codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn
breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau
tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
"Pa le mae fy mrodyr?"
gofynnai i'r afon
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnai dywyllu,
Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr
fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid,
Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrodd yn y dwymyn, bu farw
gan ofyn,
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
MAES CROGEN BORE TRANOETH.
ALAW,--Y Fwyalchen.
Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o'r
enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y
Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ol ei wersyll
mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin--ac ar ran o'r
mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.
Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r ser edrychasant ar Wynedd,
A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur -
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwyr.
Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn
lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gwr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law.
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.
TROS Y GARREG.
ALAW,--Tros y Garreg.
Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng
Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i
sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y
gan hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent
am y ty bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.
Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd
I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw 'r af.
Ar y
mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.
Fe gaf chware ar y ddol,
Fe gaf eistedd ar y 'stol,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ol.
Pan ddaw
'r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.
BARDD YN EI AWEN.
ALAW,--Bardd yn ei Awen.
Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn
alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa
un o'r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y don yn ddigon
ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai
Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen don bur,
mwy nag i awen.
Mae Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin-fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lan;
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a'i
hoffwn ef,
Pan gwyd pen gawr y gan;
Fe aiff i ddwyfol fan,
Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel
Hedd yn hel ynghyd,
Enwadau 'r byd yn un.
Fe ddaw y Bardd i'r byd,
A'i gan i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wel y dydd;
Pwy wel y bore gwyn,
Ac heulwen deg
cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn;
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel Hedd yn
hel ynghyd
Enwadau 'r byd yn un.
CODIAD YR HAUL.
ALAW,--Codiad yr Haul.
Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i'w chanu ar offeryn na chyda
llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth
geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o'r bron heb eu cyffwrdd. Yr
oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda'r hen donau Cymreig, ac fe
ddefnyddiodd hon yn ei Acis and Galatea. Yr oedd cyfaill o Sais un tro
yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu
ddwy tros y don, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, "Ai ton Gymreig
y galwch chwi hon? Ton o waith Handel yn don Gymreig!" Yr oedd yn
dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.
Gwel, gwel! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac
wele'r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.