?"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
MAES CROGEN BORE TRANOETH.?ALAW,--Y Fwyalchen.
Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ol ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin--ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.
Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;?A'r ser edrychasant ar Wynedd,
A'r bore ddilynodd yr hwyr.?'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur -?Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwyr.
Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;?Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.?Gorweddai gwr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;?Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law.
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;?Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.?Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr?Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.
TROS Y GARREG.?ALAW,--Tros y Garreg.
Pan y bydd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 23
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.