Ceiriog | Page 9

John Ceiriog Hughes
daith gan dywallt Dydd!
I'w wydd adar a ddont,
Dreigiau 'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy ddwed
hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y mor yn gochfor gwaed,
A'r ddaear dry o dan ei draed,
A'r
ddaear dry o dan ei draed.
Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:
I
fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dan gyneuodd Duw!
I'w daith' fyny y daw,
Llygaid dydd a'i gwelant ef draw;
Egyr pob
blaguryn byw,
Ar ros a gwaun yn rhesi gwiw -
Gwel pob peth wyn haul y nen,
E' gwyd y byd pan gwyd ei ben,
E'
gwyd y byd pan gwyd ei ben.
LLONGAU MADOG.
ALAW,--Difyrrwch y Brenin.
Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele
Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi

ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,

Ond Duw a'i dal o don i don.
Ser y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai
corwynt yn y De,
A chodai 'r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu
hynt,
I grwydro 'r mor ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor
draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.
Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y
morwyr glywn yn glir,
'R ol blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"

Canent newydd gan ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd -

Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno 'i hun.
SERCH HUDOL.
ALAW,--Serch Hudol.
Serch Hudol swyn,
Sy'n llanw 'r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu 'nghyd,
'D oes dim yn
fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
Na thybiodd dyn erioed.
Corau 'r Wynfa wen,
A ganant byth heb
ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu 'r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae can yn hedeg ar ei hynt,
Yn swn
y mor a llais y gwynt,
Bu ser y bore 'n canu gynt,
Paham na chana dyn?
Serch hudol yw,
Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw;
O'r haul sy'n llosgi fry -
I'r pryfyn tan yr hwn a roed,
I rodio 'r
clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybyr troed
Sy'n arwain i dy dy.
Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o
ddwylaw Duw,
I ble 'r a llygad dyn nad yw,

Yng ngwydd y tlws a'r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw 'r nef,
A
phob creadur greodd Ef,
O'r eryr ar ei aden gref,
I'r dryw sydd yn y drain.
BREUDDWYD Y BARDD.
Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb
sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae
seibiant yn y don ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell olaf yn
llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at
gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu
eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.
ALAW,--Breuddwyd y Bardd.
[Music not transcribed--DP]
Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlan;
A'i feddwl a hedodd i'r amser
Y gwelid ei blant wrth y tan.
Ei amrant a gauodd, ac yna
breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd -
Yng ngwynfyd ei galon
breuddwydiodd y bardd.
Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i
deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd -
Na, breuddwyd ei febyd
freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r
aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd -
Breuddwydion ei galon
freuddwydiodd y bardd.
Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynyrchion ei
awen,
Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd -
Breuddwydion ei
galon freuddwydiodd y bardd.
CORN Y GAD.
ALAW,--Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.
Ar y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai 'r gelyn ac yn uchel,

Bloeddiodd allan--"Llongau Rhyfel!"
Yna clywai gorn y gad.
Corn y gad!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy
Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw 'i ddynion.
Corn y rhyfel hollta 'r
nefoedd,
Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y
cymoedd
Gorn y gad.
Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo',

Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu 'n uwch wna corn y gad;
Corn y gad!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o'r mynyddoedd
uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i'r frwydyr gydgarlamant,


Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gad!
CORN Y GAD.
Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan
Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o'm blaen
wedi cyfansoddi can ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn
argraffedig. Fe ddichon fod y don wedi ei chyhoeddi, ac fe
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 25
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.